• English
  • Hepgor gwe-lywio

Symud i Ysgol Uwchradd

Yn 11 oed bydd eich plentyn yn symud i ysgol uwchradd. Rhaid ichi wneud cais am yr Ysgol Uwchradd o’ch dewis; nid yw plant yn trosglwyddo’n awtomatig o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Pan fydd eich plentyn yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd, cewch hysbysiadau yn ystod tymor yr hydref yn rhoi gwybodaeth am yr holl ysgolion uwchradd yn y sir ac yn dweud sut mae gwneud cais.

Nid oes cysylltiad rhwng yr ysgolion Cynradd ac Uwchradd, gallwch wneud cais am unrhyw ysgol uwchradd yn y Sir. Caiff y cais ei seilio ar eich cyfeiriad cartref, nid ar yr ysgol gynradd y mae’ch plentyn ynddi. Efallai y bydd eich ysgol gynradd yn trefnu diwrnodau blasu yn yr ysgol uwchradd leol ond byddem yn argymell eich bod yn ymweld ag unrhyw ysgol yr ydych yn gwneud cais amdani.

Mae cyfle i’ch plant ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ac mae gan bob ysgol ei chategori iaith ei hun. Trowch at y llawlyfr Gwybodaeth i Rieni am arweiniad pellach. (Tudalennau 38-40).

Os ydych yn ystyried anfon eich plentyn i Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Ioan Llwyd yn Llanelli cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i wneud eich cais.

Dylech hefyd ystyried cludiant i’r ysgol ar y cam hwn. Dim ond i ysgol eich dalgylch chi y caiff cludiant am ddim ei ddarparu (disgyblion 11 – 16 oed) neu i’ch ysgol agosaf os ydych yn byw mwy na 3 milltir o’r ysgol.

Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng: 1af Medi 2005 – 31ain Awst 2006.

  • Gallai ddechrau’r ysgol ym mis Medi 2017.
  • Y dyddiad cau i geisiadau yw 16eg Rhagfyr 2016*
  • Byddwn yn cysylltu â chi ar 1af Mawrth 2017 gyda chanlyniad eich cais.

Os cafodd eich plentyn ei eni rhwng: 1af Medi 2006 – 31ain Awst 2007.

  • Gallai ddechrau’r ysgol ym mis Medi 2018.
  • Y dyddiad cau i geisiadau yw 22ain Rhagfyr 2017
  • Byddwn yn cysylltu â chi ar 1af Mawrth 2018 gyda chanlyniad eich cais.

* Os yw’r dyddiad cau wedi pasio, gallwch wneud cais hwyr ond efallai y bydd yn effeithio ar eich siawns o gael lle.

I wneud cais am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2017, y dyddiad cau oedd 16eg Rhagfyr 2016. Fodd bynnag, gallwch wneud cais hwyr eto. Does dim mantais mewn gwneud cais cynnar, ond mae hi’n bwysig eich bod yn gwneud cais mewn pryd! Os ydych yn gwneud cais y tu allan i’r sir, cysylltwch â’r Awdurdod Lleol perthnasol.

Dim ond ceisiadau ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin rydyn ni’n eu derbyn a dim ond ar-lein y gallwch wneud cais. Bydd angen ichi ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw a chyfeiriad y rhiant/gwarcheidwad *
  • E-bost y rhiant/gwarcheidwad **
  • Enw’r plentyn, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni
  • Eich dewis ysgol – gallwch ddewis hyd at dair ysgol, mewn trefn blaenoriaeth

Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd

Rhaid i unrhyw un â chyfrifoldeb rhiant gytuno â’r cais hwn cyn ichi ei gyflwyno.
** Os nad oes gennych gyfeiriad e-bost ni allwch wneud cais ar-lein. Ewch i’ch ysgol leol a byddan nhw’n eich helpu gyda’ch cais.

  • Byddwch yn cael cydnabyddiaeth dros yr e-bost gyda chopi .pdf o’ch cais. Bydd unrhyw ohebiaeth am eich cais yn cael ei hanfon dros yr e-bost neu trwy lythyr.
  • Os oedd eich cais o fewn y terfyn amser cewch eich hysbysu ar 1af Mawrth 2017.
  • Os oedd eich cais yn hwyr mae gennych lai o siawns o gael lle. Byddwn yn eich hysbysu cyn gynted â phosib ond mae’r broses ymgeisio yn cymryd hyd at wyth wythnos.
  • Os cynigir lle ichi rhaid ichi gadarnhau eich bod yn derbyn y lle a gynigiwyd o fewn 14 diwrnod. Os na wnewch chi hynny efallai y caiff y lle ei gymryd oddi arnoch.
  • Unwaith yr ydych wedi derbyn lle eich plentyn, gallwch gysylltu â’r ysgol i gytuno ar ddyddiad cychwyn. I’r rhan fwyaf o blant byddai hyn ym mis Medi.

Dim ond os yw’r flwyddyn rydych yn gwneud cais amdani yn llawn y byddwn yn gwrthod lle mewn ysgol. Fodd bynnag, os gwrthodir lle i’ch plentyn yn unrhyw un o’r ysgolion Uwchradd rydych wedi gwneud cais amdanynt, mae yna hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

ar-lein am dani