• English
  • Hepgor gwe-lywio

Rhywogaethau a Chynefinoedd

Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol yn ddogfen waith sydd wedi cael ei llunio gan bartneriaeth o sefydliadau sy'n ymwneud â gwarchod bywyd gwyllt. Mae'n cynnwys cyfres o gynlluniau gweithredu sy'n ymdrin â rhywogaethau a chynefinoedd sydd dan fygythiad neu sy'n dirywio yn genedlaethol yn y sir, yn ogystal â rhywogaethau a chynefinoedd o bryder lleol.

Mae'n cynnwys, er enghraifft, gynlluniau gweithredu ar gyfer dolydd yr iseldir, coed derw ucheldir, y wiwer goch a llygoden bengron y dŵr. Mae pob cynllun gweithredu yn cynnwys camau gweithredu wedi'u hanelu at ddiogelu'r cynefin penodol hwnnw neu’r rhywogaeth benodol honno.

Os yw'r camau gweithredu yn mynd i lwyddo, bydd angen i unigolion a sefydliadau weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth - gan gynnwys tirfeddianwyr, asiantaethau'r llywodraeth, grwpiau gwarchod bywyd gwyllt, awdurdodau lleol a diwydiant.

Tylluan WenMae tylluanod gwynion (Tyto alba – Barn Owl) o bosibl ymhlith yr adar tir mwyaf cosmopolitaidd ac maent yn byw mewn cynefinoedd addas ar y rhan fwyaf o dir y byd.

Hoff gynefin tylluanod gwynion ym Mhrydain yw tir amaeth ac maent yn nythu mewn adeiladau tawel neu mewn tyllau mewn coed, ac yn hela mewn caeau agored ac o gwmpas closau ffermydd lle byddant yn bwydo mewn glaswelltir garw sydd ond wedi'i bori'n ysgafn a lle mae digonedd o famaliaid bychain.

YstlumMae'r cynllun hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o rywogaethau ystlumod a nodwyd yn Rhywogaethau Blaenoriaeth Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Prydain yng Nghymru sy'n bod neu sy'n debygol o fod yn Sir Gaerfyrddin: ystlum lleiaf cyffredin ac ystlum lleiaf soprano, ystlum du, ystlum mawr, ystlum hirglust brown, ystlum pedol mwyaf ac ystlum pedol lleiaf.

Gan fod ystlumod yn aml yn clwydo gyda'i gilydd a bod ganddynt ofynion tebyg gellir cymryd y bydd yr holl rywogaethau eraill sydd yn Sir Gaerfyrddin, neu sy'n debygol o fod yn y sir, yn cael eu cynnwys yn y cynllun: ystlum barfog, ystlum Brandt, ystlum Natterer, ystlum y dŵr ac ystlum adain-lydan.

Brithribin brownMae'r brithribin brown (Thecla betulae - Brown hairstreak) yn löyn byw anodd iawn ei weld sy'n byw bron yn llwyr ym mrig y coed. Yn sgil hynny prin y'i gwelir heb ysbienddrych, binocwlars, neu dipyn o lwc.

Fodd bynnag mae'r oedolion yn ehedeg rhwng diwedd Gorffennaf a dechrau Hydref, ond fel rheol y benywod yn unig a welir yn hedfan yn isel a hynny fel arfer wrth ddodwy eu hwyau ar flaen dyfiant llwyni drain duon yn ystod Awst neu Fedi.

YsgafarnogMae'r ysgyfarnog (Lepus europaeus, brown hare) yn rhywogaeth eang ei dosbarthiad ym Mhrydain ond mae'n prinhau. Creadur llawr gwlad ydyw'n bennaf gan ffafrio tir amaethyddol ond mae modd gweld ysgyfarnogod ar dir sy'n cyrraedd hyd at 500 metr uwchlaw'r môr.

