• English
  • Hepgor gwe-lywio

Bioamrywiaeth

Beth yw bioamrywiaeth?

Ystyr bioamrywiaeth yn syml yw amrywiaeth bywyd ar y ddaear. Mae'n cynnwys pob planhigyn ac anifail byw (gan gynnwys dynolryw), eu hamrywiaeth genetig a'r ecosystemau y maent yn dibynnu arnynt. Mae bioamrywiaeth ym mhobman: mewn gerddi, caeau, perthi, afonydd, mynyddoedd, clogwyni ac yn y môr. Mae amgylchedd naturiol Cymru yn cynnal yr amrywiaeth o organebau sy'n byw yma. Hefyd mae bioamrywiaeth yn cynnal ein bywydau ni. Mae amgylchedd naturiol iach yn rhan hanfodol o gymdeithas gynaliadwy a chadarn yng Nghymru. Mae'n rhoi inni bleser, ysbrydoliaeth a chymunedau atyniadol.

Mae ein hamgylchedd naturiol o bwys economaidd mawr, yn darparu bwyd, deunyddiau a moddion, yn rheoleiddio ansawdd yr aer a'r dŵr ac yn llunio rhan o hunaniaeth ddiwylliannol Sir Gaerfyrddin, yn darparu tirwedd a morwedd sy'n cyfrannu i'n hiechyd o ran corff a meddwl, gan ein hysbrydoli a'n haddysgu ni.

Yn lleol, mae bioamrywiaeth yn dylanwadu'n fawr ar gymeriad ein tirwedd. Mae Sir Gaerfyrddin yn enwog am ei harfordir godidog, ei haberoedd tawel, ei chymoedd coediog serth a'i mynyddoedd a'i bryniau garw. Mae llawer o weddill y sir yn glytwaith o diroedd coediog a chaeau, gyda chloddiau yn eu ffinio sy'n aml o bwysigrwydd hanesyddol. Hefyd mae'r môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin yn gyforiog ei rywogaethau, gyda rhai o'r rhain yn hynod o bwysig yn economaidd. Felly mae gwerth aruthrol i fioamrywiaeth. Mae ei gwerth yn amlwg yn y modd mae'n ein cynnal ni a'n ffyrdd o fyw a gweithio yn Sir Gaerfyrddin. Ond mae gan fioamrywiaeth werth ynddi'i hun – hawl gynhenid i fodoli a ffynnu ac mae gennym ni gyfrifoldeb sylfaenol i sicrhau, drwy ein ffordd o fyw, y gall wneud hynny.

Mae amgylchedd naturiol Cymru yn cefnogi amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Ond rhaid i ni gofio hefyd fod bioamrywiaeth yn cynnal ein bywydau ninnau. Mae amgylchedd naturiol iach yn rhan hanfodol o gymdeithas gynaliadwy a chadarn yng Nghymru. Mae bywyd gwyllt yn rhoi pleser ac ysbrydoliaeth i ni a chymunedau deniadol.

Mae amgylchedd naturiol Sir Gaerfyrddin o bwys i bob un ohonom mewn sawl ffordd wahanol. Er nad yw hynny bob amser yn amlwg, mae bioamrywiaeth yn rhoi i ni lawer o'r pethau sy'n cynnal ein bywydau, drwy nifer o wasanaethau pwysig:

  • Darparu – mae’n darparu bwyd (gwenith, pysgod, ac ati), tanwydd (pren, glo), dŵr ffres, meddyginiaeth, tecstilau.
  • Rheoleiddio - cael gwared ar lygryddion, rheoli llifogydd, amsugno carbon deuocsid (nwyon tŷ gwydr), atal erydiad.
  • Diwylliannol - tirweddau hardd, ymdeimlad o le, hamdden a thwristiaeth, ysbrydoliaeth ac ymchwiliadau, boed gan blant ysgol neu wyddonwyr.
  • Cynnal – mae’n cynnal priddoedd a thyfiant planhigion.

