Pridiannau Tir Lleol

Mae chwiliadau Pridiannau Tir Lleol yn rhan bwysig o'r broses trawsgludo eiddo. Bydd canlyniadau'r chwiliadau lleol yn hysbysu darpar brynwyr ynghylch gwybodaeth hanfodol am eiddo sydd efallai gan awdurdodau lleol.

Mae'r chwiliad LLC1 yn hysbysu prynwyr am unrhyw gyfyngiadau neu 'bridiannau' sy'n effeithio ar yr eiddo, megis gorchmynion gwarchod coed, hysbysiadau gorfodi, ceisiadau cynllunio a thaliadau ariannol.

Mae'r ffurflenni ymholiad CON29 a CON29O yn rhoi gwybodaeth am faterion megis cynlluniau lleol, priffyrdd, gwaith adeiladu a hawliau tramwy cyhoeddus.

Wrth gyflwyno chwiliadau, a fyddech cystal â:

  • Sicrhau bod y cynllun lleoliad Arolwg Ordnans (graddfa 1/2500) mwyaf diweddar ac o ansawdd da yn cael ei gyflwyno gyda ffiniau'r eiddo wedi'u marcio'n goch. (ac yn cynnwys rhif trwydded Arolwg Ordnans a chydnabyddiaeth)
  • Nodi y caiff gwybodaeth ynghylch ffyrdd ychwanegol sef mân ffyrdd, ffyrdd cefn neu'n ffyrdd sy'n ffinio ei rhoi os cânt eu nodi drwy enw ym mocs 'C' neu os cyfeirir atynt a'u hamlygu ar y cynllun lleoliad sydd wedi'i gyflwyno yn unig.
  • Nodi nad ydym ni'n ateb Rhan 2 Ymholiad Dewisol 4. Gellir dod o hyd i wybodaeth yn ymwneud â hyn ar y Gofrestr Gynllunio.

Ffioedd

Math o chwiliad Ffi gan gynnwys TAW
Chwiliad Safonol (LLC1 a CON29R) £130.80
LLC1 LLC1 yn unig £6.00
Con29R yn unig £124.80
Ymholiadau 5 - 21 £12.00 yr un
Ymholiad  22 £24.00

Gofyn am ddogfennau

Os oes angen copi o ddogfen a ddatgelwyd yn y chwiliad LLC1, cysylltwch â'r Uned Pridiannau Tir Lleol ac amgau copi o'r Atodlen berthnasol o ateb LLC1. Byddwn yn darparu copi ichi neu'n eich cyfeirio at yr Adran berthnasol.

Nid yw'r Uned Pridiannau Tir Lleol yn cadw gwybodaeth am atebion a roddwyd i ymholiadau CON29 a CON290. Felly, er mwyn arbed oedi di-angen, a fyddech cystal â chysylltu â'r Adrannau hynny os oes angen copi o ddogfennau neu gymorth pellach arnoch. Mae'n bosibl y codir tâl am gostau gweinyddol neu lungopio.

Cyflwyno chwiliad