Eithriadau ar gyfer Treth y Cyngor

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/09/2023

Fel rheol, mae'n rhaid talu Treth y Cyngor yn llawn ar eiddo sydd â dau neu fwy o oedolion yn byw ynddo, a hefyd talu Treth y Cyngor yn llawn ar gyfer eiddo gwag (ar ôl cyfnod cychwynnol o chwe mis yn rhad ac am ddim).

Cynigir gostyngiadau ar gyfer pobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain a chartrefi pobl ag amgylchiadau arbennig a gall eiddo sy’n bodloni amodau penodol gael ei eithrio’n llawn.

Mae'r rhain yn nodiadau byr am arweiniad yn unig a gall amodau pellach fod yn berthnasol.

Amgylchiadau Sylwadau
Os yw eiddo'n dod yn wag a heb ddodrefn. Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 6 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o perchennog neu Dalwr y Dreth Gyngor. 
Preswylfeydd gwag a heb ddodrefn lle mae gwaith mawr angen ei wneud, yn cael ei wneud neu newydd ei gwblhau Mae'r eithriad yn gyfyngedig i gyfnod o 12 mis hyd yn oed os yn dilyn newid o perchennog neu Dalwr y Dreth Gyngor. 
Eiddo sydd wedi'u gadael yn wag gan gleifion mewn ysbytai neu gartrefi gofal. Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys.
Preswylfeydd a adewir yn wag gan bobl sy'n derbyn gofal (ac eithrio mewn ysbyty/cartref gofal). Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n derbyn gofal. Nid yw cyfnodau ymadfer byr yn gymwys.
Preswylfeydd wedi'u gadael yn wag gan bersonau sy'n rhoi gofal. Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd prif gartref y person sy'n rhoi gofal.
Mae’r talwr Treth y Cyngor wedi marw ac ni fu neb yn byw yn yr eiddo ers hynny. Mae eithriad yn berthnasol i berchenogion ymadawedig (pan nad oes perchennog presennol) ac i  denantiaid ymadawedig pan fo'r cynrychiolwyr personol yn dal yn gyfrifol am dalu'r rhent. Bydd yr eithriad yn dod i ben 6 mis ar ôl cael grant profiant neu lythyron gweinyddu (ond gall gostyngiad fod yn berthnasol wedi hyn)
Preswylfeydd sydd wedi'u hadfeddiannu gan y rhoddwr morgais. Rhaid i'r eiddo fod heb breswylydd.
Rhandai heb eu meddiannu. Yn unig lle nad oes modd gosod y rhandy ar wahân i'r prif gartref oherwydd cyfyngiadau cynllunio.
Eiddo gwag ym mherchnogaeth elusennau. Am gyfnod heb fod yn hwy na 6 mis yn amodol ar yr eiddo yn cael ei ddefnyddio at fwriadau'r elusen.
Eiddo gwag sy'n perthyn i glerigwyr. Wedi'i eithrio os yw'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefyddol.
Eiddo a adawyd yn wag gan garcharorion. Mae'n ofynnol mai'r breswylfa oedd, neu fydd, eu prif gartref (nid yw'n gymwys os methiant i dalu Treth y Cyngor neu dirwy oedd y drosedd).
Eiddo y gwaherddir eu meddiannu gan y gyfraith. Nid yw'n gymwys os yw'r eiddo yn cael ei feddiannu yn anghyfreithlon.
Preswylfeydd gwag sy’n eiddo i fyfyrwyr Y tro diwethaf y bu rhywun yn preswylio yno, rhaid i'r eiddo fod wedi'i ddefnyddio yn brif gartref y myfyriwr/myfyrwraig sy’n berchen arno. Rhaid i'r perchennog fod wedi bod yn fyfyriwr/ myfyrwraig ers iddo/iddi adael, neu fod wedi mynd yn fyfyriwr/ myfyrwraig cyn pen 6 wythnos ar ôl ymadael.
Preswylfeydd a adawyd yn wag gan fethdalwyr. Dim ond pan fo'r un sy'n agored i'r dreth yn ymddiriedolwr(aig) y caniateir hyn.
Llain ar gyfer carafán neu angorfa. Yn unig pan nad oes carafán neu gwch yn eu defnyddio.
Neuaddau preswyl myfyrwyr. Rhaid i'r llety fod yn eiddo i sefydliad addysgol penodedig neu gorff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig neu dan reolaeth sefydliad/corff o'r fath.
Preswylfeydd lle mae dim ond y bobl berthnasol yn byw ynddynt h.y. myfyrwyr amser llawn, rhai dan 20 oed sy'n ymgymryd â chwrs rhan-amser cymwys, neu gynorthwywyr iaith dramor.
neu bobl nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner sifil / dibynnydd i'r uchod
neu rai penodol sy'n gadael ysgol/coleg.
Rhaid i fyfyrwyr rhan-amser fod dan  20 oed ac yn astudio ar gyrsiau a gynhelir fel rheol yn ystod y dydd ac nad ydynt yn gyrsiau addysg uwch,
Rhaid atal y rhai nad ydynt o Brydain ac sydd hefyd yn briod / partner / dibynnydd rhag ymgymryd â gwaith cyflogedig a rhag hawlio budd-daliadau gwladol, a
rhaid i'r rhai sy'n gadael ysgol fod wedi gwneud hynny ar ôl 30ain Ebrill a chyn 1af Tachwedd unrhyw flwyddyn.
Preswylfeydd â dim ond pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol yn byw ynddynt neu lle mae pobl berthnasol hefyd yn byw. Nid yw hyn yn berthnasol os nad yw’r sawl sydd â nam meddyliol difrifol yn agored i'r dreth fel arall e.e. cartref nyrsio pan fo'r perchennog ac nid y preswylydd yn agored i'r dreth. Bydd yn rhaid cael tystysgrif gan feddyg a rhaid i'r un dan sylw fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys. Mae'r eithriad yn dal yn berthnasol os yw person perthnasol hefyd yn preswylio yno (gweler y categori uchod i gael gwybod pwy sy'n berson perthnasol).
Rhandy lle mae perthynas oedrannus neu anabl yn byw. Rhaid iddi fod yn brif breswylfa i un sy'n 65 oed neu'n hŷn, neu sydd â nam meddyliol difrifol neu sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Rhaid iddo/iddi berthyn hefyd i un sy'n byw yn y brif breswylfa.
Preswylfeydd â dim ond pobl dan 18 oed yn byw ynddynt. Bydd yr eithrio’n para hyd nes y bydd y preswylydd yn 18 oed.
Llety i'r lluoedd arfog. Mae'r eithrio'n berthnasol i breswylfeydd sy'n eiddo  i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn p'un a oes rhywun yn preswylio ynddynt ai peidio.
Preswylfa lle mae un sydd ag imiwnedd neu freintiau diplomyddol (neu debyg) yn byw. Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r un dan sylw yn agored i'r dreth fel arall. Rhaid i'r un dan sylw beidio â bod yn ddinesydd Prydeinig nac yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig.
Aelod o Lu ar Ymweliad (neu ddibynnydd aelod o'r fath) sy'n byw yn y breswylfa. Nid yw'r eithrio'n berthnasol os nad yw’r person yn agored i'r dreth fel arall. Mae'n berthnasol hefyd i aelod o elfen sifil y Llu, neu ddibynnydd aelod o'r fath, os nad yw'r un dan sylw'n ddinesydd Prydeinig neu os nad yw fel rheol yn byw yn y Deyrnas Unedig.

Mae'r rhain yn nodiadau byr am arweiniad yn unig a gall amodau pellach fod yn berthnasol. 

