Tystysgrif hepgor gollyngiad

Diweddarwyd y dudalen ar: 20/01/2020

Gall Tystysgrif Hepgor gael ei rhoi yn ôl ein disgresiwn ni, er mwyn caniatáu i gerbyd penodol aros yn y ffordd neu mewn lle parcio yn ystod oriau gweithredu unrhyw gyfyngiad neu waharddiad mewn perthynas â hynny.

Pan fo gollyngiad yn ofynnol bydd yn rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig a hynny dri diwrnod cyn y dyddiad y dymunir iddo ddod i rym.

Fel rheol ni roddir gollyngiadau ar gyfer parcio mewn:

  • Arosfannau bysiau
  • Safleoedd tacsis
  • Llefydd parcio i ddoctoriaid
  • Llefydd parcio i bobl anabl
  • Llefydd lle mae gwaharddiad ar lwytho/dadlwytho
  • Ar bafinau

Bydd y Dystysgrif Hepgor yn cynnwys manylion penodol am y math o le parcio a'r lleoliad. Mae'n rhaid bod y cerbyd yn cael ei barcio fel nad yw'n achosi perygl i gerddwyr nac i ddefnyddwyr ffyrdd eraill, fel nad yw'n rhwystro pobl rhag gweld wrth gyffyrdd, fel nad yw'n atal mynediad, ac fel nad yw'n amharu ar lif y traffig.

Caiff y dystysgrif ei hanfon naill ai drwy'r post, drwy'r e-bost neu drwy'r peiriant ffacs fel y bo'r gofyn. Gellir canslo tystysgrif hepgor unrhyw bryd yn ôl disgresiwn y Cyngor. Caiff y sawl dan sylw ei hysbysu ynghylch hyn yn ysgrifenedig.

Gwneud cais am ganiatâd i barcio

Teithio, Ffyrdd a Pharcio