Am mwy o wybodaeth ewch i wefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Mae bioamrywiaeth yn bwysig am amrywiaeth eang o resymau: yn foesegol, yn emosiynol, yn amgylcheddol ac yn economaidd. Mae’n sail i’n cymdeithas ac i’n llwyddiant economaidd a’n lles.

Rydyn ni’n cael llawer o'r gwasanaethau hyn yn rhad ac am ddim! Byddai'r gost o adnewyddu’r rhain (hyd yn oed pe byddai hynny’n bosibl) yn eithriadol o gostus. Er enghraifft, mae gwenyn yn hanfodol i'n heconomi – maen nhw peillio llawer o'n cnydau fel mefus ac afalau, yn ogystal â chnydau porthiant anifeiliaid megis meillion. Yn 2007 gwnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ymchwil a oedd yn cyfrif gwerth gwenyn i economi'r DU. Barnwyd fod gwerth y gwasanaethau gwenyn tua £200 miliwn y flwyddyn. Tybiwyd fod gwerth manwerthol yr hyn y maen nhw’n ei beillio bron yn £1 biliwn.

O dan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin ddyletswydd i ystyried bioamrywiaeth wrth gyflawni ei holl swyddogaethau ac mae hyn yn arbennig o berthnasol i gyfrifoldebau'r Cyngor o ran y Cynllun Datblygu Lleol a Rheoli Datblygu. Mae bioamrywiaeth yn elfen graidd o ddatblygu cynaliadwy, sy'n sail i ddatblygu economaidd a ffyniant, ac mae iddi rôl bwysig i'w chwarae wrth ddatblygu cymunedau lleol unigryw a chynaliadwy. Mae gwarchod a gwella bioamrywiaeth yn hanfodol yn ein hymateb i newid yn yr hinsawdd ac wrth ddarparu gwasanaethau ecosystem allweddol fel bwyd, rheoli llifogydd, peillio ac aer a dŵr glân.

Yn genedlaethol, mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (WBP) yn dod â chwaraewyr allweddol o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol at ei gilydd i hybu a monitro gweithredu ar fioamrywiaeth yng Nghymru. Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn darparu rôl arweiniol a chyfeiriad arbenigol ar y blaenoriaethau ar gyfer gweithredu ar fioamrywiaeth yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gyflawni, adolygu ac adrodd ar y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn flynyddol gyda Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru er mwyn bodloni ein Dyletswydd Bioamrywiaeth o dan Ddeddf NERC 2006.

Mae'r Cyngor yn ystyried bod gwarchod bioamrywiaeth yn elfen hanfodol o'r weledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, fel y dangosir yn y Strategaeth Gymunedol Integredig. Mae gan y strategaeth hon weledigaeth i 'warchod, gwella a diogelu ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig a hyrwyddo bioamrywiaeth yn y Sir'. Mae'r Cyngor yn un o'r sefydliadau partner ar y Bwrdd Gwasanaethau Lleol sy'n cyflawni nodau ac amcanion y Strategaeth Gymunedol.

Coed

Mae coed yn ased naturiol pwysig ac yn cyfrannu llawer at ansawdd ein hamgylchedd trefol a gwledig. Yn ychwanegol at eu hamwynder gweledol, mae coed yn gweithredu i hidlo sŵn, golau a llwch a gall gynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt. Gall y Cyngor amddiffyn coed drwy gyflwyno Gorchmynion Cadw Coed (TPO). Mae TPO yn anelu at warchod coed sy'n cael effaith sylweddol ar eu hamgylchedd, er enghraifft, os ydynt yn enghraifft dda o'u rhywogaeth neu’n ffurfio nodwedd bwysig yn y dirwedd leol. Gall yr awdurdod cynllunio lleol wneud TPO ar gyfer coeden, grŵp o goed neu goetiroedd gan gynnwys coed gwrychoedd, ond nid gwrychoedd, llwyni na phlanhigion. Gall aelodau o'r cyhoedd wneud cais ffurfiol am TPO.

Gwrychoedd

Mae gwrychoedd sy’n cael eu rheoli'n briodol yn werthfawr i fywyd gwyllt am eu bod nhw’n cynnal amrywiaeth gyfoethog o bryfed, adar, mamaliaid, ymlusgiaid ac amffibiaid. Mewn sawl ardal iseldir, gwrychoedd yw’r cynefin bywyd gwyllt mwyaf arwyddocaol sy'n weddill. Mae iechyd gwrychoedd yn hanfodol ar gyfer goroesiad llawer o'n rhywogaethau cyffredin yn ogystal â rhywogaethau prinnach a gallant fod yn goridorau bywyd gwyllt. Yn 1997 daeth rheoliadau i rym i ddiogelu gwrychoedd pwysig, yn enwedig gwrychoedd sy'n fwy na 20 metr o hyd neu wrychoedd sy'n cwrdd â gwrych arall ar y naill ben neu’r llall. Dylid nodi nad yw hyn yn effeithio ar wrychoedd gerddi. Mae'r Cyngor yn gorfodi'r Rheoliadau - ewch i'r tudalennau gwrychoedd am fwy o wybodaeth.

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Mae'r Cyngor yn cyfrannu at weithredu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Gaerfyrddin wedi cael ei lunio gan bartneriaeth o sefydliadau sy'n ymwneud â gwarchod bywyd gwyllt y sir.

Mae'r CGBLl yn cynnwys cyfres o gynlluniau gweithredu sy'n ymdrin â rhywogaethau a chynefinoedd sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio yn genedlaethol yn y sir, yn ogystal â rhywogaethau a chynefinoedd o bryder lleol. Mae'n cynnwys, er enghraifft, cynlluniau gweithredu ar gyfer dolydd yr iseldir, coed derw ucheldir, y wiwer goch a llygoden bengron y dŵr.

Mae pob cynllun gweithredu yn cynnwys camau gweithredu wedi'u hanelu at warchod a gwella’r cynefin hwnnw neu’r rhywogaeth arbennig honno o fewn y sir. Os yw'r camau gweithredu yn mynd i lwyddo, bydd angen i nifer o unigolion a sefydliadau weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tirfeddianwyr, asiantaethau'r llywodraeth, grwpiau gwarchod bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant.

Mae'r Bartneriaeth Bioamrywiaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau fel cyrff bywyd gwyllt y llywodraeth ac anllywodraethol, elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddol - i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i warchod a gwella bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin.

Am ragor o wybodaeth am aelodau Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin cliciwch ar y dolenni isod neu ewch i www.carmarthenshirebiodiversity.co.uk i gael manylion eu prosiectau lleol.

Mae yna nifer o ffyrdd y gallwn ni helpu i warchod bioamrywiaeth yn Sir Gaerfyrddin a gall pawb gymryd rhan. Gall hyd yn oed newidiadau syml wneud gwahaniaeth. Er enghraifft:

Gallwch helpu yn gyffredinol drwy:

Gallwch helpu yn y cartref fel a ganlyn:

  • Ailgylchu gwastraff organig fel crwyn llysiau ar domen gompost. Gall hyn wedyn gael ei ddefnyddio ar gyfer compost gardd ac mae'n creu cynefin ar gyfer nadroedd defaid a draenogod. Neu rhowch gynnig ar abwydfa, a fydd hefyd yn darparu gwrtaith hylifol ar gyfer eich planhigion.
  • Rhowch drefn ar eich sbwriel ac ailgylchwch bethau fel papur, plastig, cartonau llaeth, caniau a gwydr. Bydd hyn yn lleihau faint o gefn gwlad sydd ei angen ar gyfer tirlenwi.
  • Gwnewch fwy o ddefnydd o gynnyrch sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd a chynnyrch wedi’i ailgylchu.
  • Prynwch bethau wedi’u cynhyrchu’n lleol, cynnyrch organig neu tyfwch eich cynnyrch eich hun. Ewch i wefan y Gymdeithas Pridd am gyngor defnyddiol.
  • Arbedwch ynni. Mae cynhyrchu trydan yn defnyddio adnoddau ynni anadnewyddadwy, sydd yn ei dro yn cyfrannu at gynhesu byd-eang felly diffoddwch oleuadau ac offer pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Defnyddiwch eitemau solar.
  • Sicrhewch fod eich tŷ wedi'i inswleiddio'n iawn fel nad oes gwres yn cael ei wastraffu.

Gallwch chi helpu yn yr ardd fel a ganlyn:

  • Plannwch blanhigion a llwyni brodorol a lleol ac osgoi plannu rhywogaethau y gwyddys eu bod yn ymledol. Mae’n well gan wenyn a gloÿnnod byw blanhigion brodorol na rhai egsotig a bydd mwy o fywyd gwyllt yn cael eu denu i’ch gardd.
  • Plannwch flodau llawn neithdar i ddenu gwenyn a gloÿnnod byw.
  • Peidiwch â defnyddio pelenni gwlithod a phlaleiddiaid sy'n lladd pryfed buddiol ac yn effeithio ar yr adar sy'n eu bwyta ee y fronfraith sy'n dod yn fwyfwy prin. Yn hytrach defnyddiwch ddulliau eco-gyfeillgar. Er enghraifft, rhowch hen boteli plastig dros blanhigion ifanc, rhowch wymon o amgylch eich planhigion neu defnyddiwch faglau cwrw. Am fwy o wybodaeth am arddio organig ewch i wefan Gardd Organig.
  • Gosodwch flychau adar a blychau ystlumod a gosodwch declynnau bwydo adar, yn enwedig yn y gaeaf pan fydd adar yn ei chael yn anodd dod o hyd i fwyd. Cofiwch eu cadw i ffwrdd oddi wrth wiwerod a chathod.
  • Tyfwch blanhigion a llwyni sy'n cynhyrchu aeron neu hadau i'r adar fwydo arnynt, megis blodyn yr haul, cribau'r pannwr, berberis neu cotoneaster.
  • Gwnewch bwll yn yr ardd wedi’i ddylunio gyda bywyd gwyllt mewn cof.
  • Prynwch neu wnewch eich bin compost eich hun. Ewch i Compostio Gartref i gael cyngor ar gompostio. Mae defnyddio eich compost eich hun yn hytrach na mawn yn helpu i achub corsydd mawn sydd yn gynefin dan fygythiad ac sydd wedi dioddef yn andwyol gan y defnydd o fawn ar gyfer gerddi.
  • Darparwch leoedd yn eich gardd i greaduriaid fyw a llochesu yno. Gall cerrig, er enghraifft neu bren marw a dail, ddod yn gartref i ddraenogod, ffyngau a phryfed. Mae llyffantod, brogaod a madfallod sy’n gaeafgysgu yn hoffi pentyrrau o goed mewn corneli llaith tywyll o'ch gardd.
  • Gwnewch flwch ffenestr i annog gwenyn a gloÿnnod os nad oes gennych ardd.
Main News Thumbnail

Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn gofyn ichi neilltuo rhannau bychan o'ch lawnt ar gyfer peillwyr - gallai hyn fod yn eich gardd eich hunan, ar ran o dir yr ysgol, mewn mynwentydd, o amgylch adeiladau cyhoeddus, mewn meysydd chwarae, neu o amgylch eich safle busnes.

Ceisiwch neilltuo rhan fach o'r lawnt lle y byddwch yn gadael i'r gwair dyfu a blodeuo. Beth am ddefnyddio'r amser ychwanegol fydd gennych i gofnodi faint o blanhigion a chreaduriaid sy'n ymsefydlu yn eich dôl fach.

Mentrwch adael i'ch porfa dyfu - a helpu ein peillwyr!


News Thumbnail

Bellach mae blog gan Brosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin!

Gallwch ddysgu rhagor am ddarganfyddiadau cyffrous y myfyrwyr PhD yn Abertawe wrth iddynt ymchwilio i’r corsydd sy’n rhan o’r prosiect. Eu gobaith yw gallu ail-greu hanes y corsydd er mwyn gwybod sut leoedd oeddynt yn y gorffennol, ac ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd o dan wyneb y corsydd heddiw drwy hoelio sylw ar symudiadau dŵr daear.

Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin

Diweddarwyd y dudalen ar: 05/07/2016

ar-lein am dani