• English
  • Hepgor gwe-lywio

Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin

Ffurfiwyd mawnogydd yr iseldir dros filoedd o flynyddoedd ac maen nhw'n enghreifftiau mwyfwy prin o gynefinoedd mawnog pwysig sy'n cynnal bywyd gwyllt sy'n arbenigol ond sydd hefyd dan fygythiad yn aml iawn.  Maen nhw'n gynefinoedd rhyfeddol. Efallai eich bod chi'n gyfarwydd â delweddau o'r corsydd helaeth a geir yn ucheldiroedd Prydain ac Iwerddon ond nid pawb sy'n gwybod bod gan Sir Gaerfyrddin rai corsydd pwysig ar lawr gwlad sydd wedi ymffurfio yn ein tirwedd dros filoedd o flynyddoedd. Olion yw'r corsydd o dirwedd hynafol ond erbyn heddiw amaethyddiaeth a choedwigaeth sy'n ben ar y dirwedd.

Yn 2015 derbyniodd partneriaeth dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin grant o £43,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ymchwilio i rai o'r corsydd hyn a geir yn y sir. Canolbwyntiodd y prosiect ar bum cors ar lawr gwlad ar dir comin yng nghyffiniau Brechfa a Llanfynydd. Mae'r Bartneriaeth yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

Yn ystod eu hanes hir mae mawnogydd wedi cronni'n raddol ac wedi cadw cofnod cudd o'u datblygiad a'r newidiadau a fu yn y dirwedd o'u cwmpas dros filoedd o flynyddoedd. Ar safle Pyllau Cochion ar bwys Horeb astudiodd Prifysgol Abertawe weddillion paill a phlanhigion a gymerwyd o graidd mawn 6m o ddyfnder, mewn cors a ddechreuodd ffurfio ar ôl yr oes iâ ddiwethaf.
Cymerwyd camau i helpu i warchod y cynefinoedd pwysig hyn at y dyfodol drwy greu strimynnau atal tân, cau ffosydd, codi sbwriel, a gwaredu clymog Japan, gan helpu i sicrhau bod y safleoedd yn fwy addas i'w pori ynghyd â'u diogelu rhag tanau bwriadol.

Cydweithiodd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ag ysgolion lleol er mwyn trefnu ymweliadau â chomin Mynydd Bach i ddysgu am y mawnogydd. Hefyd, buon nhw'n cael golwg ar glwstwr o feddrodau o Oes yr Efydd ac yn dysgu rhagor am y dirwedd gynhanesyddol ac am y bobl a fu'n byw yno.
Daeth pobl leol draw i Byllau Cochion i astudio'r fawnog gyda Phrifysgol Abertawe ac i ddysgu rhagor am bwysigrwydd y cynefinoedd hyn ac i weld sut mae'r staff a'r myfyrwyr wedi llwyddo i ddatgloi eu cyfrinachau drwy ddadansoddi craidd mawn o'r safle.

Mae'r tudalennau hyn yn esbonio pam mae corsydd mor bwysig ac yn cyflwyno rhai o ganfyddiadau cyffrous y prosiect – byddan nhw'n rhoi gwedd go wahanol ichi ar gorsydd!

Mae cyforgorsydd wedi bod yn ffurfio ers yr oes iâ ddiwethaf (a ddaeth i ben tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl) mewn pantau bas sydd yn draenio'n wael (ac sydd â sylfaen o glai yn fynych).  Cân nhw eu bwydo gan ddŵr glaw yn unig, sydd ychydig yn asidaidd a heb faeth. O dan y fath amodau dwrllyd, asidaidd ac anaerobig (heb aer neu ocsigen) mae planhigion yn pydru'n araf iawn. Dros filoedd o flynyddoedd mae'r planhigion pydredig – migwyn yn bennaf – wedi datblygu'n fawn (ar raddfa o 0.5–1mm y flwyddyn) ac wedi cronni'n uwch na'r tir o'i gwmpas, gan 'gyforio' dros y gors.

 How Bogs Form Cym (1)

Mae mawnogydd yn ymestyn dros 3% o wyneb y ddaear ac mae 70% o fawnogydd yn Hemisffer y Gogledd, a 10-15% ym Mhrydain. Cyforgorsydd yr iseldir yw pwyslais Prosiect Corsydd Sir Gaerfyrddin ac mae 800 hectar ohonynt yng Nghymru.

