• English
  • Hepgor gwe-lywio

Mathau o gynefinoedd

Farmland_cyUn o nodweddion arbennig Sir Gaerfyrddin yw ei thirwedd amaethyddol o gaeau a chloddiau. Gall gwrychoedd sydd â llawer o rywogaethau a choed aeddfed fod yn gynefinoedd pwysig i loÿnnod byw, gwyfynod, adar a mamaliaid bach. Crëwyd rhai gwrychoedd pan gafodd y tir ei gau ddiwedd y 1700au a dechrau'r 1800au; mae eraill lawer yn hŷn, wedi'u ffurfio o bosibl o goetiroedd pan gafodd y rhain eu clirio gyntaf at ddibenion amaethyddol.

Yn y gorffennol, cyn bod defnydd mwy dwys o gemegau a chynnydd yn y defnydd o beiriannau amaethyddol, roedd blodau gwyllt yn tyfu yng nghanol y cnydau. Heddiw cânt eu cyfyngu i raddau helaeth i ymylon y caeau sydd hefyd yn hafan bwysig i famaliaid bach. Gall yr ymylon mwy naturiol hyn fod yn fuddiol i'r fferm hefyd, gan annog pryfaid fel y fuwch goch gota, sy'n bwydo ar rai plâu cnydau.

Gall perllannau traddodiadol fod yn gynefin da i gennau prin ac infertebratau ac maen nhw'n rhan bwysig o'n hetifeddiaeth a'n tirwedd, yn aml ar yr un darn o dir am ganrifoedd. Mae perllannau traddodiadol yn brin yn Sir Gaerfyrddin ond mae'n debyg i Ddyffryn Tywi fod yn bwysig yn y gorffennol. Mae ymchwil yn dangos bod yr ardal hon unwaith yn nodedig am ei blodau gwanwynol gyda thros 100 o berllannau i'w gweld ar fap Arolwg Ordnans 1905 rhwng Llanymddyfri a Llandeilo. Ceir tri math hanesyddol o goed afal yn lleol i Ddinefwr yn unig. Gelwir Sant Teilo, yr enwyd y dref ar ei ôl, yn nawdd sant afalau.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd fferm: rhywogaethau ystlum (gan gynnwys yr ystlum lleiaf cyffredin), ffwlbart, ysgyfarnog winau, pathew, melyn yr eithin, y gog gyffredin, draenog, glöyn byw brithbrin brown.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i: Hedgelink, PTES Orchards survey.

Brownfields_cyCynefinoedd tir llwyd yw tir a arferai gael ei ddefnyddio gan bobl, gan ddiwydiant er enghraifft, ond sydd bellach yn segur neu'n ddiffaith (mewn rhai achosion gall fod rhywfaint o ddefnydd o hyd). Gall safleoedd o'r fath gynnwys hen byllau glo, chwareli segur, tipiau gwastraff neu safleoedd ffatrïoedd gwag.

Ar ôl peidio â chael eu defnyddio am sawl blwyddyn gall yr ardaloedd hyn, o'u gadael, ddatblygu mosaig (clytwaith) o gynefinoedd, o dir moel i laswelltir, prysg a choetir a chael eu hail-gytrefu gan amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn enwedig planhigion, adar, mamaliaid, amffibiaid ac ymlusgiaid ac infertebratau. Yn aml bydd ardaloedd fel hyn yn cynnig cynefinoedd amgen i lawer o rywogaethau sydd wedi lleihau oherwydd colli eu cynefinoedd brodorol yn ehangder cefn gwlad.

