Gwybodaeth am fandiau Treth Gyngor
Diweddarwyd y dudalen ar: 15/02/2024
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio’n llunio ac yn cynnal y rhestyr Treth Gyngor ar gyfer eiddo domestig.
Gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu’ch band Treth Gyngor os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir a’ch bod wedi bod yn drethdalwr am lain a chew mis, neu fod eith band wedi newid yn ystod y chew mis diwethaf.
Os na fydd hyn yn berthnasol gallwch ofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio o hyd adolygu’ch band Treth Gyngor, ond bydd angen i chi roi tytiolaeth ategol gref sy’n dangos pam eith bod eich eiddo yn y band anghywir.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn caniatau i chi wirio’ch band a chyflwyno her os ydych o’r farn y gallai’ch band fod yn anghywir.
Sylwch fod y Swyddfa Brisio yn canoli eu holl bost i'r swyddfa hon:
Valuation Office Agency
Durham Customer Service Centre
Wycliffe House
Green Lane
Durham DH1 3UW