Iechyd yr Amgylchedd

Mae ein Tîm Iechyd yr Amgylchedd yn gweithio’n ddiflino i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau amgylchedd naturiol ac atyniadau diwylliannol Sir Gaerfyrddin, ac mae’n cydweithio â’r bobl leol, ymwelwyr â’r sir a busnesau i ddatrys unrhyw gwynion. Mae ein harolygwyr iechyd anifeiliaid yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth lles ac iechyd anifeiliaid sy'n amddiffyn lles anifeiliaid ar ffermydd, mewn marchnadoedd ac wrth iddynt gael eu cludo.