Arwyddion rhybuddio marchogaeth

Diweddarwyd y dudalen ar: 27/01/2021

Gallwch wneud cais am arwyddion os yw llwybr ceffylau / llwybr cerdded / llwybr gwyrdd yn croesi'r briffordd, gan gynnwys croesfan fras sy'n gofyn i farchogion ddefnyddio rhan o'r briffordd sy'n cysylltu llwybr ceffylau / llwybr cerdded / llwybr gwyrdd a hefyd ar bwyntiau mynediad marchogaeth ar y briffordd, er enghraifft cyfleuster lleol lle gall marchogion yn gwrdd a ymgynnull.

Sut i wneud cais?

I wneud cais, bydd angen i chi ddarparu'r canlynol:

  • Cynllun o lwybrau a gymerir fel rheol a hyd y llwybrau
  • Cynllun o bwyntiau croesi ar y briffordd gyda lleoliadau penodol wedi'u nodi
  • Nifer y ceffylau a gedwir mewn stablau
  • Nifer y marchogion rheolaidd
  • Nifer y ceffylau yn croesi

Danfonwch eich ffurfflen ymgais drwy e-byst i rheolitraffig@sirgar.gov.uk neu postiwch i Adran Gwasanaethau Technegol, Adran Rheoli Traffig, Parc Myrddin, Teras Richmond, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1HQ.

Unwaith fyddwn wedi derbyn eich cais byddwn yn adolygu hanes damweiniau a hanes digwyddiadau sy'n cynnwys cerbydau, cerddwyr a cheffylau gan y bydd y wybodaeth hon yn cael ei ystyried. Fel rhan o'n hasesiad, byddwn yn adolygu cyfrolau traffig, cyflymder canolig cerbydau a'r gwelededd ar y ffyrdd.

Byddwn hefyd yn cysylltu â Chymdeithas Ceffylau Sir Gar ar ran yr ymgeisydd i ganfod eu barn ar y lleoliad arfaethedig.

Bydd eich cais yn cael ei asesu o fewn 6 i 8 wythnos.

Nid oes tâl am y cais hwn.

Lawrlwythwch ffurflen Gais (.pdf)

Teithio, Ffyrdd a Pharcio