Dros y blynyddoedd diweddar mae gerddi a rhandiroedd wedi datblygu'n gynefinoedd pwysig i fywyd gwyllt a gallant fod yn 'goridorau bywyd gwyllt' pwysig hefyd (cynefinoedd yn cysylltu poblogaethau bywyd gwyllt wedi'u gwahanu gan weithgarwch dynol). Yn ein trefi, mae llawer o gynefin ar gael i fywyd gwyllt mewn gerddi, sef 'ysgyfaint gwyrdd' ein hamgylchedd trefol. Mae gerddi hefyd yn caniatáu i bobl fod â chyswllt agos â Natur gan fod gerddi'n darparu hafan i amrywiaeth enfawr o adar a phryfaid. Mae rhywogaethau eraill fel draenogod ac amffibiaid hefyd yn gallu dibynnu'n gynyddol ar erddi yn y dref am fwyd a chysgod.

Gall parciau a gofodau gwyrdd mewn ardaloedd trefol gynnwys ardaloedd mwy ffurfiol a reolir i safon uchel ac ardaloedd naturiol gyda llai o reolaeth. Gall parciau fod yn ynysoedd i natur, yn cynnal bioamrywiaeth a darparu cynefin i blanhigion ac anifeiliaid mewn ardaloedd trefol. Gall gofodau agored trefol a reolir yn briodol fod yn fannau i gymunedau lleol fwynhau natur mewn lleoliad trefol, gan ymlacio a chymryd rhan mewn ymarfer corff. Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd tir llwyd: ysgyfarnog winau, iâr fach y graig, neidr ddefaid, nyth adar.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw:

Safleoedd tir llwyd: SSSI Merllyn y Pwll a Phwll Ashpit Porth Tywyn; safle Llygoden y Dŵr Morfa Berwig, y Binie; Parc Coetir Mynydd Mawr, y Tymbl; Parc Adloniant Nant-y-Ci. Parciau: Parc Howard, Llanelli, Parc Betws, Rhydaman; Parc Penlan, Llandeilo, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan Buglife.

Coastal_cyMae bron y cyfan o arfordir Sir Gaerfyrddin yn cynnwys cynefinoedd pwysig gan greu un o dirluniau mwyaf nodedig Sir Gaerfyrddin a chyfrannu at gymeriad y sir. Dyma le mae'r tir a'r môr yn cwrdd a gall fod yn ddynamig iawn gan newid dros amser.

Ceir graean bras arfordirol â llystyfiant (croniad o gerrig bach) uwchlaw’r marc penllanw ac mae’n gynefin prin lle gall planhigion arbenigol (fel y pabi corniog) ac infertebratau fyw. Yn Sir Gaerfyrddin mae i’w weld mewn tri safle’n unig (gweler isod).

Gwelir morfeydd heli, sef rhannau uchaf fflatiau llaid â llystyfiant sy’n dod i’r golwg pan fydd y llanw’n isel, mewn morydau cysgodol gan fwyaf, lle gall gwaddod setlo a chronni. Mae'r planhigion arbenigol sy'n tyfu mewn morfeydd heli wedi addasu i gael eu trochi’n rheolaidd gan y llanw hallt. Gall planhigion gwahanol oddef gwahanol faint o heli felly mae'r morfa heli wedi'i rannu'n 'barthau'.

Mae morfeydd heli'n cynnig ardaloedd clwydo llanw uchel pwysig i adar hirgoes ac adar gwyllt sy'n bwydo ar y fflatiau llaid cyfagos. Maen nhw hefyd yn safleoedd bridio i adar ac yn diroedd bwydo gaeafol i heidiau mawr o hwyaid a gwyddau gwyllt. Mae yma hefyd safleoedd meithrin cysgodol i nifer o rywogaethau o bysgod allu magu eu hepil. Gall morfeydd heli wasgaru ynni'r tonnau ac felly helpu i amddiffyn yr arfordir rhag llifogydd ac erydu.

Mae rhan helaeth o arfordir Sir Gaerfyrddin yn dwyni tywod, ond ceir ardaloedd o glogwyni môr hefyd. Nid yw’r rhain yn gartref i gytrefi enfawr o adar môr fel y rhai a geir yn Sir Benfro ond ceir rhywfaint o wylanod, adar drycin y ddraig a hyd yn oed gweilch ysglyfaethus. Yn aml ceir llystyfiant ar glogwyni Sir Gaerfyrddin, ambell waith gyda rhywogaethau prin fel gwallt y forwyn, sy'n frodorol.