Yn Sir Gaerfyrddin, erbyn heddiw, mae'r mawnogydd wedi dirywio llawer o ran eu cyflwr a'u harwynebedd. Dros y blynyddoedd mae llawer wedi cael eu draenio neu eu gorchuddio gan goedwigoedd ac mae'r safleoedd sy'n weddill wedi'u hynysu gan dir amaeth.

 Pyllau Cochion Aerial

Mae gan fawnogydd system ddwy-haen unigryw. Yr haen uchaf, fyw yw'r acrotelm, sydd uwchlaw lefel trwythiad y dŵr. Dyma lle mae'r planhigion yn pydru. Islaw mae'r catotelm, sydd o dan lefel trwythiad y dŵr ac sy'n llawr dŵr yn barhaol, gan atal unrhyw bydredd pellach i'r planhigion. Dyma sut mae mawn yn datblygu. Mae lefel trwythiad y dŵr yn newid o dymor i dymor ac o flwyddyn i flwyddyn ac mae'n pennu'n uniongyrchol pa mor gyflym mae'r mawn yn tyfu. Er enghraifft, yn ystod blwyddyn wleb bydd mwy o fawn yn cronni nag yn ystod blwyddyn sych.

 Peat Core Cym

A wyddech chi?

  • Dan amodau ffafriol mae mawn yn cynyddu tua 1mm y flwyddyn gan olygu bod 1 metr o fawn yn ymffurfio dros 1000 o flynyddoedd. 
  • Dŵr yw 95% o fawn (yn ôl pwysau) ac mae'r 5% arall yn cynnwys planhigion y gors, yn enwedig migwyn. 
  • Mae corsydd ymhlith yr ychydig dirweddau hynafol sy'n edrych bron yn union yr un fath yn awr ag yr oeddynt filoedd o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw'n pontio'r presennol a'r gorffennol. 
  • Mae amaethyddiaeth a choedwigaeth wedi difrodi llawer iawn o fawnogydd. Un o'r bygythiadau mwyaf i fawnogydd yw codi mawn yn fasnachol i gyflenwi garddwyr a thyfwyr. Rhywbeth cymharol ddiweddar yw defnyddio mawn mewn gerddi - dim ond tua diwedd y 1950au y dechreuwyd defnyddio mawn ar raddfa helaeth gan arddwyr. 
  • Mae mawnogydd yn ymestyn dros 3% yn unig o dir y Ddaear, ond credir eu bod yn dal cymaint ddwywaith o garbon â choedwigoedd y byd. Mae cynnal a gwarchod y mawnogydd yng Nghymru yn flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae llawer o bobl yn meddwl mai ardaloedd anial di-nod yw corsydd, ond wrth edrych yn fanylach gwelir planhigion, trychfilod ac anifeiliaid hynod.

Rhywogaethau'r gwlyptir yw'r rhywogaethau sy'n creu mawn. Mae mannau sy'n cynnwys mwsogl fel y migwyn, sy'n debyg i sbwng, yn hanfodol er mwyn i gorsydd ddatblygu ac maen nhw'n gallu bod yn fôr o liwiau pinc, coch, oren a gwyrdd. Mae planhigion mwsoglyd yn tyfu'n agos at ei gilydd ac yn cynhyrchu carped meddal fel sbwng. Mae planhigion ac anifeiliaid microsgopig yn byw yn y dŵr o gwmpas y planhigion mwsoglyd ac yn eu tro mae'r rhain yn fwyd i drychfilod a chorynnod, sy'n fwyd i frogaod, ymlusgiaid ac adar!

Mae nifer o blanhigion wedi ymaddasu i fyw ar gorstir a gellir eu gweld drwy gydol y flwyddyn yn britho'r migwyn a mannau sychach. Fe welwch chi flodau pinc y grug, lliw rhuddgoch y llugaeron, blodau melyn llafn y bladur a phennau gwynion, fflwffog plu'r gweunydd. Mae glaswellt y gweunydd, llus a glaswellt y ceirw yn gallu ffynnu yno hefyd.

Planhigyn pryfysol yw'r gwlithlys sydd â thendriliau sy'n debyg i wallt ac ar flaen y tendriliau hyn mae dafnau llachar, gludiog i ddenu ac i ddal pryfed. Pan fydd y tendriliau'n synhwyro presenoldeb ysglyfaeth, mae'n dal y trychfilyn ac yn ei dreulio a bydd y maeth yn cael ei amsugno gan y planhigyn. Nid yw cynefin asidaidd y gors yn rhoi digon o faeth i'r planhigyn ac felly esblygodd y ffordd reibus hon o fyw.

