Safonau Masnach

Mae ein gwasanaeth safonau masnach yn gyfrifol am amddiffyn defnyddwyr a busnesau trwy sicrhau amgylchedd diogel a masnachu teg. Dyma rai o'n meysydd gwaith:

diogelwch nwyddau defnyddwyr
pwysau a mesurau
nwyddau ffug
trwyddedu petroliwm a ffrwydron
masnachu twyllodrus/troseddau ar y trothwy
sgamiau
gwerthu nwyddau i rai sydd o dan oed
disgrifiad o nwyddau neu wasanaethau

Gall Safonau Masnach -

ymchwilio i weithgareddau troseddol parhaus a/neu ddifrifol, er enghraifft y rhai sy'n ymwneud â thwyll, nwyddau ffug, sgamiau, troseddau ar y trothwy ac anfanteision parhaus i ddefnyddwyr;
cefnogi ac amddiffyn pobl agored i niwed rhag cam-drin ariannol ac erledigaeth fynych drwy weithredu mesurau amddiffynnol e.e Truecall o flocio galwadau niwsans, parthau galw heb wahoddiad, cyngor i ddefnyddwyr agored i niwed a gwasanaethau eiriolaeth;
cymryd camau priodol lle mae masnachwr neu fusnes wedi torri deddfwriaeth diogelu defnyddwyr;
cefnogi busnesau drwy gynnig cyngor ac arweiniad busnes;
archwilio busnesau risg uchel.

Ni all Safonau Masnach -

roi cyngor neu farn i ddefnyddwyr am eu cwynion unigol. Mae'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr yn rhoi cyngor ac yn delio â chwynion ar ran Safonau Masnach. 
cymryd camau yn y llys ar eich rhan yn y llysoedd sifil;
cael eich arian yn ôl i chi;
dweud wrthych a ydym yn ymchwilio i fusnes na rhoi gwybodaeth sydd gennym amdanynt.
Os ydych yn rhedeg busnes yn Sir Gaerfyrddin, gallwn roi cyngor ac arweiniad i wneud yn siŵr eich bod yn masnachu o fewn y gyfraith.