Gwastraff busnes

Canolfan Ailgylchu Fasnachol

Mae'r cyfleuster ailgylchu newydd hwn sydd wedi'i leoli yn Nantycaws, Caerfyrddin, yn galluogi busnesau i ailgylchu rhagor o'u gwastraff ac i leihau'r costau gwaredu. Mae'r safle'n cael ei redeg gan Cwm Environmental mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei ariannu gan Gronfa'r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Bydd y gwastraff sy'n cael ei gludo i'r safle yn cael ei ailgylchu neu ei ddefnyddio i greu cynnyrch cynaliadwy newydd.

Mae'n rhaid i chi feddu ar drwydded cludwyr gwastraff i ddefnyddio'r safle a chreu nodyn trosglwyddo gwastraff ar gyfer y gwastraff rydych yn ei gludo yno. Mae gwneud cais am drwydded yn hawdd - defnyddiwch y dolenni ar y dudalen hon.

Mae'r eitemau canlynol yn cael eu derbyn yn y safle hwn:

  • Gwastraff Cyffredinol Cymysg
  • Craidd caled
  • Pridd a Gwastraff Gwyrdd
  • Pren
  • Cardbord
  • Plastig
  • Metel
  • Plastrfwrdd
  • Paent peryglus* a phaent nad yw'n beryglus
  • Gwydr
  • Asbestos* – wedi'i lapio ddwywaith
  • Celfi
  • Offer trydanol gan gynnwys oergelloedd*
  • Tecstilau

*Bydd angen nodyn cludo gwastraff ar unrhyw wastraff peryglus.

Bydd staff ar y safle i roi arweiniad a chyngor ynghylch yr uchod. Os oes gennych eitemau gwastraff nad ydynt wedi'u rhestru yma, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol:

commercialrecycling@cwmenvironmental.co.uk

Sylwch fod tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r cyfleuster hwn. I gael rhagor o fanylion ynghylch defnyddio'r safle, defnyddiwch y ddolen isod.

Rheolau newydd ar gyfer ailgylchu masnachol
O 6 Ebrill 2024, bydd rheolau newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym Bydd angen i bob eiddo annomestig wahanu deunyddiau ailgylchadwy o wastraff arall.