Diogelwch Cymunedol

Diweddarwyd y dudalen ar: 30/08/2023

Mae lefel troseddau'n isel iawn ac ardal Heddlu Dyfed-Powys yn ei chyfanrwydd yw'r rhanbarth mwyaf diogel ym Mhrydain. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni beidio â bod yn hunanfodlon ac mae angen i barhau i gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r problemau a glustnodwyd gan gymunedau lleol er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn teimlo'n ddiogel yn yr ardal lle'r ydym ni'n byw. 

Mae Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Gâr yn targedu'r prif broblemau o ran troseddau ac anhrefn ym mhob rhan o'r Sir drwy nodi'r math o droseddau, ble y maent yn cael eu cyflawni ac yn erbyn pwy.