Mae twyni tywod yn ffurfio lle caiff tywod sych ei chwythu'n rheolaidd at y tir o'r traeth a'i adael uwchlaw'r llanw. Yna caiff ei ddal gan laswellt arbennig (e.e. moresg) sy'n helpu i adeiladu'r twyn, cyn cael ei gytrefu gan blanhigion eraill sy’n helpu i sefydlogi'r tywod a 'gosod' y twyn.

Gall twyni tywod gynnal amrywiaeth helaeth o blanhigion ac anifeiliaid a chynnig cynefin i ystod o rywogaethau sydd wedi addasu'n arbennig, gan gynnwys nifer o blanhigion anghyffredin, ffwng ac infertebratau. Mae tegeirian, gwenyn a gloÿnnod byw i gyd yn ffynnu yn y cynefin hwn. Mae gan Sir Gaerfyrddin fwy o dwyni na bron pob un o siroedd eraill Cymru.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd arfordirol: ehedydd, gwylan y penwaig, iâr fach gleisiog.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw:

Graean bras arfordirol â llystyfiant: ceir tair ardal o raean bras arfordirol â llystyfiant yn Sir Gaerfyrddin: Penrhyngwyn, Machynys i'r de o Lanelli, Morfa Bychan i’r gorllewin o Bentywyn a Chefn Padrig, i’r dwyrain o Borth Tywyn.

Morfa heli: Canolfan Gwlypdiroedd Genedlaethol Cymru ym Mhenclacwydd ac o Barc Arfordirol y Mileniwm yng Ngwarchodfa Natur Leol Doc y Gogledd.

Clogwyni môr: clogwyni i’r gorllewin o Lansteffan; ac ar hyd yr arfordir rhwng Amroth–Marros–Pentywyn.

Twyni tywod: Ceir dwy system fawr o dwyni tywod, sef Talacharn-Pentywyn ac SSSI Arfordir Pembre; ceir enghreifftiau llai o faint hefyd yn Llansteffan, Glan y Fferi, Porth Tywyn a Llanelli.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Freshwater_cyCeir rhwydwaith cyfoethog a chymhleth o afonydd a nentydd yn y sir, yn amrywio o nentydd cul â glannau serth yn yr ucheldir i'r afonydd mwynach, troellog yn yr iseldiroedd megis afon Tywi. Mae'r rhwydwaith hwn o gyrsiau dŵr yn gweithredu fel coridorau i fywyd gwyllt drwy'r sir, gan gysylltu safleoedd y gwlypdir a dod â bywyd gwyllt i galon ein canolfannau trefol.

Cydnabuwyd gwerth bywyd gwyllt afonydd y sir ar lefel Ewropeaidd a chenedlaethol drwy ddynodi afonydd Tywi a Theifi, ynghyd ag aberoedd Taf, Gwendraeth a Llwchwr yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSIs) ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (SACs). Mae afon Tywi, ynghyd â'i hisafon, Cothi, ac afon Teifi, yn enwog fel afonydd eog a brithyll. Mae nentydd dyffrynnoedd yr ucheldir yn silfeydd ac yn feithrinfeydd pwysig i'r pysgod hyn.

Mae gwelyau o raean bras, llystyfiant ar lannau'r afonydd a 'chlogwyni' agored yn darparu amrywiaeth o gynefinoedd i rywogaethau megis y cornicyll modrwyog bach, dyfrgwn, a gwenoliaid y tywod ynghyd â llawer o infertebratau ac mae’r dyfroedd yn cysgodi pysgod megis eogiaid, brithyll a'r lamprai hynafol yr olwg.

