Hamdden a Gweithgareddau Awyr Agored

Mae gennym amrywiaeth eang o gyfleusterau a gwasanaethau hamdden ac awyr agored i gael mwy o bobl i fod yn fwy egnïol yn amlach, er mwyn annog ffyrdd egnïol ac iach o fyw. Mae hyn yn cynnwys lleoliadau fel canolfannau chwaraeon a hamdden, parciau gwledig ac arfordirol, canolfannau bowlio a rhwydwaith cynhwysfawr o ‘hawliau tramwy’ ar draws y sir. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, clybiau ac amrywiaeth eang o fudiadau i roi mentrau ar waith i annog pobl i fod yn egnïol.