Ym Mhrydain mae ysgyfarnogod yn byw ar dir âr ac ar borfeydd, ond mae'n ymddangos eu bod fwyaf cyffredin ar dir sy'n gymysgedd o'r ddau. Darllenwch mwy yma. Mae'r ysgyfarnog (Lepus europaeus, brown hare) yn rhywogaeth eang ei dosbarthiad ym Mhrydain ond mae'n prinhau. Creadur llawr gwlad ydyw'n bennaf gan ffafrio tir amaethyddol ond mae modd gweld ysgyfarnogod ar dir sy'n cyrraedd hyd at 500 metr uwchlaw'r môr. Ym Mhrydain mae ysgyfarnogod yn byw ar dir âr ac ar borfeydd, ond mae'n ymddangos eu bod fwyaf cyffredin ar dir sy'n gymysgedd o'r ddau.

Cynefinoedd tir llwydYn aml bydd safleoedd tir llwyd yn segur am flynyddoedd lawer ac wrth i’r ardaloedd tawel hyn, nad oes neb yn tarfu arnynt, gael eu cytrefu gan blanhigion ac anifeiliaid gall fflora a ffawna amrywiol ddatblygu gydag dilyniant cymhleth o gynefinoedd yn ffurfio brithwaith neu glytwaith, o ddaear noeth i laswelltir, prysgwydd a choetir.

Cynefinoedd arfordirol Mae arfordir Sir Gaerfyrddin ar ei hyd bron yn cynnwys cynefinoedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth â blaenoriaeth. Y cynefinoedd hyn yw’r llain pontio rhwng y tir a’r môr a gallant fod yn ddynamig iawn, yn newid gydag amser.

Cynefinoedd tir ffermMae tirwedd amaethyddol Sir Gaerfyrddin yn un o’r nodweddion sy’n diffinio’r sir. Mae gwrychoedd cyforiog o rywogaethau a choed aeddfed ynddynt yn nodwedd hanesyddol pwysig o’r dirwedd. Gallant fod yn gynefinoedd pwysig i ieir bach yr haf, gwyfynod, adar a mamaliaid bach.

Cynefinoedd dŵr croywMae gan y sir rwydwaith cyfoethog a chymhleth o afonydd a nentydd, yn amrywio o nentydd tir uchel cul, sydd wedi torri’n ddwfn i’r tir, i rannau tir isel addfwynach, dolennog afon Tywi.

Cynefinoedd glaswelltirMae’r glaswellt cynefinoedd hyn i gyd yn cyfrannu at yr amrywiaeth cyfoethog o dirweddau a chynefinoedd yn y sir ac maent yn gynefinoedd i rai o’n rhywogaethau pwysicaf, sy’n dirywio.

Roeddent i gyd yn llawer mwy cyffredin yn y gorffennol ac maent wedi dirywio’n sylweddol.

MorolMae môr ac arfordir Sir Gaerfyrddin yn un o dirweddau diffiniol y sir, yn cyfrannu’n sylweddol i’w chymeriad cyffredinol ac yn bwysig i’n heconomi leol er mwyn denu ymwelwyr a mewnfuddsoddiad.

Yr ucheldirMae’r cynllun gweithredu cynefin grŵp hwn yn cynnwys cynefinoedd gweundir yr ucheldir, gorgors, trylifiadau, ffeniau a chorsydd siglennaidd ar dir uchel, a sgri.

GwlyptirMae gwlyptiroedd hefyd yn bwysig i bobl. Maen nhw’n darparu dwr ffres inni drwy hidlo llygredd ac maen nhw’n gallu gweithredu fel mannau storio dwr sy’n lleihau’r perygl o lifogydd. Maen nhw’n darparu bywoliaeth i bobl. Fodd bynnag, mae cynefinoedd gwlyptir wedi dirywio’n fawr: mae ffeniau wedi cael eu draenio, corsydd pori wedi cael eu haredig a’u hailhadu, gwelyau cyrs wedi cael eu llygru, a chorsydd tir isel wedi cael eu difrodi drwy dynnu mawn

Cynefinoedd coetirMae gan Sir Gaerfyrddin gyfran dda o’r cynefin coedwig yng Nghymru. Mae Coed y Castell yn Llandeilo yn enghraifft ragorol.

Yma fe welwch amrywiaeth dda o adar bridio yn cynnwys y gnocell fraith fwyaf, y gnocell fraith leiaf a’r gnocell werdd, y dringwr bach, delor y cnau, tingoch, gwybedog brith a gwybedog mannog. Ymysg yr adar ysgylyfaethus sy’n byw yma mae gwalch glas, bwncath a thylluan frech.

PathewMamal bach sy'n greadur y nos yw'r pathew ac mae'n bwydo'n bennaf ar gnau, ffrwythau, blodau a thrychfilod. Cynefinoedd nodweddiadol pathewod yw coetiroedd hynafol sydd wedi eu prysgoedio ynghyd â phrysglwyni bychain lle mae rhwydwaith o berthi cyswllt sy'n gyforiog o rywogaethau

DraenogEr ei fod yn famal nodweddiadol ym Mhrydain, mae llawer nad ydym yn ei wybod am y boblogaeth draenogiaid yn Sir Gaerfyrddin. Ni wyddom fawr am y niferoedd na’u dosbarthiad ond, ynghyd â gweddill y wlad, mae’n ymddangos bod eu niferoedd yn gostwng.

DyfrgiMae’r dyfrgi yn un o gigysyddion mwyaf Prydain. Anifail y nos yw’r dyfrgi gan mwyaf ac mae’n byw ar hyd afonydd ond bydd hefyd yn defnyddio camlesi, ffosydd, corsydd, llynnoedd ac ardaloedd cyfagos o brysgwydd a gwlyptir.

BrogaMae amffibiaid ac ymlusgiaid (sydd gyda’i gilydd yn cael eu galw’n herpetoffawna) yn grŵp hynafol o anifeiliaid ac mae rhywogaethau o’r naill grŵp a’r llall i’w cael yn Sir Gaerfyrddin.

Y rhywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth â blaenoriaeth a geir yn y sir yw’r madfall, y neidr ddefaid, neidr y gwair, y wiber a’r llyffant dafadennog.

Cwtiad torchog bachYmwelydd haf â Chymru yw’r – fel arfer mae’n cyrraedd ym mis Mawrth ac yn ymadael ym mis Mehefin/Gorffennaf.

Mae’n nythu ar draethellau graeanog ac yn bwydo ar bryfed a’u larfae, ynghyd â chorynnod, molysgiaid bach a mwydod.

Britheg y gorsMae britheg y gors yn löyn byw deniadol sy'n hedfan o ganol mis Mai tan ganol mis Mehefin fel rheol. Mae'r larfâu'n byw fel cymuned mewn gwe sidan ar damaid y cythraul a gellir eu hadnabod yn hawdd ddiwedd yr haf.

Wiwer gochY wiwer goch (Sciurus vulgaris) yw unig wiwer frodorol Prydain. Mae dirywiad enbyd wedi bod o ran niferoedd gwiwerod coch yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae'r dirywiad hwnnw'n gysylltiedig ag ymlediad gwiwerod llwyd, a gyflwynwyd i Brydain o Ogledd America ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gludlys amryliwYn Sir Gaerfyrddin, mae'r gludlys amryliw wedi'i gysylltu'n bennaf â safleoedd diwydiannol ac fe'i cofnodwyd gyntaf ar safle Doc Llanelli gan Motley ym 1836.

Golfan y MynyddMae golfan y mynydd (Passer montanus, tree sparrow) yn gefnder gwledig llai o faint i rywogaeth fwy cyfarwydd sef aderyn y to. Yn wahanol i'r rhywogaeth honno, mae patrwm plu'r iâr a’r ceiliog yr un fath yn achos golfanod y mynydd, a'r gwahaniaeth pennaf rhwng y rhywogaethau yw'r cap cochfrown a'r smotyn du ar y bochau gwyn.

Llygoden Bengron y DŵrCnofil bychan lled-ddyfrol yw llygoden bengron y dŵr (Arvicola terrestris, water vole), ac mae’n byw mewn amrywiaeth o gynefinoedd dwr croyw gan gynnwys afonydd, nentydd, ffosydd, camlesi, llynnoedd a phyllau.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani