• English
  • Hepgor gwe-lywio

Cymorth i ddysgwyr

 Mae'r termau ‘anghenion dysgu ychwanegol’ (ADY) neu ‘anghenion addysgol arbennig’ (AAA) yn cyfeirio at blant sydd ag anableddau neu anawsterau dysgu sy’n peri ei bod yn fwy anodd iddynt ddysgu neu gael mynediad i addysg na'r rhan fwyaf o blant o'r un oedran. Bydd gan lawer o blant anghenion dysgu ychwanegol o ryw fath rywbryd yn ystod eu haddysg.

Mae plant yn gwneud cynnydd ar wahanol raddfeydd a byddant yn cael eu cefnogi mewn ffyrdd gwahanol yn ôl eu hanghenion. Efallai bydd rhai plant angen canolbwyntio ar sgiliau penodol fel darllen neu sgiliau cymdeithasol. Efallai bydd angen iddynt weithio mewn grwpiau bach, weithiau gyda chynorthwyydd addysgu.

Gall athrawon geisio cymorth gan weithwyr proffesiynol arbenigol, er enghraifft athrawon ymgynghorol neu seicolegydd addysg a phlant. Mae'n bosibl y bydd eich plentyn yn cael ei asesu fel rhan o'r broses hon. Gwneir hyn er mwyn helpu i benderfynu ar y ffordd orau i roi cymorth i'ch plentyn gyda'i ddysgu. 

Cymorth o ran anghenion penodol
Mae gan bob ysgol Gydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol fydd yn eich arwain a'ch cynorthwyo os bydd gennych unrhyw bryderon am ddatblygiad eich plentyn.

Mae plant yn dysgu ar wahanol raddfeydd ac mae pob unigolyn yn unigryw. Mae gennym ni i gyd wahanol gryfderau a gwendidau o ran dysgu. Bydd rhai plant yn cael llawer mwy o anhawster na'u ffrindiau wrth ddysgu. Os bydd plant dair blynedd neu'n fwy ar ei hôl hi o ran y lefelau disgwyliedig, ar ôl i athrawon roi cynnig ar wahanol ffyrdd o helpu, gellir galw hyn yn Anawsterau Dysgu Cymedrol neu Anawsterau Dysgu Cyffredinol. 

Bydd plant ag Anawsterau Dysgu Cymedrol yn cael problemau o bosib o ran y canlynol:

  • Sgiliau sylfaenol o ran llythrennedd
  • Sgiliau sylfaenol o ran rhifedd
  • Deall cysyniadau newydd
  • Sgiliau gwrando/rhoi sylw
  • Rhoi'r hyn y maent yn ei wybod ar waith mewn sefyllfaoedd eraill

Yn aml bydd ganddynt ddiffyg hunan-barch, diffyg canolbwyntio a diffyg cymhelliant. Efallai y byddant yn gwrthod rhoi cynnig ar waith newydd oherwydd iddynt gredu y byddant yn methu cyn dechrau. Mae angen cymorth arnynt i gael mynediad i'r cwricwlwm.

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?

Gall ysgolion helpu plant ag Anawsterau Dysgu Cymedrol drwy:

  • Gwahaniaethu tasgau - eu gwneud yn symlach
  • Cynnig gwahanol ffyrdd o gofnodi gwybodaeth, megis lluniau â labeli, diagramau neu siartiau llif
  • Gweithgareddau amlsynnwyr
  • Rhannu dysgu'n gamau bach
  • Helpu plant i drefnu eu gwaith ysgrifenedig drwy ddefnyddio fframiau ysgrifennu
  • Caniatáu rhagor o amser i gyflawni tasgau
  • Cadw cyfarwyddiadau'n fyr ac yn glir
  • Canmol cyflawniadau

Bydd rhai plant yn dysgu gyda chynorthwyydd addysgu - cyn gwers, yn ystod gwers neu ar ddiwedd gwers. Dylid annog plant i weithio'n annibynnol lle bynnag y bo modd.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch gallu eu plentyn i ddysgu.

Athrawes Ymgynghorol: Steve Campbell 01267246466

  • Mae plant yn dysgu darllen ac ysgrifennu ar wahanol raddfeydd. Bydd rhai plant yn cael problemau penodol â darllen ac ysgrifennu. Gall hyn effeithio ar eu dysgu cyffredinol. Weithiau gelwir hyn yn 'Dyslecsia.'
  • Anhawster dysgu yw Dyslecsia sydd fel arfer yn effeithio ar y sgiliau sydd ynghlwm wrth ddarllen a sillafu geiriau'n gywir ac yn rhugl.
  • Yn ogystal, gall effeithio ar leferydd ac iaith, cydsymudiad echddygol, sgiliau cyfrif pen, sgiliau canolbwyntio a threfniadaeth bersonol.

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau darllen ac ysgrifennu?                

  • Bydd gwaith dosbarth yn cael ei wahaniaethu er mwyn i blant gael dysgu a chwblhau tasgau ar eu cyflymder eu hunain.
  • Mae cefnogaeth dda yn cynnwys partneriaeth - â phlant, rhieni, athrawon, cynorthwywyr addysgu a gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Mae angen i addysgu ganolbwyntio ar y dysgwr gan gynnwys y plentyn yn y broses o gynllunio a darparu er mwyn diwallu ei anghenion/hanghenion.
  • Yn y blynyddoedd cynnar, yn y Cyfnod Sylfaen, mae plant yn dysgu drwy'r iaith lafar. Mae ChATT (Pecyn Cymorth Asesu ac Addysgu Plant Sir Gaerfyrddin) yn helpu i ddarganfod a oes gan blant broblemau lleferydd ac iaith, sy'n gallu bod yn gysylltiedig â dyslecsia.

Os oes gan blant broblemau mwy hirdymor, mae'n bosibl y bydd yr ysgol yn gofyn am gyngor a chymorth gan athro/athrawes ymgynghorol. Mae'n bosibl y byddant yn awgrymu rhaglen er mwyn i'ch plentyn ei dilyn am ran o'r dydd a hynny weithiau mewn grwpiau bach neu weithiau ar sail un-i-un.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf o ran unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch dysgu darllen ac ysgrifennu.

Athrawes Ymgynghorol: Viv Thomas 01267 246460

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Mae plant yn dysgu sgiliau rhif ar gyflymdra gwahanol. Bydd rhai plant yn cael anhawster arbennig wrth ddysgu sgiliau, cysyniadau a ffeithiau rhif. Weithiau gelwir hyn wrth yr enw Dyscalcwlia.

Gallent gael anhawster gyda’r canlynol:

  • gweld dilyniannau
  • trefnu lle
  • adnabod patrymau
  • darlunio yn y meddwl
  • amcangyfrif

Gallent:

  • gael trafferth ‘gweld’ bod pedwar gwrthrych yn 4 heb gyfrif
  • cael trafferth i symud y tu hwnt i gyfrif fesul un
  • dibynnu ar ddefnyddio eu bysedd/blociau
  • cael bod tynnu rhifau yn anodd oherwydd bod angen cyfrif am yn ôl, ac maen nhw’n gallu colli cyfrif

Sut bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau rhif?          

  • Mae angen addysgu sgiliau rhifol yn benodol i blant sydd â phroblemau arbennig gyda mathemateg.
  • Mae angen i’r tasgau droi o amgylch y dysgwr, defnyddio adnoddau aml-synhwyraidd, a chael eu cwblhau ar gyflymdra’r plentyn ei hun.
  • Weithiau bydd plant yn gweithio mewn grwpiau bach, o bosibl gyda Chynorthwy-ydd Addysgu, i wneud mathemateg dal i fyny.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn y lle cyntaf os bydd ganddynt gwestiynau am allu eu plentyn ym maes mathemateg neu wrth weithio gyda rhifau.

Athrawes Ymgynghorol: Viv Thomas 01267 246460

Gallai’r gwefannau canlynol fod o ddefnydd i gael rhagor o wybodaeth:

Mae plant yn datblygu sgiliau echddygol a chydlynu ar gyflymderau gwahanol. Wrth iddynt dyfu, bydd rhai plant yn cael anawsterau gyda symudiadau bach a mawr. Weithiau gelwir hyn yn Anhwylder Cydlynu Datblygol (neu D.C.D) neu Ddyspracsia. Gall hyn effeithio ar eu gallu i wneud pethau bob dydd, ac maen nhw’n cael anhawster gyda sgiliau y gall plant eraill eu hoed eu gwneud yn rhwydd. Pethau fel:

  • Cydbwyso, mewn Addysg Gorfforol
  • Gemau pêl
  • Rheoli pensil
  • Codi pethau
  • Defnyddio siswrn

Mae D.C.D yn effeithio ar fwy o fechgyn na merched. Gall orgyffwrdd gyda phethau eraill fel  Dyslecsia. Gall wneud plant yn fwy blinedig na’u ffrindiau, gall effeithio ar sylw a chanolbwyntio, a gall effeithio ar ryngweithio cymdeithasol. Gall effeithio trefniadaeth a gofal personol fel bwyta, gwisgo a defnyddio’r tŷ bach. Mae’n aml yn gwneud i blentyn deimlo’n rhwystredig a gall arwain at broblemau ymddygiad.

Sut bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Dylai ysgolion sylwi os yw plant yn cael anhawster ag osgo, trefnu a dilyniannu gwaith neu ysgrifennu. Ar gyfer plant ag anawsterau D.C.D. gall athrawon:

  • Gwahaniaethu, trwy gynnig tasgau fel labelu neu daflenni gwaith llenwi bylchau
  • Cynnig ffyrdd eraill o gofnodi gwaith, gan gynnwys defnyddio TGCh
  • Cynnig mathau gwahanol o beniau, pensiliau neu afaelion pensiliau
  • Dweud cyfarwyddiadau ac esbonio tasgau fwy nac unwaith
  • Rhoi amser i blant brosesu gwybodaeth
  • Defnyddio lliw a delweddau i amlygu pwyntiau allweddol neu wybodaeth bwysig
  • Defnyddio siarad i arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth, gyda gweithgareddau fel
    • siarad fel cymeriad
    • mini gyflwyniadau
    • danfon un aelod i hel gwybodaeth a chyflwyno adroddiad i’r grŵp
    • trionglau gwrando (bob yn dri, mae siaradwr yn cynnig barn neu wybodaeth, mae gwrandäwr yn gwrando’n ofalus, mae sylwedydd yn nodi ac yn rhoi adborth i’r ddau)

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn y lle cyntaf os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am sgiliau cydlynu neu echddygol eu plentyn.

Athrawes Ymgynghorol: Steve Campbell 01267246466

Gallai’r gwefannau canlynol fod o ddefnydd i gael rhagor o wybodaeth:

Mae'r gallu i gyfathrebu yn sgil hanfodol i blant a phobl ifanc. Mae cyfathrebu'n hanfodol i blant er mwyn:

  • gwneud ffrindiau
  • bod yn hyderus
  • rheoli eu hymddygiad

Mae sgiliau iaith yn sail i bob dysgu gan gynnwys dysgu darllen, ysgrifennu, rhesymu a datrys problemau.

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau iaith?
Mae ysgolion yn dilyn Llwybr er mwyn cefnogi pob plentyn i ddatblygu sgiliau Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu effeithiol er mwyn iddynt allu cael mynediad i ddysgu ar lefel briodol ac i gymdeithasu. Gall ysgolion gael cymorth a chefnogaeth os oes gan blentyn neu grŵp o blant anghenion mwy manwl.

Yn Sir Gaerfyrddin, mae pob plentyn yn cael ei sgrinio pan fyddant yn mynd i'r ysgol am y tro cyntaf er mwyn darganfod a oes ganddynt unrhyw anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu. Mae rhaglen ChaTT Sir Gaerfyrddin yn cael ei defnyddio er mwyn cefnogi plant i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Os oes gan blentyn anghenion mwy cymhleth neu ddifrifol, mae'n bosibl y bydd ysgolion yn ei gyfeirio/chyfeirio at y Fforwm Cyfathrebu, tîm aml-asiantaeth arbenigol. Bydd y Fforwm yn cynghori ysgol ynghylch y cymorth gorau ar gyfer y plentyn. 

Mae gwasanaeth Lleferydd ac Iaith Sir Gaerfyrddin yn gweithio'n agos gyda'r gwasanaethau Therapi Lleferydd o'r Ymddiriedolaeth Iechyd. Maent yn datblygu pecynnau cymorth gyda'i gilydd er mwyn helpu i fynd i'r afael ag arwyddion cynnar o anawsterau a chefnogi plant sydd ag anghenion cymhleth o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu eu plentyn.

Athrawes Ymgynghorol: Elinor Williams, 01267 246459

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau/dogfennau canlynol:

Mae gan rai plant anawsterau dysgu difrifol, sy'n golygu bod ganddynt broblemau sylweddol o ran deallusrwydd a gwybyddiaeth. Mae'n bosibl y bydd angen llawer o gymorth arnynt ym mhob elfen o'u bywydau, gan gynnwys yr ysgol. Hefyd mae'n bosibl y byddant yn cael anawsterau o ran symudedd, cydsymud, a chyfathrebu. Efallai fod gan rai plant anableddau synhwyraidd neu gorfforol, anghenion iechyd cymhleth neu broblemau iechyd meddwl.

Mae angen i blant ag anawsterau dysgu difrifol neu anawsterau dysgu dwys a lluosog gael eu dysgu ar lefel sy'n briodol iddynt. Mae angen digon o gyfleoedd arnynt i ailadrodd profiadau sy'n canolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, synhwyraidd a chorfforol ac sy'n rhoi sylw i'w hanghenion cymhleth o ran iechyd meddwl ac o ran iechyd y corff. 

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?

Fel arfer mae plant ag anawsterau dysgu difrifol yn mynd i ysgol arbennig neu sefydliad arbenigol. Dylent wneud cynnydd yn yr ysgol. Yn aml mae'r cynnydd hwn o dan Lefel 1 o'r Cwricwlwm Cenedlaethol, a chaiff ei fesur drwy ddefnyddio system o'r enw Ar Drywydd Dysgu.  Bydd ganddynt Ddatganiad Anghenion Addysgol neu Gynllun Datblygu Unigol, sy'n pennu targedau iddynt ac yn nodi sut y cânt eu cyrraedd (gweler Beth yw fy hawliau?).

Dylai rhieni a gofalwyr fod ynghlwm wrth gynllunio a diwallu anghenion y plentyn. Er y bydd cynnydd yn cael ei fonitro'n barhaus, dylid adolygu cynlluniau'n rheolaidd - bob blwyddyn o leiaf. 

Athrawes Ymgynghorol: Steve Campbell 01267246466

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

  • Mae babanod yn cael eu sgrinio yn eu blwyddyn gyntaf am golled clyw. Mae pedair lefel i ddisgrifio colled clyw: ysgafn, cymedrol, difrifol a dwys. Os datgelir colled clyw yn gynnar, bydd Athrawon arbenigol Plant Byddar, ymwelwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill yn gweithio gyda'r plentyn a'i deulu/theulu i ddatblygu cyfathrebu. Byddant yn cysylltu â'r Adran Addysg fel y gallwn gynorthwyo'r plentyn cyn iddo/iddi ddechrau yn yr ysgol.
  • Gall plant byddar gyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol. Efallai byddant yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a/neu'n darllen gwefusau. Efallai byddant yn defnyddio cymhorthion clyw digidol, mewnblaniadau yn y cochlea neu systemau sain eraill.
  • Gall llawer o blant golli eu clyw dros dro, a gall ddatblygu wrth iddynt fynd yn hŷn. Bydd 80% o blant yn cael cyfnod o glust ludiog erbyn 10 oed. Dyma achos mwyaf cyffredin byddardod dros dro. 

Efallai bydd plant â cholled clyw sy'n dod i'r amlwg yn gwneud y canlynol:

  • Peidio ag ymateb pan gânt eu galw
  • Gwylio wynebau a gwefusau yn ofalus
  • Gofyn am i bethau gael eu hailadrodd
  • Anwybyddu cyfarwyddiadau, neu wneud pethau'n anghywir
  • Gwylio beth mae plant eraill yn ei wneud cyn rhoi cynnig ar rywbeth
  • Gofyn am gymorth yn aml
  • Ymddangos fel pe baent yn synfyfyrio
  • Siarad yn rhy uchel neu'n rhy dawel
  • Peidio ag ymuno
  • Bod yn flinedig, yn rhwystredig neu ar eu pennau eu hunain.

Bydd unrhyw golled clyw yn effeithio ar sgiliau gwrando, datblygiad iaith a sgiliau llythrennedd. Gall effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio, eu cof, eu sgiliau cymdeithasol a'u hunan-barch. 

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Gall athrawon helpu plant â cholled clyw mewn ystafelloedd dosbarth drwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau bod y plentyn yn wynebu'r athro/athrawes ac yn talu sylw, cyn siarad
  • Siarad yn glir, yn naturiol ac ar gyflymder arferol
  • Peidio â chuddio eu hwyneb pan maent yn siarad
  • Peidio â cherdded o amgylch yr ystafell neu droi pan maent yn siarad
  • Ailadrodd beth mae plant eraill yn ei ddweud
  • Sicrhau mai un person sy'n siarad ar y tro
  • Osgoi offer swnllyd fel argraffwyr neu daflunyddion
  • Cadw lefelau sŵn yn isel, gan fod cymhorthion clyw yn chwyddo'r holl sŵn
  • Defnyddio geiriau allweddol, penawdau pwnc neu gymhorthion gweledol i ddangos pan mae sgwrs newydd yn dechrau

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch clyw neu olwg eu plentyn.

Mae gan yr Awdurdod Lleol nifer o Athrawon arbenigol Plant Byddar sydd ar gael i asesu a chefnogi addysg eich plentyn fel bo'r angen. Hefyd, mae ganddo ddarpariaeth arbenigol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a all fod yn addas i blant â'r golled clyw fwyaf sylweddol. Gweler Darpariaeth Arbenigol. Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Sallie Durbridge 01267 246406

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Yng Nghymru, mae gan tua 0.2% o'r boblogaeth ysgolion nam sylweddol ar eu golwg. Nam ar y golwg yw pan na ellir cywiro golwg yn llawn drwy wisgo sbectol/lensys.

Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu y gall fod gan gymaint â 10% o ddysgwyr wall plygiannol heb ei ddatgelu – sy'n golygu bod eu gallu i ddysgu a chyfranogi'n weithredol mewn gwersi yn cael ei amharu am nad ydynt wedi gweld optometrydd nac yn gwisgo sbectol. Felly, gall dysgu hyd at 3 phlentyn ym mhob dosbarth gael ei effeithio gan olwg wannach heb ei datgelu.

Dyma arwyddion o nam ar y golwg ymhlith plant:

  • Peidio â thalu sylw a chanolbwyntio.
  • Synfyfyrio'n aml.
  • Llawysgrifen wael.
  • Lletchwithdod.
  • Diffyg cyswllt llygaid.
  • Colli eu lle pan maent yn darllen.
  • Anawsterau o ran rhoi digon o le i blant eraill.
  • Blino'n gyflym.
  • Angen mwy o amser na phlant eraill i gwblhau tasgau.
  • Yn ei chael yn anodd darllen print mân.
  • Yn ei chael yn anodd darllen o'r bwrdd gwyn.
  • Cwyno'n aml am ben tost.
  • Rhwbio eu llygaid yn aml.
  • Yn ei chael yn anodd copïo.
  • Dibynnu'n ormodol ar gymorth gan gyfoedion i gwblhau tasgau/symud o amgylch.
  • Yn ei chael yn anodd dehongli darluniau/lluniau os nad yw'r cyferbyniad yn dda. 

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Gall athrawon helpu plant â cholled golwg mewn ystafelloedd dosbarth drwy wneud y canlynol:

  • Sicrhau mannau dysgu ysgogol a deunyddiau cwricwlwm hawdd eu defnyddio
  • Cynnal asesiadau risg mewn perthynas â mannau dysgu er mwyn sicrhau diogelwch dysgwyr â nam ar eu golwg
  • Sicrhau bod print clir ar ddeunydd darllen (Arial, maint ffont 14) a'i fod ar bapur A4, a hynny'n ddarpariaeth leiaf (bydd angen print mwy ar rai plant)
  • Gwahaniaethu – gan gynnwys offer a thechnegau dysgu amgen
  • Goleuadau/bleinds priodol i ddiwallu anghenion plant unigol
  • Sicrhau amgylchedd dirwystr, lle mae offer yn cael ei storio mewn mannau hawdd eu cyrraedd
  • Newid ac addasu deunyddiau addysgol
  • Meddwl am leoedd eistedd
  • Cael hyfforddiant ymwybyddiaeth ynghylch anghenion dysgwyr unigol

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch clyw neu olwg eu plentyn.

Mae gan yr Awdurdod Lleol Athrawon Cymwys Plant â Nam ar eu Golwg a gwasanaeth arbenigol sy'n ymwneud â Symudedd/Mynd o le i le, sydd ar gael i asesu a chefnogi anghenion eich plentyn fel bo'r angen. Gweler Darpariaeth Arbenigol. Rheolwr y Gwasanaeth Namau Synhwyraidd: Sallie Durbridge 01267 246406

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

 

Mae rhai plant yn cael anhawster tymor hir (cronig) wrth symud, a achosir gan gyflwr corfforol, genetig neu feddygol. Mae symud yn rhan allweddol o ddatblygiad corfforol, cymdeithasol, emosiynol a deallusol, felly bydd hyn yn effeithio ar allu plentyn i fod yn rhan o fywyd pob dydd yn yr ysgol. Bydd yn rhaid i’r plant hyn wneud mwy o ymdrech na phlant eraill. 

Dyma rai cyflyrau cyffredin:

  • Parlys yr Ymennydd: Mae’n effeithio ar osgo a symudiad. Gall hyn amrywio o rywfaint o letchwithdod i gyflwr difrifol, sy’n effeithio ar y corff cyfan.
  • Dystroffi’r Cyhyrau Duchene: Gwendid yn y cyhyrau, sy’n effeithio ar fechgyn yn unig, ac sy’n gwaethygu wrth i blant fynd yn hŷn.
  • Spina bifida: Lle mae’r asgwrn cefn wedi’i niweidio. Gall yr effeithiau amrywio o rai ysgafn i ddifrifol. Bydd angen i’r plant ddefnyddio ffyn baglau neu gadair olwyn. 

Sut bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?
Rhaid i ysgolion sicrhau bod plant yn cael eu cynnwys, a’u bod yn rhoi sylw i anghenion unigol plant.

Bydd gan blant sydd ag anghenion corfforol neu feddygol Gynllun Gofal, Cynllun Datblygu Unigol neu Ddatganiad o AAA. Mae angen i staff yr ysgol fod yn gyfarwydd â’r cynllun hwn a’i ddefnyddio wrth gynllunio.      

Mae dyletswydd ar ysgolion o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud addasiadau rhesymol er mwyn sicrhau nad oes camwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.

Mae angen i ysgolion fod yn ymwybodol hefyd y gall unrhyw fwlio niweidio hunan-barch a hyder, a bod angen delio ag ef yn unol â pholisi’r ysgol ar fwlio

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol neu feddyg eu plentyn yn y lle cyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau am broblemau corfforol neu feddygol eu plentyn. 

Athrawes Ymgynghorol: Steve Campbell 01267246466

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

 

Anhwylder datblygiadol yw awtistiaeth (neu anhwylder sbectrwm awtistig) sy'n effeithio ar y ffordd y mae rhywun yn cyfathrebu â phobl eraill ac yn ymwneud â'r byd o'u cwmpas. Effeithir ar blant mewn gwahanol ffyrdd. Gall y rhain gynnwys:

  • Materion synhwyraidd - ymatebion anarferol i synau, arogleuon, cyffwrdd, blasau a mewnbwn gweledol
  • Lleferydd ac Iaith – datblygiad anarferol o ran lleferydd a/neu ddiffygion o ran hynny, dehongli iaith yn llythrennol, ac anawsterau prosesu iaith
  • Ymddygiad ailadroddus neu obsesiynol a diddordebau dwys
  • Rhyngweithio cymdeithasol – anhawster deall perthnasoedd, ymddygiad a rheolau cymdeithasol
  • Cyfathrebu cymdeithasol - cyfathrebu llafar a dilafar megis ystumiau, tôn y llais, cyfleu teimladau â'u hwyneb
  • Anhyblygrwydd o ran meddwl ac anhawster o ran dychymyg cymdeithasol

Mae'r problemau hyn yn achosi anawsterau gwahanol i bob plentyn. Mae lefelau uchel o orbryder yn broblem gyffredin i blant sydd ag awtistiaeth. 

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn ei helpu â'i anghenion? 

  • Eir ati i helpu plant ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol yn yr ystafell ddosbarth drwy ystyried profiad y plant a gwneud rhai newidiadau syml. Dylai arferion da yr ysgol gynnwys:
  • Amgylchedd cyfoethog ei iaith sy'n hybu dysgu iaith
  • Iaith glir, benodol wedi'i hategu ag awgrymiadau gweledol (geiriau, symbolau a lluniau) i helpu'r dysgu
  • Gwahaniaethu gwybodaeth ac esboniadau
  • Modelu ac addysgu sgiliau cymdeithasol
  • Profiadau dysgu amlsynhwyraidd ac ystyriaeth o wahaniaethau synhwyraidd
  • Addasu amodau ac arddulliau addysgu at anghenion penodol disgyblion (e.e. uchder sŵn, agosrwydd yn yr ystafell, tasgau dan wasgfa o ran amser)
  • Elklan, Talkabout neu strategaethau iaith a lleferydd eraill
  • Sgrinio a monitro cynnydd
  • Trafod â rhieni a gofalwyr i gael cymaint o wybodaeth â phosibl, a defnyddio'r wybodaeth hon i lywio cynllunio ac addysgu
  • Ymwybyddiaeth o blant sy'n meddwl yn 'wahanol' ac ymchwilio i gyfleoedd sy'n eu galluogi i lwyddo

Dolenni cyswllt

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf o ran unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch problemau cymdeithasol, cyfathrebu ac awtistiaeth. Os oes pryderon gan ysgol, gall gyfeirio'r plentyn at banel aml-asiantaeth i drafod y ffordd orau o gefnogi'r plentyn. Athrawes Ymgynghorol: Emma Wheeler 01267 246461.

Darpariaeth Addysgol ar gyfer Awtistiaeth yn Sir Gaerfyrddin

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

 

Mae rhai plant yn siarad iaith heblaw Saesneg neu Gymraeg fel eu hiaith gyntaf, un ai oherwydd iddynt gael eu geni mewn gwlad arall neu oherwydd bod eu rhieni'n siarad iaith wahanol yn y cartref. Yn yr ysgol, maent yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith (neu drydedd iaith).

Maent yn dysgu'r iaith ychwanegol yn bennaf yn ystod y diwrnod ysgol arferol, drwy chwarae a chymdeithasu a thrwy ddysgu pynciau eraill. Yn ôl gwaith ymchwil, dyma'r ffordd orau o ddysgu iaith.

Mae bod yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad a dylid annog plant i ddefnyddio iaith eu cartref. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i fod yn rhugl mewn ail iaith. Mae plant yn dysgu iaith gymdeithasol yn gyntaf ac mae'n cymryd mwy o amser i ddysgu iaith academaidd. Fel dysgu unrhyw iaith, yr iaith lafar sy'n dod yn gyntaf a hynny cyn darllen ac ysgrifennu.

Mae cyflymder dysgu plant yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys:

  • Llythrennedd blaenorol yn yr iaith gyntaf
  • Oedran ar adeg dechrau dysgu ail iaith
  • Cefndir a chymorth teuluol
  • Gallu academaidd

Mae angen cymorth ar blant i ddatblygu eu sgiliau iaith. 

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau iaith Saesneg neu Gymraeg?

Gall ysgolion helpu plant i ddysgu Saesneg neu Gymraeg drwy:

  • Sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel a chroesawgar
  • Siarad yn glir ar gyflymder arferol
  • Osgoi idiomau ac ymadroddion llafar
  • Dysgu drwy gyfryngau gweledol ac amlsynhwyraidd
  • Atgyfnerthu iaith lafar ac ysgrifenedig
  • Cynllunio gweithgareddau dysgu ar y cyd, lle mae plant yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a modelau Saesneg da.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol. Mae gan bob ysgol gydgysylltydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd yr ysgol yn cysylltu â'n Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig am gymorth. Rheolwr y Gwasanaeth: Victoria Owens 01267 246755

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Mae sipsiwn a theithwyr yn grŵp gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae gwahanol grwpiau o sipsiwn a theithwyr, a gwahanol gefndiroedd hanesyddol, diwylliannau a thraddodiadau.

Mae plant o dreftadaeth sipsiwn a theithwyr weithiau angen cymorth ychwanegol yn yr ysgol oherwydd:

  • Efallai y byddant yn absennol o'r ysgol oherwydd eu bod yn teithio gyda'u teuluoedd
  • Efallai y bydd ganddynt agwedd wahanol at addysg ac ysgol, sy'n gallu arwain at ddiffyg presenoldeb a chyrhaeddiad
  • Efallai y bydd ganddynt wahanol ddyheadau ar gyfer y dyfodol i'r rhan fwyaf o'u cyd-ddisgyblion
  • Efallai y cânt eu bwlio
  • Yn draddodiadol y mae eu deilliannau addysgol yn isel, ac mae hwn yn faes y mae angen ei wella.

Sut y bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu plant o gefndiroedd sipsiwn a theithwyr

  • Dylai ysgolion fod yn gynhwysol, yn groesawgar ac yn ystyriol o blant sy'n sipsiwn a theithwyr, ac o'u teuluoedd.
  • Os bydd plant yn absennol o'r ysgol oherwydd teithio, dylai'r ysgol gydgysylltu â'r teulu er mwyn trefnu gwaith i'r plant ei wneud tra byddant i ffwrdd.
  • Dylai'r ysgol fonitro cynnydd a gallai gynnig sesiynau ychwanegol ynghylch sgiliau sylfaenol.

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau am eu plant. Gall yr ysgol gysylltu â'n Gwasanaeth Addysg Teithwyr i gael cymorth. Cydgysylltydd y Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr: Caroline Hodson 01554 742472

Sut rydym yn gweithio gyda theuluoedd
Mae ein tîm bach yn gweithio gyda theuluoedd os yw eu plant ar gofrestr ysgol. Mae hyn yn cael ei drefnu yn ôl y galw, a rhoddir blaenoriaeth i'r plant â'r anghenion mwyaf yn gyntaf, er enghraifft disgyblion newydd i'r ardal. Gallwn gefnogi teuluoedd mewn perthynas ag addysg eu plentyn drwy:

  • mynd i gyfarfodydd yn yr ysgol gyda'r rhieni,
  • trafod gwybodaeth ysgrifenedig i sicrhau bod rhieni'n deall beth sy'n digwydd yn ysgol eu plentyn,
  • rhoi cymorth yn ymwneud ag ysgrifennu llythyrau a chwblhau ceisiadau am le mewn ysgol,
  • rhoi cymorth o ran trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Gall plant wynebu anawsterau gyda’u hymddygiad am gyfnod yn ystod eu bywyd ysgol, a hynny am amrywiaeth o wahanol resymau. Gall y problemau hyn amharu ar ddysgu a llesiant plentyn. Gallant effeithio ar ddysgu a llesiant pobl eraill. Mae rhoi cynnig ar wahanol bethau er lles pawb, er mwyn cyfyngu cymaint â phosibl ar yr effaith ar ddysgu.

Sut bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol, emosiynol a’i ymddygiad?

Pan fydd ysgolion yn gweithio i hybu ymddygiad cadarnhaol, gellir lleihau'r problemau hyn, a hyd yn oed eu hatal. Fodd bynnag, mae pob plentyn a phob ysgol yn wahanol, a bydd angen mwy o help ar rai plant i gadw eu hanawsterau o dan reolaeth.

Dylai fod gan Ysgolion y canlynol:

  • Polisi rheoli ymddygiad ysgol gyfan sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson gan yr holl staff.
  • Polisi gwrthfwlio ysgol gyfan sy'n cael ei ddefnyddio'n gyson gan yr holl staff.

Gallent hefyd ddefnyddio rhai o'r dulliau gweithredu hyn:

  • Agweddau Cymdeithasol ac Emosiynol ar Ddysgu (SEAL) yn y cwricwlwm, ar draws yr ysgol.
  • Plant sy'n cadw'r heddwch amser chwarae (‘Playground Peacemakers’) (Cynradd) a chyfryngu gan gyfoedion (Uwchradd).
  • Ditectifs meddwl - gwaith grŵp bychan ar gyfer y blynyddoedd cynnar (hyd at flwyddyn 4).
  • Amser Cylch.
  • Rhaglenni sgiliau cymdeithasol.
  • Chwarae Cadarnhaol (Cynradd) neu Cefnogi Cadarnhaol (Uwchradd).
  • Cwnselwyr mewn ysgolion.
  • Dosbarthiadau Annog

Os yw ysgol yn pryderu'n fawr ynghylch ymddygiad, emosiynau neu sgiliau cymdeithasol plentyn, gallai'r Cydlynydd AAA (SENCo) ofyn am gyngor Seicolegydd Addysg a Phlant.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Mae gallu plant i ganolbwyntio a chynnal ffocws yn datblygu wrth iddynt dyfu'n hŷn. Mae'n wahanol i bob plentyn. Bydd rhai plant yn ei chael hi'n arbennig o anodd canolbwyntio ar rywbeth, ac yn ymddwyn yn fyrbwyll a/neu'n orfywiog, yn fwy felly na'u ffrindiau. Weithiau gelwir hyn yn Anhwylder Gorfywiogrwydd/Diffyg Canolbwyntio neu AD/HD.

Gall plant sydd ag anawsterau AD/HD wneud y canlynol:

  • Ymddangos fel pe na baent yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddweud
  • Cael anhawster cadw trefn arnynt eu hunain
  • Cael bod rhywbeth yn tynnu eu sylw'n hawdd
  • Ymystwyrian
  • Codi o'u sedd a/neu redeg o gwmpas
  • Cael trafferth aros a chymryd tro

Gall fod cysylltiad rhwng y problemau hyn ac anawsterau ymddygiad a chymdeithasol.

Sut bydd ysgol fy mhlentyn yn helpu?

Gall ysgolion helpu drwy wneud y canlynol:

  • Ategu ymddygiad da mewn modd cadarnhaol
  • Cynnal awyrgylch di-gynnwrf
  • Sicrhau bod unrhyw gerydd ac ailgyfeirio yn ymwneud â'r dasg
  • Parchu hunan-barch y plentyn
  • Rhannu tasgau a chyfarwyddiadau yn gamau bach
  • Addysgu a chefnogi sgiliau trefnu
  • Cynnig dewis o wobrwyon

Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn y lle cyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch gallu eu plentyn i ganolbwyntio neu gynnal ffocws.

Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:

Beth gallaf ei ddisgwyl gan ysgol fy mhlentyn?

  • Bydd eich plentyn yn hapus, yn cael ei ysgogi ac yn gwneud cynnydd yn ei ddysgu.
  • Byddwch chi'n cael croeso a bydd yr ysgol yn gweithio mewn partneriaeth â chi, gan ofyn am eich barn chi.
  • Byddwch chi a'ch plentyn yn cymryd rhan yn addysg eich plentyn ac yn cael gwybod am gynnydd a datblygiad eich plentyn yn rheolaidd.  Bydd eich ysgol yn eich gwahodd chi ac eraill sy'n ymwneud â'ch plentyn i adolygu cynnydd eich plentyn a bydd barn pawb yn cael ei barchu yn yr un modd.
  • Bydd ysgol eich plentyn yn cysylltu ag arbenigwyr allanol yn ôl yr angen, ac yn gweithredu'r cyngor a gânt ganddynt.

Beth gallaf ei ddisgwyl gan athro neu athrawes fy mhlentyn?

  • Byddant yn creu amgylchedd fydd yn galluogi eich plentyn i ddysgu. Yn y blynyddoedd cynnar, bydd eich plentyn yn “dysgu trwy wneud”, trwy weithgareddau chwarae sydd wedi'u targedu'n ofalus i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd gan eich plentyn.
  • Byddant yn monitro, yn asesu ac yn cofnodi cynnydd eich plentyn er mwyn datblygu dealltwriaeth o'i gryfderau, ei anghenion, ei ffordd o ddysgu a chyflymder ei ddysgu.
  • Byddant yn bodloni anghenion yr holl blant oherwydd bydd yr athrawon yn addasu'r gweithgareddau i ysgogi ac i fodloni anghenion yr holl blant er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud cynnydd ym mhob agwedd ar eu datblygiad. 

Diweddarwyd y dudalen ar: 07/11/2016

ar-lein am dani