Gall adarwyr gael cip ar rai o adar prinnaf Sir Gaerfyrddin oherwydd cofnodwyd bod y gïach, y cwtiad aur, y gylfinir, y bod tinwyn a'r cigydd mawr wedi cael eu gweld ar ein corsydd.

  • Gan fod cynefin y gors yn eithaf asidaidd mae'r planhigion sy'n tyfu yno wedi llwyddo i ymdopi mewn amodau anffrwythlon iawn. Maen nhw'n gartref i gymysgedd rhyfeddol o blanhigion ac anifeiliaid prin ac arbennig – gweler yr adran nesaf. 
  • Mae corsydd mawn Cymru yn cynnig cofnod amgylcheddol hanesyddol unigryw o gyfnod yr oes iâ ddiwethaf. Mae'r mawn sy'n cronni yn y mawnogydd yn cynnig cyfle i astudio holl hanes datblygu'r ecosystem drwy gyfrwng gweddillion y planhigion a fu'n gorwedd yno am filoedd o flynyddoedd. Mae'r mawn yn archif sy'n cadw cofnod o'r dirwedd gyfagos ar ffurf gronynnau paill sy'n cael eu chwythu ar wyneb y fawnog ac sy'n cael eu cadw yn y mawn. Gan ddefnyddio cyfuniad o weddillion planhigion (macroffosiliau) a phaill (microffosiliau) mae'n bosibl ail-greu darlun o dirweddau a chyfnodau hinsawdd y gorffennol, ac yn achos mawnogydd Prydain gellir olrhain 10,000 o flynyddoedd o hanes.  
  • Mae mawnogydd yn storio dŵr fel sbwng ac yn helpu i leihau llifogydd. Heb y gallu i gadw dŵr ni fyddai cors yn bodoli. Mae cyforgorsydd yr iseldir yn derbyn eu dŵr i gyd o'r glaw a phennir pa lystyfiant sy'n tyfu yno gan ba mor llawn o ddŵr ydyn nhw. Pan fydd mawnogydd wedi cael eu difrodi gan ddraenio, coedwigaeth neu danau, bydd y gallu hwn i storio dŵr yn lleihau. 
  • Mae corsydd iach yn dal carbon o'r amgylchedd; mae rhai sydd wedi cael eu difrodi yn ei ollwng (gan gyfrannu at y newid yn yr hinsawdd).  Dechreuodd corsydd mawn ddatblygu yng Nghymru a gweddill Prydain rhyw 10,000 o flynyddoedd yn ôl.  Wrth i fawnogydd ddatblygu maen nhw'n cronni carbon sydd wedi'i gasglu o'r amgylchedd gan blanhigion wrth iddyn nhw ffotosyntheseiddio a thyfu. Pan fydd y planhigion hyn yn marw bydd eu gweddillion rhannol bydredig ynghlo yn y mawn dan amodau dwrllyd, anaerobig a bydd hyn yn lleihau pydredd pellach a faint o garbon fydd yn cael ei golli.  Pan fydd wedi'i storio yn yr haen ddwrllyd ar ffurf mawn, bydd y carbon 'dan glo'. O ganlyniad, mae mawnogydd bellach yn dal 30% o garbon daearol a dyma un o storfeydd carbon mwya'r ddaear! 

Mae myfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi dechrau datgelu rhai o gyfrinachau cyforgors Pyllau Cochion ar bwys Brechfa. Dechreuodd y mawn ymffurfio tua 9900 o flynyddoedd yn ôl ac wrth astudio'r paill datgelwyd gwybodaeth ynghylch y newidiadau a fu yn y dirwedd dros y cyfnod hwn. Datgelwyd hanes o danau ar y safle ac mae'n bosib bod tystiolaeth wedi'i darganfod o danau Mesolithig hynafol a fu'n llosgi 8000 o flynyddoedd yn ôl. Bydd cors Pyllau Cochion yn parhau i fod yn beiriant amser i Sir Gaerfyrddin, gan ddatgelu cyfrinachau'r gorffennol o dipyn i dipyn!

Defnyddio mawn fel ‘peiriant amser’

Peat Core Polaroid Cy1. Asesu newidiadau mewn gwlybaniaeth

  • Mae newidiadau yn lliwiau mawn yn rhoi gwybod i ni am y symudiadau o gyfnodau gwlyb i sych yn y gorffennol. 
  • Adlewyrcha lliw mawn uchder y lefel trwythiad a hyd a lled pydredd y mawn. 
  • Yn ystod amodau gwlyb, mae’r lefel trwythiad yn uwch ac mae mwy o fawn yn cronni oherwydd bod y pydredd yn araf. Mae’r mawn sy’n ffurfio o liw goleuach. 
  • Yn ystod amodau sych, mae lefel y trwythiad yn isel ac mae llai o fawn yn cronni gan fod y pydredd yn digwydd yn gynt, gan ffurfio mawn tywyllach ei liw. 
  • Gellir asesu hwn yn weledol neu yn y labordy, gan ddefnyddio technegau arbennig.


Preserved Charcoal CY2. Macroffosilau yn y mawn

  • Wrth i fawn gronni bob blwyddyn, gwarchodir mwsoglau, hadau, darnau o bren, glaswelltydd a darnau o siarcol ynddo. Gelwir y rhain yn facroffosilau. 
  • Macroffosilau sy’n dweud wrthym ba blanhigion oedd yn byw ar wyneb y gors wrth i’r mawn gronni ac a fu’r gors yn destun unrhyw achosion o dân. 
  • O gofnodi’r darnau o facroffosilau ar ddyfnderoedd gwahanol, rydym yn ail-lunio hanes y newidiadau mewn llystyfiant.

Birch Pollen Cy3. Gronynnau paill

  • Crëir gronyn paill gwahanol gan bob gwahanol fath o blanhigyn. 
  • Deillia gronynnau paill microsgopig naill ai o blanhigion sy’n tyfu ar wyneb y gors, neu o’u chwythu i mewn gan y gwynt. Caiff y gronynnau hyn eu dal a’u cadw yn y mawn. 
  • Gan ddefnyddio microsgop yn y labordy, gall gwyddonwyr gyfrif a dynodi’r gronynnau paill penodol a chofnodi newidiadau ar hyd cofnod y mawn. 
  • Mae’r dechneg hon yn ein galluogi i ail-lunio hanes y newidiadau mewn llystyfiant ar wyneb y gors yn ogystal â’r dirwedd o’i hamgylch

Sut mae gwybod pa mor hen yw’r mawn?

1. Dyddio radiocarbon

  • Wrth i bob planhigyn dyfu, mae’n cymryd carbon. Perthyn tair cydran i garbon, Carbon - 12, Carbon - 13 a Charbon - 14. Radio-carbon yw Carbon - 14, ac er mai dim ond olion bychain y deuir o hyd iddynt, mae’n arbennig iawn oherwydd mae’n ansefydlog. Golyga’r ansefydlogrwydd hwn cyn gynted ag y bydd planhigyn neu organeb yn marw, mae’n dechrau pydru ar gyfradd hysbys. Mae hyn yn golygu bod modd troi swm yr olion organig sy’n weddill yn oedran. Gellir dyddio gweddillion macroffosilau a dynnir o sawl dyfnder yn y mawn trwy ddulliau radiocarbon.

Volcanic Ash Cy2. Lludw folcanig

  • Gall dyddodion lludw folcanig ymddwyn fel marcwyr amser mewn corsydd mawn. Pan fydd llosgfynydd yn ffrwydro, bydd gronynnau lludw folcanig by-chain yn gwasgaru ar draws pellteroedd mawr gan wynt, a gallant gwympo ar wyneb y gors mawn a dod yn rhan o’r cofnod. Cynhyrcha losgfynyddoedd ludw a chanddynt olion bysedd cemegol unigryw i’r ffrwydrad hwnnw. O dda-dansoddi olion bysedd yr haenau lludw sydd i’w canfod mewn craidd mawn, a pharu’r rheiny gyda’r ffrwydrad, gallwn bennu oedran y rhan honno o’r mawn.

Dadansoddodd Prifysgol Abertawe graidd mawn o gors Pyllau Cochion. Mae'r diagram hwn yn crynhoi'r hyn ddaeth y Brifysgol o hyd iddo, gyda chymorth darluniadau o'r gors dros y miloedd o flynyddoedd y mae wedi bod yn ffurfio. Ar ochr chwith y diagram gallwch weld y craidd mawn - bron 8 metr o ddyfnder! Mae'r diagram hwn yn dangos y dyddodion llwyd siltiog o glai a ffurfiwyd pan oedd y gors yn llyn bach a sut trodd gwaelod y llyn yn fwy siltiog, gan ddatblygu yn y pen draw, dros filoedd o flynyddoedd, yn graidd mawn yn llawn mater organig. Y rhifau mewn porffor yw'r union ddyddiadau a ddatgelwyd gan y dull dyddio radio-carbon.

Ar bwys y diagram mae lluniau o siarcol, darnau o blanhigion, paill a cherrig bychain, y daethpwyd o hyd iddynt oll yn y craidd mawn. Cliciwch ar yr oriel ddelweddau isod i weld y darluniadau mewn rhagor o fanylder.

Gweler y llinell amser Pyllau Cochion

  • Mae cyforgorsydd yr iseldir ymhlith y cynefinoedd prinnaf yn Ewrop a'r rhai sydd dan y bygythiad mwyaf. 
  • Mae arwynebedd cyforgorsydd yr iseldir yn y Deyrnas Unedig wedi lleihau gan oddeutu 94% dros y ddau gan mlynedd diwethaf, o oddeutu 95,000 hectar i oddeutu 6,000 hectar erbyn heddiw. O blith y cyforgorsydd sy'n weddill, mae 800 hectar yng Nghymru.  Mae angen cynnal a chadw llawer ohonynt er mwyn adfer eu stad naturiol.
  • Mae llawer o gorsydd wedi cael eu draenio i wneud lle ar gyfer amaeth neu mae coed wedi'u plannu arnyn nhw. 
  • Ers yr 1960au defnyddiwyd mawn i wneud compost, sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth mewn garddwriaeth fasnachol ac amatur. Daw'r cyflenwadau mawn o'r Alban ac Iwerddon yn bennaf, a daw cyflenwadau eraill o dramor. 
  • Mae mawnogydd wedi cael eu difrodi, hefyd, gan ddraenio, llygredd, tanau a gor-bori a than-bori. 
  • Pan fydd mawnogydd yn dirywio gall y carbon sy'n cael ei gadw'r tu mewn iddynt gael ei ryddhau i'r amgylchedd a gall hyn gael effaith fawr drwy gyflymu cynhesu byd-eang. 
  • Pan fydd mawnog wedi'i difrodi bydd haen yr wyneb (yr acrotelm) yn aml yn cael ei cholli o achos draenio, pori, coedwigo, llygredd atmosfferig, damsgen dan draed, tanau neu hyd yn oed gyfraniadau amaethyddol megis gwasgaru gwrtaith a hau. Mae hyn yn dinoethi mawn yr is-haen (y catotelm) i effeithiau ocsigen, yr haul, gwynt, rhew a glaw ac felly mae'n cychwyn dirywio gan golli carbon yn ôl i'r amgylchedd ac i gyrsiau dŵr. Mae'n bosibl y bydd llystyfiant megis grug a glaswelltir garw yn dal i orchuddio'r gors, ond nid yw'r tyfiant hwn yn ychwanegu mawn ffres oherwydd nad llystyfiant y gwlyptir mohono.  
  • Mae rhai gwledydd yn dal i gynhyrchu ynni drwy orsafoedd pŵer sy'n llosgi mawn.

Ymgysylltu â'r cyhoedd
Un o brif amcanion y prosiect oedd dangos y corsydd i bobl leol ynghyd â dangos sut yr oedd arolwg yn cael ei gynnal o'r mawn a sut y byddai pobl gynhanesyddol wedi ddefnyddio'r safleoedd. Trefnwyd ymweliadau â'r corsydd a chynhaliwyd digwyddiad arbennig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lle roedd cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am gorsydd a pham y maent yn bwysig.

Ymchwil a rheolaeth
Mae camau rheoli wedi cael eu cymryd i geisio diogelu'r corsydd rhag tanau bwriadol a rhwystro ffosydd a oedd yn draenio dŵr o'r gors. Hefyd dadansoddodd Prifysgol Abertawe graidd mawn i ddatgloi cyfrinachau cors dros filoedd o flynyddoedd.

Ble mae fy Mhrosiect Corsydd agosaf?

Visit i-Local to find your nearest Bog Project.

Diweddarwyd y dudalen ar: 17/03/2017

Logos partneriaid National Botanic Garden of Wales Swansea University Dyfed Archaeological Trust Heritage Lottery Fund

ar-lein am dani