Cau ffordd o ganlyniad i waith brys

Diweddarwyd y dudalen ar: 28/03/2024

Ceisiadau mewn argyfwng

Dim ond pan fydd perygl uniongyrchol i ddefnyddwyr y ffordd neu'r cyhoedd yn gyffredinol y derbynnir ceisiadau fel argyfwng. Nid yw mân ollyngiadau yn cael eu hystyried yn argyfwng a bydd angen i chi wneud cais am gau ffordd wedi'i gynllunio yn y sefyllfaoedd hyn. Os gallwch gynnal lled ffordd o 3.2 metr neu fwy, nid oes angen i chi wneud cais am gau ffordd ond bydd angen i chi ein hysbysu o'r gwaith ac yn dibynnu ar natur y gwaith ffordd efallai y bydd angen i chi wneud cais am oleuadau traffig cludadwy a'r drwydded gwaith stryd berthnasol.

Enghreifftiau o argyfwng

  • Prif byrstio dŵr eithafol
  • Gollyngiad nwy difrifol
  • Twll sinc
  • Ceblau pŵer ar y ffordd

Ffioedd cau ffyrdd mewn argyfwng

Mae cau ffyrdd mewn argyfwng yn costu £2000.00 Rydym yn derbyn taliadau cardiau debyd / credyd.

Gallwn hefyd ddarparu arwyddion ar gyfer y llwybr amgen am gost ychwanegol o £263.00

Tâl am newidiadau i'r gorchmynion a'r hysbysiadau presennol, i gynnwys newidiadau mewn dyddiadau - £400.00

Sut i wneud cais

I wneud cais am gau ffordd mewn argyfwng, bydd angen i chi ddarparu:

  • Tystiolaeth ffotograffig a / neu ysgrifenedig i brofi'r perygl uniongyrchol i ddefnyddwyr ffyrdd neu'r cyhoedd. Bydd methu â darparu tystiolaeth ddigonol yn arwain at yr angen i gynnal cyfarfod safle cyn y gellir cychwyn ar y gwaith.
  • Llwybr amgen addas y gellir ei ddefnyddio.
  • Cynllun lleoliad y cau.
  • Ffioedd

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, bydd angen i chi ein ffonio ar 01267 228279/228243 (dydd Llun - dydd Gwener, 9am - 5pm) i'w gymeradwyo cyn i'r gwaith ddechrau. Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 0300 333 2222.

Cais i cau ffordd o ganlyniad waith brys

Teithio, Ffyrdd a Pharcio