Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/09/2023

Os gallwch gynnal lled ffordd o 3.2 metr neu fwy neu gadw'r ffordd ar agor i breswylwyr e.e. ar ffordd bengaead, nid oes angen i chi wneud cais am gau ffordd ond bydd angen i chi ein hysbysu o'r gwaith. Yn dibynnu ar natur y gwaith ffordd efallai y bydd angen i chi wneud cais am oleuadau traffig cludadwy a'r drwydded gwaith stryd berthnasol.

I wneud cais am hysbysiad o waith, bydd angen i chi ddarparu:

  • Cynllun lleoliad y gwaith
  • Hyd y gwaith
  • Dyddiadau dechrau a gorffen gwaith

Nid oes unrhyw ffi am y math hwn o gais.

Dim ond ar ôl i chi dderbyn e-bost yn cadarnhau cymeradwyaeth y dylai'r gwaith ddechrau.

Hysbysu am gwaith yn y ffyrdd

Teithio, Ffyrdd a Pharcio