Mewn cyferbyniad â nentydd chwim yr ucheldir ceir ffosydd draenio'r iseldir ar wastadeddau arfordirol Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn bwysig i ystod o fywyd gwyllt gan gynnwys llygoden y dŵr sydd dan fygythiad cynyddol.

Un cynefin dŵr croyw unigryw a chyfriniol yw unig enghraifft Cymru o gorff naturiol o ddŵr tonnog a gaiff ei fwydo gan ddyfrhaen, neu dirlyn. Llynnoedd dros dro yw'r rhain ac fe'u canfyddir mewn ardaloedd o galchfaen carbonifferaidd. Nid oes gan dirlynnoedd ffrydiau gweladwy i mewn nag allan ond cânt eu bwydo a dŵr daear (dŵr sydd o dan arwyneb y Ddaear mewn holltau (gofodau) yn y graig). Gall y rhain gynnal bywyd gwyllt prin. Yn Sir Gaerfyrddin gellir dod o hyd i dirlyn Pant-y-llyn ar ben dwyreiniol Ardal Cadwraeth Arbennig Coedwig Carmel. Mae fel arfer yn wag erbyn mis Mehefin - Gorffennaf ac yn llenwi eto rhwng mis Hydref a Rhagfyr.

Mae pyllau a llynnoedd yn werthfawr i fywyd gwyllt, yn enwedig infertebratau, adar ac amffibiaid. Nid oes gan Sir Gaerfyrddin niferoedd uchel o lynnoedd a phyllau naturiol, ond mae llawer wedi'u creu o ganlyniad i ddiwydiant, e.e. crëwyd Pyllau Machynys yn Llanelli o ganlyniad i gloddio clai i wneud briciau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gwerth hamdden i rai o'n pyllau sy'n cael eu stocio gyda physgod e.e. pyllau Cwm-yr-Oernant yng Nghaerfyrddin a Phwll yr Hen Gastell yn Llanelli.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd dwr croyw: dwrgi, llygoden y dŵr, eog, rhywogaethau ystlumod sy'n hela, cornicyll modrwyog bach.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw:

Afonydd a nentydd: Edrychwch ar y teithiau cerdded yn Nyffryn Cothi

Llynnoedd: SSSI Llynnoedd Talyllychau (SN631337), SSSI Llyn Pencarreg (SN537456) a SSSI Llyn Llech Owain (SN568151).

Pyllau: Parc Dŵr Sandy yn Llanelli, a Phwll yr Esgob (SSSI) yn Abergwili yw un o'r enghreifftiau gorau o ddŵr agored yn y sir - mae'n ystumllyn sydd wedi torri i ffwrdd o afon Tywi, Cwm-yr-Oernant, Caerfyrddin. SSSI Merllyn y Pwll a Phwll Ashpit Porth Tywyn.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Grasslands_cyMae ein glaswelltiroedd amrywiol yn cyfrannu at dirlun cyfoethog ac amrywiaeth y cynefinoedd yn y sir a dyma gynefinoedd rhai o'n rhywogaethau pwysicaf sy'n edwino. Yn y gorffennol roedd ein cynefinoedd glaswelltir naturiol yn llawer ehangach ac maen nhw wedi dioddef dirywiad sylweddol.

Ar un adeg roedd dolydd yr iseldir yn olygfa gyfarwydd yng nghefn gwlad. Mae'r rhain yn nodweddiadol o dir fferm sy'n cael ei reoli'n draddodiadol ac yn aml maen nhw'n gyfoethog o ran bywyd gwyllt. Maen nhw'n cynnwys porfeydd i dda byw yn ogystal â dolydd lle torrir y gwair a gallan nhw fod mewn mynwentydd ac ar ymylon ffyrdd. Yn nodweddiadol maen nhw'n digwydd ar bridd nad yw wedi'i wrteithio'n drwm na'i ail-hadu ac maen nhw'n cynnwys amrywiaeth o rywogaethau - mae enghreifftiau da o'r math hwn o laswelltir yn cynnwys 25-30 (neu ragor) o rywogaethau planhigion gwahanol mewn ardal nad yw ond yn 2 x 2 m2! Maen nhw hefyd yn gallu bod yn gynefinoedd pwysig i bryfaid (e.e. gloÿnnod byw), adar (e.e. yr ehedydd) a mamaliaid (e.e. ysgyfarnog winau ac ystlumod hela).

Gall porfeydd glaswelltir corsiog, sydd wedi'u gwasgaru drwy'r sir ac yn enwedig yn ardal Cross Hands a Chwm Gwendraeth, fod yn llawn bywyd gwyllt, gan gynnwys amrywiaeth o weiriau, hesg, brwyn a phlanhigion blodeuog megis carwe sidellog, ysgall y dolydd, blodau’r brain, clafrllys gwreidd-dan a thegeirian. Yn aml ceir grug yn tyfu yng nghanol y glaswelltir twmpathog.

Mae adar fel yr ehedydd, y gylfinir a and bras y gors yn defnyddio'r glaswelltir i nythu a bwydo ac mae brogaod, llyffantod, madfallod a mamaliaid bach i gyd yn byw yma. Mae amrywiaeth o bryfaid yn defnyddio porfeydd y rhos, gan gynnwys y glöyn byw anghyffredin brith y gors, sydd erbyn hyn yn un o'r gloÿnnod byw sy'n edwino fwyaf cyflym yn Ewrop.

Mewn ardaloedd ucheldirol fel y Mynydd Du a Mynydd Mallaen mae glaswelltir asid i’w weld dros ardaloedd eang, yn aml yng nghanol ardaloedd o gorsydd a gweundir a mannau agored creigiog. Mae'r ardaloedd ucheldirol agored hyn yn bwysig i rywogaethau adar megis cornicyll aur a’r gylfinir.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd glaswelltir: brith y gors, neidr y gwair, gwyfyn y creulys.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw: 

Dolydd yng Nghoedwig Carmel, Caeau Blaen Dyffryn (Gwarchodfa Blanhigion), Caeau Ffos Fach (Gwarchodfa Gloÿnnod Byw), Parc Gwledig Gelli Aur, Mynydd Mallaen, Mynydd Du, Mynydd Llanllwni.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Ar briddoedd tlotach yn ardaloedd yr ucheldir (uwchlaw terfyn amgáu tir amaethyddol) y gwelir gwaun uchel (cynefin lle ceir rhywogaethau grug yn bennaf). Mae'n cynnwys gwaun 'gwlyb' a 'sych' ac mae'n aml yn ffurfio mosaig (clytwaith) gyda chynefinoedd eraill megis gorgors, glaswelltir, rhedyn, sgri a choetir.

Mae cyfanswm gweundir uchel Sir Gaerfyrddin yn gymharol fach. Mae llawer o rostir yr ucheldir i'w ganfod ar Fynydd Mallaen yng ngogledd Sir Gaerfyrddin (mae'r safle hwn yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig oherwydd ei lystyfiant gwaun sych). Mae Mynydd Llanllwni, i'r gogledd o Frechfa, yn ardal bwysig arall.

Gall gwaun uchel yng Nghymru gynnal amrywiaeth o adar anghyffredin gan gynnwys y cudyll bach a'r rugiar goch; gall y cynefin hefyd fod yn bwysig i infertebratau a mwsoglau a chennau.

Gwelir gwaun yr iseldir islaw terfyn uchaf amgáu tir amaethyddol, fel arfer dan 300m. Fe'i nodweddir gan rug, grug y mêl, grug croesddail ac eithin mân, ar bridd isel mewn maethynnau ac fe’i cysylltir yn aml â glaswelltir asid neu wlyb. Mae’r troellwr mawr, yr ehedydd a’r llinos yn defnyddio’r cynefin hwn a gall fod yn bwysig i ymlusgiaid ac infertebratau.

