Cynllun parcio i breswylwyr

Diweddarwyd y dudalen ar: 15/01/2024

Mae cynlluniau parcio i breswylwyr wedi’u cyflwyno mewn rhai strydoedd i atal cymudwyr rhag parcio am ddim a rhyddhau lleoedd parcio i breswylwyr. Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol ar BOB gŵyl banc ac eithrio Dydd Nadolig ac oni nodir yn wahanol, Nid ydynt yn gwarantu lle parcio ond maent yn gymorth i reoli a blaenoriaethu mannau parcio ar gyfer y rheiny sy'n byw yn llawn amser yn yr ardaloedd hynny.

Mae hawlenni’n ddilys am 12 mis. Nid yw hawlen yn gwarantu lle i chi barcio'ch cerbyd - dim ond rhoi caniatâd i chi barcio yn y parth priodol os bydd lle ar gael. Mae’r caniatâd hwn ond yn berthnasol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod yr amseroedd a nodir ym mhob Parth, ar yr amod bod gennych drwydded ddilys wedi’i harddangos yn glir.

Nid yw hawlen yn caniatáu i chi barcio ar y canlynol:

  • llinellau melyn yn ystod amser eu weithredu
  • yn yr ardaloedd cyfyngedig aros ‘un awr’ am fwy nag awr .

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod hawlenni neu eu cilio os bydd aelwydydd yn camddefnyddio'r cynllun.

Rydym yn argymell yn gryf, cyn symud tŷ, eich bod yn sicrhau y gwneir y gwiriadau angenrheidiol gennych chi neu eich cynrychiolwyr cyfreithiol i sicrhau bod eich darpar gartref yn gymwys i dderbyn hawlen parcio i breswylwyr.

Isod mae'r mathau o hawlenni sydd ar gael, y prawf sydd ei angen a'r costau yn ogystal â'r Cwestiynau Cyffredin mwyaf cyffredin ar gyfer Parcio i Breswylwyr.

Anfonir eich hawlen drwy’r post. Caniatewch deg diwrnod gwaith ar gyfer ei hanfon a pheidiwch â pharcio yn yr ardal parcio i breswylwyr nes iddi gyrraedd.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, anfonwch neges e-bost atom.

Gweler isod ein cwestiynau mwyaf cyffredin yn ymwneud â Parcio i Breswylwyr ar draws Sir Gaerfyrddin, os nad yw eich ymholiad yn cael ei ateb yma e-bostiwch TSResidentsParking@sirgar.gov.uk

Mae Hawlen Parcio i Breswylwyr ar gyfer preswylwyr-cerbydau modur sy’n pwyso llai yn wag na 2 dunnell fetrig ac/neu yn mesur llai na 5.3 metr (17’ 4”) o hyd neu ag uchafswm o 8 sedd i deithwyr. (Yn cynnwys cerbydau LPG neu drydan).

  • Dim mwy na 2 hawlen fesul aelwyd
  • Bydd pob hawlen £30. Perchenogion cerbydau LPG neu drydan Di-dâl
  • Mae angen 2 brawf o ran cyfeiriad preswyl ynghyd â phrawf fod gennych hawl i yrru’r cerbyd.

Cyhoeddir y drwydded ar gyfer cerbyd penodol. Os byddwch yn newid eich cerbyd dros dro, am gyfnod sydd heb fod yn hwy nag wythnos (h.y. car cwrteisi tra fo eich cerbyd arferol yn cael gwasanaeth/ei atgyweirio, neu gar hurio) gallwch ddefnyddio eich hawlen ymwelwyr. Bydd angen i berchenogion cerbydau LPG neu drydan gyflwyno prawf fod eu cerbydau yn defnyddio LPG neu drydan.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Mae Trwydded Parcio i Ymwelwyr yn caniatáu i ymwelwyr barcio yn y Parth Ardal Gyfyngedig. Cyhoeddir i’r preswylydd cyntaf o bob cartref i wneud cais am hawlen preswylydd. Gellir ei roi hefyd, ar dderbyn cais, i’r preswylwyr hynny sydd heb fod yn berchen ar gar neu heb wneud cais am hawlen i breswylwyr. Parcio ar gyfer ceir, a faniau ysgafn yn unig.

  • Dim mwy na 1 hawlen
  • £30 am bob hawlen
  • Os nad ydych wedi gwneud cais am hawlen i breswylwyr rhaid i chi gyflwyno 2 brawf o’ch cyfeiriad preswyl.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Rhoddir Trwydded Parcio Busnes ar gyfer Busnes sydd wedi'i leoli yn y parth sydd angen parcio cerbydau cwsmeriaid neu fusnes.

  • Dim mwy na 1 hawlen
  • £50 am bob hawlen
  • Profion: Mae'n ofynnol cael copi o'r Lluosydd Trethu Annomestig i'r busnes

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Mae Trwydded Parcio Gofalwyr ar gael i breswylwyr sy’n dioddef salwch neu anabledd hir dymor neu sydd angen goruchwyliaeth reolaidd.

  • Dim mwy na 1 hawlen
  • Di-dâl
  • Bydd angen prawf am yr angen am oruchwyliaeth feddygol.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Nid oes angen i ddeiliaid Bathodynnau Glas bellach brynu hawlen i breswylwyr i barcio ar eu stryd gan fod arddangos Bathodyn Glas dilys yn ddigon.

Fodd bynnag, os byddwch yn teithio’n rheolaidd gyda ffrindiau neu deulu yn eu ceir ac yn dibynnu ar eich bathodyn glas ar gyfer parcio yn eich cyrchfan, rydym yn argymell eich bod yn prynu hawlen i breswylwyr ar gyfer eich car chi eich hun er mwyn osgoi cael hysbysiad tâl cosb am beidio ag arddangos hawlen ddilys neu Fathodyn Glas tra roeddech oddi cartref.

Bydd gwasanaethau parcio yn cysylltu â chi 30 diwrnod cyn eich dyddiad adnewyddu gyda nodyn atgoffa. Os nad ydych wedi derbyn / colli eich nodyn atgoffa e-bostiwch TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Mae angen i chi sicrhau:

  • Fod eich enw ar y dreth gyngor / busnes
  • Fod manylion cerbydau yn aros yr un fath

Bydd angen:

  • Cyfeirnod y cais (darperir ar y nodyn atgoffa)
  • Cod post
  • Cerdyn Debyd / Credyd

ADNEWYDDU AR-LEIN

Mae gan bob eiddo sydd wedi’i gynnwys yn y ‘Cynllun Parcio i Breswylwyr’ hawl i uchafswm o 2 Hawlen Preswylydd ac 1 Hawlen Ymwelwyr. Cewch hefyd wneud cais am hawlen Gofalwr ychwanegol os oes ar y preswylydd angen gofal rheolaidd. Ni roddir Hawlen Gofalwr i berson sy'n byw yn yr eiddo.

Os byddwch yn colli neu ddifrodi eich hawlen neu’n newid eich cerbyd ac angen hawlen newydd, bydd angen i chi wneud cais o’r newydd gan amgáu’r holl brofion a’r tâl. Bydd unrhyw hawlen a gyhoeddir yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y’i cyhoeddir. Os byddwch yn newid cerbyd bydd angen i chi ildio eich hawlen bresennol. Codir y tâl i dalu am y costau gweinyddol o gynhyrchu hawlen newydd.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Os byddwch yn symud o’ch cyfeiriad dylech ddychwelyd eich hawlen(ni) atom fel y gallwn eu canslo. Anfonwch eich hawlen(ni) i:

Cyngor Sir Caerfyrddin
Gwasanaethau Parcio
Bwlch Post 90
Caerfyrddin
SA31 3WR

Mae gwneud hyn yn hollbwysig i gynnal y system hawlenni parcio gan na allwn roi hawlen(ni) i ddeiliad newydd eich cartref nes y byddwch chi wedi dychwelyd eich hawlen(ni) chi.

Os ydych newydd symud i mewn dylech gyflwyno’r profion y gofynnir amdanynt yn yr Adran uchod ‘Crynodeb o Reolau’r Cynllun’. If you move to another permit parking zone you will need to apply for a permit for the new zone. Os byddwch yn symud i barth parcio arall rhaid i chi wneud cais am hawlen ar gyfer y parth newydd. Bydd hyn yn galw am lenwi ffurflen gais o’r newydd, cyflwyno’r profion cywir ac amgáu’r tâl priodol. Cofiwch eich bod yn ildio’r hawlen(ni) oedd yn berthnasol i’ch hen gyfeiriad.

