Teithio ar y trên

Diweddarwyd y dudalen ar: 29/12/2023

National Rail

Mae gwefan National Rail yn cael ei ddarparu’n annibynnol ar ran yr holl gwmnïau trenau ac arni gallwch gynllunio’ch teithiau; darllen y 'Byrddau Ymadael Byw', sef byrddau ymadael pob un o orsafoedd National Rail yn y wlad; gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau; Cyfeiriadur o Gwmnïau Trenau; cynigion arbennig a gwybodaeth ddefnyddiol arall am drenau.

Trafnidiaeth Cymru

Mae gwefan Trafnidiaeth Cymru “…yn llawn gwybodaeth am docynnau ac amserlenni – ynghyd â llu o awgrymiadau i wneud eich taith yn fwy pleserus". Ar y safle mae gwybodaeth am deithiau gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ogystal â gwybodaeth am amserlenni a chyfle i brynu tocynnau ar y we.

First Great Western

First Great Western sy’n darparu’r gwasanaeth Intercity rhwng Abertawe a Chaerfyrddin ac Abergwaun.  

Rheilffordd Calon Cymru

Defnyddiwch y wefan hon i ganfod hud Calon Cymru.  Yma cewch wybodaeth am Reilffordd Calon Cymru a sut i deithio ar y trên bach a chael cyfle i ymlacio wrth iddo fynd â chi drwy ffresni cefn gwlad a’i afonydd croyw.  Ar y wefan mae gwybodaeth am y rheilffordd, newyddion, cyfle i chi chwilio am lety, ‘taith dywys’ ar hyd y lein a llawer mwy.

Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Calon Cymru 

Ffurfiwyd y grŵp hwn yn 1981 i gefnogi Rheilffordd Calon Cymru er mwyn ceisio hybu mwy o ddefnydd o’r rheilffordd a bod yn un llais ar gyfer pob un sydd am weld y rheilffordd werthfawr hon yn cael ei chadw. Mae pobl o bob rhan o Brydain a thu hwnt yn aelodau o’r gymdeithas.  Maen nhw’n rhoi cyhoeddusrwydd iddi drwy daflenni a hysbysebu a thrwy werthu nwyddau hyrwyddo ac maent yn annog ac yn trefnu gweithgareddau sy’n debygol o ddenu pobl i ddefnyddio’r lein.  Ar y wefan cewch wybodaeth am y gymdeithas a sut i ymaelodi â hi, a manylion am y rheilffordd, teithiau cerdded, a llefydd i ymweld â nhw.

Pas Archwilio Cymru

Un tocyn, milltiroedd diderfyn. Mae Pas Archwilio Cymru yn fargen deithio na allwch fod hebddi, sy’n cynnig mynediad diderfyn (ar ôl 9am ar ddyddiau’r wythnos) i holl wasanaethau trên prif linell Cymru ac i bron bob gwasanaeth bws. Ac nid dyna’r cyfan - cewch hefyd nifer o fuddion rhyfeddol eraill, gan gynnwys mynediad 'dau am un’ neu fynediad gostyngol i lawer o brif atyniadau ymwelwyr Cymru. Mae’r cardiau sydd ar gael yn cynnwys cerdyn Cymru gyfan a chardiau rhanbarthol yn amrywio o bedwar i wyth niwrnod. Gellir prynu tocynnau yn y rhan fwyaf o orsafoedd rheilffordd wedi’u staffio a chan Asiantiaid Teithio ‘National Rail’ ledled gwledydd Prydain neu trwy ffonio 0870 9000 773. Nid yw tocynnau ar gael ar-lein.

Cymru Connect

Mae hon yn ffordd arall o gyfuno teithio ar drenau a bysiau trwy un trafodiad yn unig. Mae Cymru Connect yn gynllun sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru sy’n golygu y cewch deithio i unrhyw le yng Nghymru trwy un tocyn trên yn unig, gan ddefnyddio cyfuniad o wasanaethau trên a bws. Defnyddiwch Cymru Connect os ydych angen mynd i rywle nad yw ar y rhwydwaith rheilffordd, neu os hoffech wneud taith fyrrach trwy gyfuno teithio ar drên a bws yn hytrach na gwneud taith reilffordd hir ar draws gwlad. Mae’n gost effeithiol hefyd. Gellir prynu tocynnau mewn unrhyw orsaf reilffordd yng ngwledydd Prydain. Er mwyn cael mwy o wybodaeth ewch i:

Network Rail

Cwmni peirianneg yw Network Rail a ffurfiwyd i adfywio rheilffyrdd Prydain.  Nhw sy’n cynnal, gwella ac yn uwchraddio pob agwedd ar y seilwaith reilffyrdd gan gynnwys y trac, y systemau signalau, twnelau, y croesfannau, y gorsafoedd etc.  Nid ydynt yn darparu gwasanaethau trên; eu prif gwsmeriaid sef y cwmnïau trên a chludo nwyddau sy’n gwneud hynny.  Ar eu gwefan mae gwybodaeth am y cwmni, y gwaith peirianneg a phrosiectau, rheoli’r seilwaith, cyfrifoldeb corfforaethol ac ati.

Teithio, Ffyrdd a Pharcio