Mynediad i gerbydau i dramwyfeydd (cyrbau isel)

Diweddarwyd y dudalen ar: 31/03/2024

Gallwch wneud cais am drwydded i leihau'r cwrbyn y tu allan i'ch eiddo ac ailadeiladu'r droedffordd/ymyl y ffordd sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Cais am Fynediad i Gerbydau.

Sylwch y bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am dalu cost lawn y drwydded a'r costau adeiladu. Mae'r drwydded yn cymryd 28 diwrnod i'w phrosesu a'i chyflwyno.

Bydd yn ofynnol i gontractwyr preifat sy'n gwneud gwaith feddu ar garden achredu ddilys ar gyfer gwaith stryd ac o leiaf £10 miliwn o indemniad atebolrwydd cyhoeddus.

Bydd angen ichi wybod a yw'r ffordd rydych yn dymuno lleihau'r cwrbyn arni yn 'ffordd dosbarth A, B neu C', gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio tudalen we Ffeindio fy Stryd

Ar gyfer ffyrdd dosbarth A, B neu C, mae'n rhaid ichi hefyd gysylltu â'r Adran Gynllunio er mwyn cadarnhau a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio. Os oes angen, bydd angen ichi gael caniatâd cynllunio cyn cyflwyno eich cais am drwydded S184 i ni.

Mae mynediad safonol yn cynnwys 4 cwrbyn isel a 2 gwrbyn pontio. Ystyrir ceisiadau am fynediad lletach ond ni fyddant o reidrwydd yn cael eu cymeradwyo.

Ffioedd

Codir ffi o £188 am wneud cais am i Swyddog brosesu'r cais, er mwyn asesu a ganiateir mynediad ai peidio - ni ellir ad-dalu'r ffi hon. 

Os caiff eich cais ei gymeradwyo a'i ganiatáu, eich cyfrifoldeb chi fydd penodi a thalu contractwr sy'n meddu ar gymwysterau addas i wneud y gwaith hwn yn unol â gofynion Cyngor Sir Caerfyrddin. Yn ogystal, eich dyletswydd chi yw rhoi gwybod i'r Cyngor pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn i Arolygydd Gwaith Stryd y Cyngor ddod i arolygu'r gwaith.

Lawrlwythwch ffurflen gais ar gyfer cwrbyn isel (.PDF)

Teithio, Ffyrdd a Pharcio