Swyddi a Gyrfaoedd
Gwnewch wahaniaeth. Gweithiwch yn Sir Gaerfyrddin.
Mae ein tîm o dros 8,000 o weithwyr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau o'r radd flaenaf i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.
Mae Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i fyw a gweithio. Mae ei harfordir ysblennydd, ei threfi marchnad hanesyddol a'i phentrefi llai yn cadw diwylliant a thraddodiadau unigryw Sir Gaerfyrddin yn fyw.
P'un a ydych chi'n chwilio am waith hyblyg tra bod y plant yn yr ysgol, rôl reoli, neu i gymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, gallwch ymuno â'n tîm blaengar i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill.
Croesewir ceisiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.