Cyfamod Lluoedd Arfog

I'r rhai sy'n amddiffyn ein cenedl, a hynny gyda balchder, anrhydedd, dewrder ac ymrwymiad, Cyfamod y Lluoedd Arfog yw ymrwymiad y genedl i chi. Mae'n addewid bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn deall - y dylai'r rhai sy'n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin â thegwch a pharch yn y cymunedau, yr economi a'r gymdeithas y maent yn eu gwasanaethu gyda'u bywydau.

 

Gall cyn-filwyr nawr wneud cais am Gerdyn Cyn-filwr

  • Mae miloedd a adawodd y Lluoedd Arfog cyn mis Rhagfyr 2018 yn gymwys i wneud cais.
  • Mae’r cardiau’n cadarnhau statws cyn-filwr ac yn symleiddio mynediad at wasanaethau cymorth.