• English
  • Hepgor gwe-lywio

Y Gât

Ygat

Mae'r Gât yn Sanclêr yn gartref i oriel gelf, canolfan arddangos, siop, caffi a llyfrgell Sanclêr. Mae'r adeilad cerrig ysblennydd hwn sydd yng nghanol cefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac a oedd ar un adeg yn felin ac wedyn yn siop nwyddau i ffermwyr, yn parhau i fod yn ganolbwynt tref Sanclêr.

Ar lawr uchaf yr adeilad mae ystafelloedd cynadledda/cyfarfod a stiwdios arlunwyr i'w llogi. Yn ogystal gallwch gynnal parti plant 'Paentio eich Crochenwaith eich Hunan'.

Mae arddangosfeydd a gweithdai yn cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.  I gael gwybod "Beth sy'n mynd ymlaen" yn Y Gât ewch i'w gwefan.

 

Gwybodaeth i ymwelwyr

Y Gât, Heol Pentre,
Sanclêr, Sir Gaerfyrddin
Cymru, SA33 4AA

Ffon: +44 (0)1994 232726
Gwefan: www.y-gat.org | Hoffwch ni ar Facebook: ygatthegate

Diweddarwyd y dudalen ar: 03/05/2016

ar-lein am dani