 

A gaf drosglwyddo gweddill fy amser ar yr hawlen i'm cyfeiriad newydd?

Na chewch. Ni ellir trosglwyddo hawlenni ac ni ellwch fynd â hwy gyda chi i gyfeiriad newydd hyd yn oed os byddwch yn aros yn yr un parth. Mae hawlenni’n benodol i gyfeiriad yr eiddo hwnnw ac i gerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y cyfeiriad hwnnw gyda’r DVLA.

 

A gaf drosglwyddo fy hawlen i berson arall sy'n byw yn yr eiddo?

Na chewch. Os nad yw deiliad yr hawlen ei hangen bellach, dylid dychwelyd yr hawlen honno. Bydd yn cael ei chanslo ac yna gall preswylydd arall yn y tŷ brynu hawlen newydd.

 

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, e-bostiwch ni: TSParcioiBreswylwyr@sirgar.gov.uk.

Os bydd gennych gerbyd gwahanol dros dro am gyfnod o ddim mwy nag wythnos (e.e. car cwrteisi tra bydd eich cerbyd yn cael ei drwsio/gwasanaeth neu gar wedi ei hurio) cewch ddefnyddio eich hawlen ymwelwyr. Os bydd arnoch angen mwy nag 1 wythnos bydd angen i chi gysylltu ag adran y Gwasanaethau Parcio am gymeradwyaeth.

E-bost: Parcio@sirgar.gov.uk

Ffôn: 01267 234567

Os byddwch yn newid eich cerbyd ac angen hawlen newydd, bydd angen i chi wneud cais newydd ynghyd â'r prawf perthnasol a'r taliad. Bydd unrhyw hawlen newydd a roddir yn ddilys am 12 mis o ddyddiad ei chyhoeddi. Os byddwch yn newid cerbyd bydd angen i chi ildio eich hawlen gyfredol. Mae'r tâl ar gyfer talu'r gost weinyddol sy'n gysylltiedig â chynhyrchu hawlen newydd.

 

Cewch wneud cais am dystysgrif hepgor gollyngiad yn rhad ac am ddim. Wrth i chi ddisgwyl i gais gael ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu ichi barcio mewn mannau cyfyngedig tra bydd gwaith yn cael ei wneud. Ni roddir gollyngiadau ond ar gyfer faniau gweithio i weithwyr gael mynediad cyson at offer a chyfarpar.

Cewch hefyd wneud cais am Hawlen Landlord Dibreswyl. Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a darparu copi o'ch bil Treth Gyngor yn dangos bod yr eiddo yn wag ac yn cael ei adeiladu. Bydd angen i chi hefyd dalu'r ffi safonol o £30. I ofyn am ffurflen gais, anfonwch e-bost i TSResidentsParking@sirgar.gov.uk

Mae Hawlen Parcio Blynyddol ar gael i'w prynu ar-lein ar gyfer y lleoliadau canlynol:

  • Parc Gwledig Pen-bre
  • Llyn llech Owain
  • Parc Arfordirol y Mileniw

Os na allwch brynu'ch hawlen barcio gartref a bod angen rhywfaint o gymorth arnoch, gallwch fynd i unrhyw un o'r lleoliadau a ganlyn lle bydd y staff yn fwy na pharod i'ch cynorthwyo yn eich pryniant:

  • Parc Gwledig Pen-bre, Penfro Sir Gaerfyrddin, SA16 0EJ
  • Hwb Llanelli, 36 Stepney Street, Llanelli, SA15 3TR
  • Hwb Ammanford, 41 Quay Street, Amanford, SA18 3BS
  • Hwb Caerfyrddin, 3 Spilman Street, Caerfyrddin, SA31 1LE

I wneud cais am hawlen barcio flynyddol bydd angen dogfennaeth arnoch i ddangos bod eich cerbyd (au) wedi'u cofrestru i'ch cyfeiriad cartref. Gall hyn gynnwys llyfr log neu ddogfen yswiriant.

Prynu trwydded barcio flynyddol

 

Llwythwch mwy