Bandiau Treth Gyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/05/2023

Mae Treth Cyngor yn dreth sydd yn cael ei sefydlu gan cynghorwyr lleol i helpu dalu am wasanaethau yn yr ardal. Treth y Cyngor yw'r ffurf gyfredol ar drethi lleol mewn perthynas ag eiddo domestig, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i godi arian i dalu am oddeutu 16% o gostau gwasanaethau lleol fel Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Casglu Sbwriel etc.

Mae bil Treth y Cyngor wedi'i rannu yn dair rhan - costau'r Cyngor Sir, Costau'r Cyngor Cymuned, Costau Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys.

Bydd eich bil yn dangos faint o'r tâl a delir i'r tri pharti.  Mae'r Cyngor yn pennu'r tâl ar eiddo sy'n lefel Band D ond bydd y symiau a delir ar eiddo mewn bandiau eraill yn fwy neu'n llai yn ôl y cymarebau canlynol.

Band A B C D E F G H I
Cymhareb 6/9 7/9 8/9 9/9 11/9 13/9 15/9 18/9 21/9

Dewiswch eich band i gael gwybod am daliadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 (ar gyfartaledd ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned):

Gallwch ddod o hyd i fand prisio'r dreth gyngor ar gyfer eiddo trwy ymweld â wefan Gov.uk. Fodd bynnag, cofiwch y gall y band prisio gael ei ailasesu gan y Swyddog Prisio mewn amgylchiadau penodol e.e. os penderfynir bod yr asesiad diwethaf yn anghywir neu os oes cynnydd gwirioneddol wedi bod ym mhris eiddo a bod yr eiddo wedyn yn cael ei werthu neu ei brydlesu am 7 mlynedd neu ragor. Er Mwyn deal pam bod eich eiddo mewn band penodol ewch i dolen Sut y Caiff Eiddo Domestig ei Asesu ar Gyfer Bandiau Treth Cyngor ar Gov.uk.

Bydd y tâl blynyddol cyfredol am eiddo yn dibynnu ar y band prisio a aseswyd a'r gymuned y mae'r eiddo wedi'i leoli ynddi. Mae'r bil Treth Gyngor llawn yn cymryd yn ganiataol bod o leiaf dau oedolyn yn byw yn eich cartref. Fodd bynnag, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael gostyngiad neu i gael eich eithrio rhag talu.