Prif afonydd/môr

Os yw'r llifogydd yn cael eu hachosi gan brif afon neu'r môr, ffoniwch Gyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.

Prif gyflenwad dŵr / carthffos yn gollwng

Os yw'r prif gyflenwad dŵr yn gollwng neu os oes llifogydd yn dod o garthffos, ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.

Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng y prif gyflenwad dŵr yn gollwng a llifogydd dŵr daear ond os oes llif cyson nad yw'n amrywio gyda'r glaw yna gallai hyn olygu mai'r prif gyflenwad dŵr sy'n gollwng.

A oes unrhyw ffynonellau eraill o lifogydd?

Dylid rhoi gwybod i ni am lifogydd o unrhyw ffynhonnell ddŵr arall, er enghraifft:

  • Ffyrdd
  • Dŵr wyneb/daear
  • Nant fach / isafon

Peidiwch ag anghofio, os nad ydych yn sicr o ble mae'r dŵr yn dod, rhowch wybod i ni. Wrth lenwi ein ffurflen ar-lein, rhowch gymaint â phosibl o wybodaeth gan gynnwys unrhyw luniau neu ddeunydd fideo sydd gennych. Bydd hyn yn ein helpu i flaenoriaethu a chyfeirio adnoddau lle y mae arnynt eu hangen fwyaf.

Mewn argyfwng,y tu allan i oriau swyddfa arferol, mae Llesiant Delta yn darparu gwasanaeth mewn argyfwng ar *0300 333 2222. Mae'r rhif ffôn hwn ar gyfer argyfwng ac mae ar gael ar ôl 6pm a hyd at 8.30am ar ddiwrnodau gwaith, ac ar ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gŵyl Banc.

Gallwch roi gwybod nawr am unrhyw achosion brys tu allan i oriau ar wefan Llesiant Delta.

*Mae'n bosibl caiff galwadau eu recordio fel rhan o'n hymrwymiad i hyfforddiant, archwilio a sicrhau ansawdd.



Rhoi gwybod am AM LIFOGYDD / ddraen wedi blocio ar Y ffordd

Rhoi gwybod am UNRHIW lifogydd eraill

Adfer Llifogydd