Canllawiau Brexit

Gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, 2020. Mae Llywodraeth y DU a’r UE yn awr wedi dod i gytundeb ar eu perthynas. O 1 Ionawr 2021 bydd newidiadau’n digwydd a fydd yn effeithio ar bob un ohonom – o’r ffordd yr ydym yn trafod busnes i’r ffordd rydym yn teithio.

Os ydych chi'n ddinesydd yr UE gallwch chi a'ch teulu wneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Bellach, mae dyddiad cau'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE sef 30 Mehefin 2021 wedi pasio, fodd bynnag mae rhai amgylchiadau lle gallwch barhau i wneud cais ar ôl 30 Mehefin 2021.  Ewch i dudalen we gov.uk am fanylion. Mae'n rhaid eich bod wedi dechrau byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl faterion yn ymwneud â Brexit ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.