• English
  • Hepgor gwe-lywio

Gwarchodfeydd Natur

Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn noddfeydd i fywyd gwyllt, ac maent yn agored i bawb brofi tawelwch a llonyddwch byd natur. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, gyda chymorth gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, yn gofalu am Warchodfeydd Natur Lleol, a hynny yn unol â'r ymrwymiad a wnaed yng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig am yr Amgylchedd a Datblygu, ym Mrasil yn 1992, i warchod bioamrywiaeth.

Mae pump o Warchodfeydd Natur Lleol yn Sir Gaerfyrddin: Twyni Tywod a Morfa Pen-bre, y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll, Twyni Doc y Gogledd, Carreg Cennen, a Glan-yr-Afon, Cydweli.

Pembrey-Burrows_cyMae Twyni Tywod Pen-bre yn system dwyni fawr sy'n ehangu (sy'n nodwedd brin), lle gallwch ddod o hyd i'r holl wahanol fathau o dwyni tywod gan gynnwys egin-dwyni, twyni mawr lled-sefydlog, a thwyni llwyd mwy sefydlog lle mae glaswelltir twyni. Mae'r twyni tywod hyn yn nodedig am eu hamrywiaeth o blanhigion, ac maent yn gartref i nifer o rywogaethau prin gan gynnwys trilliw y tywyn, y crwynllys Cymreig, y gludlys rhesog, pig yr aran rhuddgoch, melyn yr hwyr, a'r blucen felen. Hefyd mae'r pryfed sy'n dibynnu ar yr amrywiaeth hwn o blanhigion yn unigryw, a gallwch ddod o hyd i'r glesyn bach, yr iâr fach gleisiog, a nifer fawr o rywogaethau o wenyn a phicwns sy'n byw ar eu pennau eu hunain megis y gardwenynen frown. Mae'r morfa, nad yw'n cael ei bori, yn gartref i lafant y morgreigiau, sy'n llenwi'r morfa â blodau porffor ym mis Awst. Hefyd mae sampier y geifr a seren y morfa'n blodeuo'n hwyrach yn yr haf sy'n golygu bod y lle'n drwch o felyn.

Northdock-dunes_cyMae safle Twyni Doc y Gogledd wedi ei ddiogelu gan ei fod yn gynefin twyni tywod prin sy'n gyforiog o blanhigion ac anifeiliaid arbenigol. Mae'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yn y twyni wedi ymaddasu'n arbennig er mwyn gwrthsefyll yr amodau caled. Yn yr haf mae'r twyni'n dwym ac yn sych ac yn y gaeaf mae'r gwynt yn chwythu ewyn hallt o'r môr drostynt. Yn y gwanwyn gorchuddir y glaswelltir twyni â phlanhigion llachar megis y friwydden felen, y melynydd, y trilliw, a'r gorfanc lleiaf parasitig, tra bo celyn y môr a'r pengaled mawr i'w gweld ar dir garw. O ran rhywogaethau di-asgwrn-cefn arbenigol mae'r twyni'n cynnwys rhywogaethau sy'n cael eu cysylltu gan amlaf â hinsoddau mwy deheuol; mae 'malwod y twyni' er enghraifft yn hanu o Fôr y Canoldir a hwn yw'r man mwyaf gogleddol yn y byd y gellir dod o hyd iddynt. Yn yr haf mae llawer o'r malwod hyn i'w gweld yn glynu at goesau planhigion er mwyn osgoi'r tywod crasboeth.

Ashpits-pond_cyArferai'r Pwll Lludw a Merllyn y Pwll fod yn byllau gwaelodi ar gyfer lludw tanwydd maluriedig o Orsaf Drydan Bae Caerfyrddin sydd wedi ei dymchwel bellach. Heb amheuaeth mae'r Pwll Lludw yn gynefin pwysig i adar y gwlyptir, ac mae'r cyrs o amgylch y pwll yn llecyn llochesu da pan fyddant yn magu ac yn gorffwys. Ymhlith yr adar sydd yn magu yma y mae elyrch dof, hwyaid gwyllt, hwyaid copog, gwyachod bach, gwyachod mawr copog, cwtieir ac ieir dŵr. Mae'r corslwyni yn fannau magu da i deloriaid y cyrs, teloriaid yr hesg a breision y cyrs, ac mae teloriaid Cetti prin yn y ffen helyg. Yn y gaeaf daw rhegennod y dŵr a'r hwyaid pengoch i'r cyffiniau.

Yng nghyffiniau Merllyn y Pwll y mae coetir llaith a ffen sy'n gyforiog o blanhigion. Un o nodweddion diddorol y safle yw bod planhigion sydd yn ffynnu ar dir calchfaen yn ogystal â phlanhigion sydd yn arfer osgoi tir calchfaen, yn tyfu'n agos at ei gilydd yn yr un cynefin. Y rheswm dros hyn yw bod lludw tanwydd maluriedig yn hynod o alcalïaidd ar y cychwyn. Mae chwe rhywogaeth o frwyn yn tyfu yma gan gynnwys y frwynen flodbwl. Yn ogystal â chyrs, mae carpiog y gors, llys y milwr, a thegeirian y gors i'w gweld yn tyfu yn y cynefin hwn. Hesg, megis yr hesgen dywysennog, sydd yn gorchuddio'r ffen agored, ond ymhlith yr hesg y mae planhigion eraill megis canri leiaf a gwlithlys. Yn y coetir bedw a helyg tyf rhedyn cyfrdwy a marchredyn y mynydd, sydd yn blanhigion pridd asidaidd.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani