Cynlluniau argyfwng
Mae argyfyngau yn digwydd. Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf yng Nghymru cafwyd tywydd difrifol yn ystod y gaeaf, llifogydd, tarfu ar drefniadau teithio, prinder tanwydd, clefydau anifeiliaid a phandemig ffliw. Mae heriau fel y rhain yn effeithio arnom ni i gyd yn ein bywydau pob dydd, ac mae gan bob cymuned reswm gwahanol dros fod eisiau cynllunio i ddod drwyddynt.
Y newyddion da yw bod y ffordd y mae cymunedau yn eu trefnu eu hunain i baratoi ar gyfer argyfyngau yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr. Mae’r ffordd y mae cymunedau yn dod drwy argyfyngau yn dangos pa mor wydn ydynt – mae hyn yn golygu pa mor dda y maent yn gallu defnyddio’u cryfderau i baratoi ar gyfer, ymateb i ac adfer ar ôl argyfyngau.