Amgylchiadau Sylwadau
O dan 18 oed. Nid ystyrir bod y person yn breswylydd at ddibenion Treth y Cyngor – Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.
Myfyrwyr llawn-amser, Myfyrwyr o dan 20 mlwydd oed sydd ar cwrs rhan-amser a chynorthwywyr ieithoedd tramor. Gwelwch hefyd preswylfeydd eithriedig.
Un nad yw o Brydain ac sydd hefyd yn briod, yn bartner sifil neu'n ddibynnydd i un sydd yn y categori a ddangosir yn union uwchben. Rhaid ei (h)atal rhag derbyn gwaith â thâl neu hawlio budd-daliadau gwladol - gweler hefyd eiddo eithriedig sy'n ymwneud â myfyrwyr ac ati.
Personau 18 a 19 oed sydd wedi gadael yr ysgol ar ôl 30ain Ebrill. Caniateir gostyngiad hyd at 1af Tachwedd.
Pobl y mae Budd-dal Plant yn daladwy iddynt. Mae hyn yn berthnasol i rai 18 oed neu hŷn (nid ystyrir rhai dan 18 oed yn breswylwyr).
Ieuenctid dan hyfforddiant. Rhaid iddo/iddi fod dan 25 oed ac yn ymgymryd â chwrs hyfforddiant cymeradwy.
Prentisiaid. Rhaid iddo/iddi fod yn ymgymryd â chwrs hyfforddiant sy'n arwain at gymhwyster cydnabyddedig a rhaid iddo/iddi beidio â chael tâl o fwy na £195.00 yr wythnos.
Pobl sy'n byw gyda pherson anabl ac sy'n gofalu amdano/amdani. Ac eithrio os yw'r person yn gofalu am ei briod, am ei bartner neu am blentyn sydd dan 18 oed (os taw’r gofalwr yw’r rhiant). Rhaid i ofal gael ei ddarparu am o leiaf 35 awr yr wythnos (ar gyfartaledd). Rhaid i'r sawl sy'n derbyn gofal fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys.
Gweithwyr gofal ar gyflog isel. Gofalu am o leiaf 24 awr yr wythnos a chael £44.00 yr wythnos ar y mwyaf.
Pobl sydd â nam meddyliol difrifol. Bydd yn ofynnol cael tystysgrif gan feddyg a rhaid i'r person fod yn gymwys i gael budd-dal gwladol cymwys. Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.
Carcharorion dan gollfarn a charcharorion yn aros eu prawf. Ar wahân i'r adegau pan fo'r drosedd yn ymwneud â methiant i dalu Treth y Cyngor neu dirwy.
Person y mae ei brif breswylfa mewn ysbyty Nid ystyrir y person o ran y breswylfa a ddarperir yn yr ysbyty.
Person y mae ei brif breswylfa mewn cartref nyrsio/gofal Rhaid iddo/iddi fod yn derbyn gofal neu driniaeth er mwyn iddo/iddi gael ei (d)diystyru o ran y cartref nyrsio/gofal.
Aelodau cymuned grefyddol. Yn amodol nad oes unrhyw incwm neu gyfalaf personol (nid yw derbyn pensiwn yn golygu nad yw person yn gymwys)
Preswylwyr hosteli i'r digartref neu lochesau nos. Rhaid i'r eiddo gael ei ddefnyddio yn ei hanfod ar gyfer pobl heb gartref sefydlog a rhaid i'r llety beidio â bod yn hunan-gynhwysol.
Aelodau o lu sydd ar ymweliad, a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt. Gall hefyd fod yn aelod o elfen sifil y llu, neu'n ddibynnydd aelod, os nad yw'r dibynnydd yn ddinesydd Prydeinig neu'n preswylio fel rheol yn y Deyrnas Unedig.
Aelodau Cyfundrefnau Pencadlysoedd ac Amddiffyn Cydwladol, a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt Sefydliadau a ddynodir o dan Adran 1 o Ddeddf Cyfundrefnau Pencadlysoedd ac Amddiffyn Cydwladol 1964. Hefyd gweler ‘preswylfeydd eithriedig’.
Pobl sydd ag imiwnedd neu freintiau diplomyddol (neu debyg). Rhaid iddo/iddi beidio â bod yn ddinesydd Prydeinig nac yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, gweler preswylfeydd eithriedig.

Ebostiwch: Trethcyngor@Sirgar.gov.uk