Mae gwaun yr iseldir yn llai cyffredin a gan amlaf yn rhos wlyb sy’n gysylltiedig â glaswelltir corsiog. Ceir enghreifftiau da yng Ngharmel, Mynydd Llangyndeyrn a Mynydd Ystyffalau-carn. Ceir gwaun iseldir sych o gwmpas ymylon yr ucheldir gyda chlytiau bach gwasgaredig hefyd ar hyd y gefnen grut melinfaen yn ne’r sir.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd gweundir: Nodweddir gwaun sych â rhywogaethau niferus fel grug, grug y mêl, llus, creiglus ac eithin mân. Yn cymryd lle amlwg ar waun wlyb ceir cymysgedd o rug, grug croesddail, glaswellt y gweunydd a chlwbfrwynen y mawn, ochr yn ochr â charpedi o fwsogl (yn bennaf rhywogaethau Sphagnum).

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw:

Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Mynydd Llangyndeyrn, Mynydd Mallaen, Mynydd Du, Mynydd Llanllwni, Mynydd Marros a Thrwyn Ragwen, ger Pentywyn.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Wetlands_cyMae ffeniau, corsydd, gwelyau cyrs a gwernydd pori i gyd yn gynefinoedd gwlypdir sydd i'w canfod yn y sir. Gwlypdir yw un o'n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr. Maen nhw’n cynnal llawer o rywogaethau bywyd gwyllt brodorol gan gynnwys planhigion gwlypdirol pwysig, infertebratau gan gynnwys gwas y neidr, adar, dyfrgwn a llygoden y dŵr. Maen nhw'n ffurfio rhan o dirwedd iachus, fyw. Mae gwlypdiroedd hefyd yn bwysig i bobl. Maen nhw'n rhoi dŵr ffres i ni drwy hidlo llygredd a gallant weithio fel ardaloedd storio sy'n helpu i leihau'r risg o lifogydd.

Yn gyffredinol, mae gwernydd pori yn laswelltiroedd sy'n cael llifogydd yn gyfnodol, yn aml gyda ffosydd sy'n cynnal lefelau'r dŵr, ac sy'n cynnwys dŵr llonydd lled hallt neu groyw. Gall y ffosydd hyn fod yn arbennig o gyfoethog o ran planhigion ac infertebratau. Mae bron y cyfan yn cael eu pori a chaiff rhai eu torri i gael gwellt neu silwair. Gall safleoedd gynnwys ardaloedd o ffen a gwelyau cyrs.

Mae gwernydd pori yn arbennig o bwysig i nifer o rydwyr bridio megis gïach (Gallinago gallinago), y cornicyll (Vanellus vanellus) a'r coesgoch (Tringa totanus), a hefyd yr adar gwyllt gaeafol maen nhw'n eu cynnal.

Ceir ardaloedd sylweddol o wernydd pori yn ardal Cilfach Porth Tywyn a Bae Caerfyrddin a cheir gwernydd pori gorlifdir ar hyd gwaelodion dyffrynnoedd y prif afonydd, yn enwedig dyffrynnoedd afonydd Gwendraeth, Taf a Tywi. Mae hon yn rhan o ardal a fu unwaith yn helaeth yn y sir ond sydd bellach wedi edwino’n fawr. Mae’r ardaloedd pwysicaf o wernydd pori arfordirol i’w gweld tua gwaelod cwm Gwendraeth a Phentywyn. Yma mae’r corsydd yn gymharol gyflawn ac yn llawn bywyd gwyllt – mae Pentywyn yn bwysig i gornicyllod aur sy’n gaeafu.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd gweundir: gwiber, ehedydd, pibydd y coed, rhywogaethau ystlumod sy’n hela.

  • Gwelyau cyrs/Fen: Ffrwd Fen ger Pinged.
  • Gwernydd pori: Pentywyn – trwyn Ginst

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Woodlands_cyCeir coetiroedd a choedwigoedd dros un rhan o saith o dir Sir Gaerfyrddin. Mae’r mwyafrif yn blanhigfeydd conifferaidd anfrodorol ond mae 30% yn goedwigoedd brodorol. Mae’r rhain wedi’u gwasgaru drwy’r sir, yn aml ar dir oedd yn rhy anodd neu wael i’w glirio ar gyfer amaethyddiaeth. Mae llawer yn olion y goedwig llydanddail frodorol oedd yn estyn dros lawer o dir Cymru ar un adeg. Y goeden fwyaf cyffredin yw’r dderwen, ac ynn, ffawydd, masarn, bedw a gwern yw’r rhan fwyaf o’r lleill.

Mae’r mathau amrywiol o goetiroedd a choedwigoedd yn werthfawr i fywyd gwyllt. Mae’r coedwigoedd yn amrywio gan ddibynnu ar ble maen nhw’n tyfu a’r math o bridd maen nhw’n tyfu arno. Mae’r rhan fwyaf o’r coedwigoedd ynn yn tyfu ar galchfaen carbonifferaidd yn ne’r sir, ar ymylon Maes Glo De Cymru. Yma fe welwch goed eraill fel coed cyll a phlanhigion fel clychau’r gog, blodau’r gwynt, bresych y cŵn, briallu a garlleg gwyllt.

Gwelir coedwigoedd deri yn bennaf yng ngogledd y sir, ac maen nhw’n cynnwys rhywogaethau eraill fel bedw, masarn, celyn a chriafol yn ogystal â phlanhigion megis clychau’r gog, a rhedyn ar y priddoedd cyfoethocach, i lastiroedd glaswelltog lle ceir pori dwysach. Grug, llus a mwsogl a welir yn bennaf ar y priddoedd mwy asidig. Mae rhai yn arbennig o gyfoethog o ran mwsogl, llys yr afu a chen. Mae yma amrywiaeth arbennig o adar bridio hefyd gyda thingochiaid, gwybedogau brith a thelor y coed.

Mae gwiwerod coch yn goroesi yn fforestydd conifferaidd gogledd y sir.

Ceir coetir gwlyb ar briddoedd â draenio gwael neu sy’n wlyb yn ôl y tymhorau, a gwern, bedw a helyg yw’r rhywogaethau amlycaf fel arfer, yn aml wrth lannau afonydd a nentydd neu o gwmpas ffeniau a chorsydd a llynnoedd. Mae tir gwlyb a digon o bren marw’n aml yn ffafrio datblygiad bryoffyt cyfoethog (mwsogl) a chymunedau o infertebratau. Gall coetir gwlyb hefyd ddarparu cysgod a mannau bridio i ddyfrgwn ac i heidiau o linosod pengoch a phibyddion gwyrddion fwydo.

Yn nodweddiadol mae coetiroedd pori a thiroedd parc yn cynnwys coed mawr agored - llawer yn hynafol - dros gynefin glaswelltir a borir yn aml gan wartheg, ceirw neu weithiau ddefaid. Y coed hynafol yw rhai o’r organebau byw hynaf yn Sir Gaerfyrddin, fel arfer tua 250 mlwydd oed gyda chwmpas dros 3 m. Yn aml mae coed hynafol yn bwysig yn ecolegol. Gall yr amrywiaeth o infertebratau sy’n gysylltiedig â phren sy’n pydru fod yn amrywiol iawn ac yn aml yn werthfawr iawn o safbwynt cadwraeth. Gall yr amrywiaeth o gennau hefyd fod yn bwysig, yn enwedig lle nad oes llygredd atmosfferig ar y safleoedd.

Fel arfer coed deri neu ynn sydd amlycaf mewn coetir collddail cymysg yr iseldir. Yn y coedwigoedd hyn gallwch ddod ar draws coed nad ydyn nhw i’w gweld yn yr ucheldiroedd - ceirios gwyllt, castanwydden, coed leim â dail bach a masarn bach. Yn dilyn canrifoedd o gael eu rheoli ar gyfer pren, cynhyrchion prysgoedio a choed tân, mae llawer o’r coedwigoedd hyn bellach wedi’u hesgeuluso. Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfran dda o’r cynefin hwn yng Nghymru. Mae’r coetiroedd iseldir hyn yn rhagorol ar gyfer adar bridio gan gynnwys cnocell y coed fraith fwyaf, fraith leiaf a gwerdd, y dringwr bach, cnocell y cnau a’r dylluan frech.

Mae coetiroedd a fforestydd hefyd yn llefydd da ar gyfer hamdden ac addysg ac yn rhan bwysig o dirwedd Sir Gaerfyrddin. Maen nhw’n creu cyflogaeth a, thrwy amsugno a storio carbon deuocsid, yn chwarae eu rhan wrth frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Rhywogaethau sy'n defnyddio cynefinoedd gweundir: gwiwer goch, rhywogaethau ystlum, titw’r helyg, pathew.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw:

Coetir onnen: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Carmel.

Coetir derw: Gwarchodfa Natur Dinas, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Allt Rhyd y Groes yn rhan uchaf Dyffryn Tywi.

Coetiroedd pori a thiroedd parc/coed hynafol: Parc Dinefwr, Llandeilo, Parc Gwledig Gelli Aur.

Coetir collddailcymysg yr iseldir: Coedwig y Castell Llandeilo, Coedwig Tregib, Llandeilo, Coedwig Castell Moel, Caerfyrddin.

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Marine_cyMae pwysigrwydd sylweddol i’n harfordir i gyd oherwydd ei fywyd gwyllt ac mae wedi’i warchod dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd fel Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin sy’n estyn o Ddinbych y Pysgod yn y gorllewin bron at Drwyn Oxwich yn y dwyrain ac sy’n cynnwys Cilfach Porth Tywyn / Aber Llwchwr ac aberoedd y tair afon Taf-Tywi-Gwendraeth. Ymhlith y cynefinoedd sy’n ffurfio’r Safle Morol Ewropeaidd ceir cynefinoedd morol ac arfordirol (fflatiau llaid, morfa heli) ac adar arfordirol / morol gan gynnwys y fôr-hwyaden ddu ac adar gwyllt sy’n gaeafu a rhydwyr sy’n bwydo yn y morfeydd heli ac ar yr ardaloedd rhynglanwol. Mae gan ein harfordir aberoedd mawr gan gynnwys Afonydd Llwchwr, Taf, Tywi a Gwendraeth ac ardaloedd helaeth o fflatiau llaid a fflatiau tywod sy’n llawn cregyn deuglawr gan gynnwys gwelyau cocos, sy’n bwysig i’r sir yn economaidd.

Mae gan yr arfordir o gwmpas Sir Gaerfyrddin hefyd rai o’r pysgodfeydd môr mwyaf arwyddocaol yn y DU. Mae’r holl draethlin rhynglanwol a dyfroedd y glannau o Bont Llwchwr yn y dwyrain i ffin y sir yn y gorllewin ym Mhentywyn, yn cynnal diwydiant pysgota sy’n bwysig i’r economi lleol ac sy’n darparu cyflogaeth i rai cannoedd o bobl leol.

Tirlun morol ac arfordirol Sir Gaerfyrddin yw un o dirluniau diffiniol y sir, gan gyfrannu’n helaeth at ei chymeriad cyffredinol. Mae hefyd yn bwysig i’n heconomi lleol gan ddenu ymwelwyr a mewnfuddsoddi.

Safleoedd allweddol i ymweld â nhw: pob man ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin!

Ydych chi am wybod pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig? Ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani