Mae’r cymunedau sydd yn fwy gwydn:

  • Yn ymwybodol o’r risgiau a all effeithio arnynt a pha mor agored y maent iddynt.
  • Yn defnyddio’r sgiliau, gwybodaeth a’r adnoddau sydd ganddynt i baratoi ar gyfer canlyniadau argyfyngau, ac ymdrin â nhw.
  • Yn cydweithio i gyfannu gwaith yr ymatebwyr brys lleol cyn, yn ystod ac ar ôl argyfwng.

Nid yw hyn yn golygu gwneud gwaith y gwasanaethau brys. Mae’n golygu cefnogi eich cymuned, a’r rheiny sydd ynddi, drwy wneud paratoadau synhwyrol a defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd gan y gymuned.