Budd-daliadau

Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn Ysgol Gynradd

Mae'r ddarpariaeth hon ar gael i bob disgybl meithrin a derbyn amser llawn yn ysgolion Sir Gaerfyrddin. I'n helpu ni i gynllunio ar gyfer darparu prydau bwyd, ac i sicrhau eich bod yn cael cymaint o gymorth â phosib, cofrestrwch ar gyfer prydau ysgol er mwyn:

  • Sicrhau bod gan staff arlwyo wybodaeth bwysig am y niferoedd sy'n manteisio ar y cynllun
  • Gallu nodi gofynion dietegol unigol ar gyfer eich plentyn
  • Cael gafael ar gymorth ariannol arall y gallech fod â hawl iddo e.e., grant datblygu disgyblion (gwisg ysgol)
  • Cefnogi ysgol eich plentyn i fanteisio ar gyfleoedd ariannu ychwanegol

COFRESTRU AR GYFER PRYDAU YSGOL AM DDIM I BOB PLENTYN YSGOL GYNRADD (DISGYBLION MEITHRIN A DERBYN AMSER LLAWN)