• English
  • Hepgor gwe-lywio

Cynllun Parcio i Breswylwyr

Mae cynllun Parcio i Breswylwyr wedi ei gyflwyno yn y trefi canlynol, Rhydaman, Caerfyrddin, Llanelli, Llandeilo a Llanymddyfri. Os ydych yn byw yn y parthau sydd ar gael ar gyfer parcio i drigolion, gallwch wneud cais am drwydded.

Mae hawlenni ar gael i'r bobl hynny sy'n byw yn y parthau trigolion ac yn ddilys am 12 mis. Dylech fod yn ymwybodol  nad yw’r hawlen yn gwarantu lle i barcio eich cerbyd - mae'n dim ond yn rhoi caniatâd i wneud hynny yn y parth addas, os oes lle ar gael. Mae'r caniatâd hwn yn berthnasol yn unig yn ystod y cyfnod dilysrwydd eich hawlen ac o ddydd Llun i ddydd Sadwrn , 08.00yb – 6.00yp.

Nid yw hawlen yn caniatáu i chi barcio ar y canlynol:

  • llinellau melyn yn ystod amser eu weithredu
  • Yn yr ardaloedd cyfyngedig aros ‘un awr’ am fwy nag awr .

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod hawlenni  neu eu cilio os bydd aelwydydd yn camddefnyddio'r cynllun.

I wneud cais am hawlen neu i ofyn cwestiwn, anfonwch neges e-bost atom. Isod ceir crynodeb o’r cynllun, y mathau o hawlenni sydd ar gael, y prawf sydd ei angen, unrhyw amodau a’r costau.

Math o hawlen Nifer yr hawlenni Pris
Preswylwyr 2 Bydd pob hawlen £30. 
Perchenogion cerbydau LPG neu drydan Di-dâl

Preswylwyr-cerbydau modur sy’n pwyso llai yn wag na 2 dunnell fetrig ac/neu yn mesur llai na 5.3 metr (17’ 4”) o hyd neu ag uchafswm o 8 sedd i deithwyr. (Yn cynnwys cherbydau LPG neu drydan).

Cyhoeddir yn ôl dyddiad y cais i Adain Hawlenni Parcio Sir Gaerfyrddin. Mae angen 2 brawf o ran cyfeiriad preswyl ynghyd â phrawf fod gennych hawl i yrru’r cerbyd.

Bydd angen i berchenogion cerbydau LPG neu drydan gyflwyno prawf fod eu cerbydau yn defnyddio LPG neu drydan.


Math o hawlen Nifer yr hawlenni Pris
Ymwelwyr â Phreswylwyr (ceir, a faniau ysgafn yn unig) 1 £30
Cyhoeddir i’r preswylydd cyntaf o bob cartref i wneud cais am hawlen preswylydd. Gellir ei roi hefyd, ar dderbyn cais, i’r preswylwyr hynny sydd heb fod yn berchen ar gar neu heb wneud cais am hawlen i breswylwyr. Os nad ydych wedi gwneud cais am hawlen i breswylwyr rhaid i chi gyflwyno 2 brawf o’ch cyfeiriad preswyl.

Math o hawlen Nifer yr hawlenni Pris
Busnes sydd yn y parth 1 £50
Profion: Mae'n ofynnol cael copi o'r Lluosydd Trethu Annomestig i'r busnes.

Math o hawlen Nifer yr hawlenni Pris
Gofalwr 1 Di-dâl 
Ar gael i breswylwyr sy’n dioddef salwch neu anabledd hir dymor neu sydd angen goruchwyliaeth reolaidd. Bydd angen prawf am yr angen am oruchwyliaeth feddygol.

Os byddwch yn colli neu ddifrodi eich hawlen neu’n newid eich cerbyd ac angen hawlen newydd, bydd angen i chi wneud cais o’r newydd gan amgáu’r holl brofion a’r tâl. Bydd unrhyw hawlen a gyhoeddir yn ddilys am 12 mis o’r dyddiad y’i cyhoeddir. Os byddwch yn newid cerbyd bydd angen i chi ildio eich hawlen bresennol. Codir y tâl i dalu am y costau gweinyddol o gynhyrchu hawlen newydd.

Os byddwch yn newid eich cerbyd dros dro, am gyfnod sydd heb fod yn hwy nag wythnos (h.y. car cwrteisi tra fo eich cerbyd arferol yn cael gwasanaeth/ei atgyweirio, neu gar hurio) gallwch ddefnyddio eich hawlen ymwelwyr.

Os byddwch yn symud o’ch cyfeiriad dylech ddychwelyd eich hawlen(ni) atom fel y gallwn eu canslo. Anfonwch eich hawlen(ni) i:

Cyngor Sir Caerfyrddin
Gwasanaethau Parcio
Bwlch Post 90
Caerfyrddin
SA31 3WR

Mae gwneud hyn yn hollbwysig i gynnal y system hawlenni parcio gan na allwn roi hawlen(ni) i ddeiliad newydd eich cartref nes y byddwch chi wedi dychwelyd eich hawlen(ni) chi.

Os ydych newydd symud i mewn dylech gyflwyno’r profion y gofynnir amdanynt yn yr Adran uchod ‘Crynodeb o Reolau’r Cynllun’. If you move to another permit parking zone you will need to apply for a permit for the new zone. Os byddwch yn symud i barth parcio arall rhaid i chi wneud cais am hawlen ar gyfer y parth newydd. Bydd hyn yn galw am lenwi ffurflen gais o’r newydd, cyflwyno’r profion cywir ac amgáu’r tâl priodol. Cofiwch eich bod yn ildio’r hawlen(ni) oedd yn berthnasol i’ch hen gyfeiriad.

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani