Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol

Diweddarwyd y dudalen ar: 23/02/2024

Gall marciau ac arwyddion ffyrdd dreulio a phylu dros amser o achos symudiad traffig a thywydd garw.

Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw marciau a llinellau ffordd gan gynnwys:

  • Llinellau melyn dwbl
  • Marciau ffordd
  • Llinellau cyffordd ffyrdd
  • Llygaid cath
  • Arwyddion Ffyrdd

Rhowch wybod i ni os oes unrhyw farciau / arwyddion ffyrdd:

  • Wedi'u difrodi
  • Wedi pylu
  • Ar goll
  • Yn pwyntio'r ffordd anghywir
  • Wedi'u cuddio
  • Angen glanhau
  • Golau ar arwydd ddim yn gweithio
  • Gwifrau gweladwy
  • Gofyn am arwydd neu farciau newydd

I roi gwybod am hyn, byddai'n hynod ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad - enw'r stryd / cyfeiriad / tirnod a defnyddiwch y map i leoli neu ddisgrifio'r union leoliad
  • Lleoliad - a yw yng nghanol y ffordd neu'n agos at y palmant/wrth ei ymyl a pha ochr i'r ffordd
  • Math o farciau / arwydd - rhowch ddisgrifiad manwl o'r marciau / arwydd a'r broblem
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

Rhoi gwybod am farciau / arwyddion ffordd diffygiol

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio