Rhoi gwybod am strwythur ar briffordd

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Fel yr Awdurdod Priffyrdd, y Cyngor sy'n gyfrifol am yr holl Strwythurau Priffyrdd sy'n eiddo i'r awdurdod a / neu sy’n cael eu cynnal ganddo. Cynhelir Arolygiadau Cyffredinol ar bob Strwythur Priffyrdd oddeutu bob dwy flynedd a chaiff rhaglenni cynnal a chadw eu llunio yn unol â hynny.

A fyddech cystal â rhoi gwybod i ni am unrhyw un o'r canlynol ar unwaith:

  • Waliau parapet wedi'u difrodi
  • Difrod (tanseilio) i’r deunydd a osodir i atal erydiad dŵr i’r strwythur
  • Malurion yn blocio / rhwystro dŵr rhag llifo'n naturiol
  • Difrod i'r bont ar ôl gwrthdrawiad
  • Difrod i'r strwythur yn dilyn storm
  • Unrhyw graciau y mae modd eu gweld

I roi gwybod am unrhyw ddiffygion a nodwyd, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Lleoliad Strwythur ac Ardal - enw / cyfeiriad / tirnod stryd a Chyfeirnod Grid o bosibl a gafwyd o system fapio Geodiscover neu gyfwerth
  • Math o Strwythur - pa fath o strwythur sydd dan sylw h.y. Bwa Gwaith Maen, Trawst Concrit, Wal gynnal, Cwlfert ac ati
  • Achos Difrod - darparwch gymaint o wybodaeth â phosibl
  • Cerbyd - darparwch unrhyw wybodaeth/ffotograffau o gerbyd i'n galluogi i adennill costau os achosir difrod yn dilyn gwrthdrawiad â phont
  • Llun - Gallwch dynnu llun ar eich ffôn clyfar pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a'i lanlwytho

RHOI GWYBOD AM BONT WEDI difrodi

RHOI GWYBOD AM WAL GYNNAL WEDI DIFRODI

I roi gwybod am argyfwng, cysylltwch â ni yn ystod oriau swyddfa ar 01267 234567 neu y tu allan i oriau swyddfa arferol ar 0300 333 2222. Yn ystod tywydd garw, efallai y bydd yn rhaid i chi ddal y llinell ar gyfer gweithredwr. Ymdrinnir â digwyddiadau mewn trefn flaenoriaeth.

Sylwer: Bydd materion a adroddir y tu allan i oriau swyddfa yn cael eu hadolygu y diwrnod gwaith nesaf, yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio