Diogelu Data

Nod deddfwriaeth ynghylch Diogelu Data yw diogelu eich data personol a sicrhau yr ymdrinnir ag ef yn ofalus ac yn briodol. Mae'r term 'data personol' yn cyfeirio at ystod eang o wybodaeth amdanoch, megis eich enw, eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a'ch manylion ariannol.

Mae'n ofynnol bod yr holl sefydliadau yn cydymffurfio â chwe egwyddor bwysig wrth gasglu data personol ac ymdrin ag ef:

  • Rhaid i ni brosesu data personol mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw.
  • Rhaid i ni brosesu data personol at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon yn unig, a rhaid i bob defnydd arall fod yn unol â'r dibenion hyn
  • Rhaid i ddata personol fod yn ddigonol, yn berthnasol ac yn gyfyngedig i'r hyn sy'n angenrheidiol i'r diben y caiff ei ddefnyddio
  • Rhaid i'r wybodaeth bersonol a gedwir fod yn fanwl gywir a, lle bo'r angen, rhaid ei ddiweddaru
  • Rhaid peidio â chadw data personol yn hwy nag sy'n angenrheidiol
  • Rhaid prosesu data personol mewn modd diogel, gan gynnwys diogelu rhag defnydd anawdurdodedig neu anghyfreithlon, a diogelu rhag colli, dinistrio neu ddifrodi'r data'n ddamweiniol drwy ddefnyddio mesurau technegol a threfniadaethol priodol

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth drwy weithredu'r egwyddorion hynny ym mhob un o'i wasanaethau.

Gallwch gyfeirio hefyd at ein Hysbysiad Preifatrwydd i gael mwy o fanylion ar sut yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth yng ngwasanaethau penodol y Cyngor.

Mae gennych yr hawl i weld gwybodaeth a gedwir amdanoch drwy wneud cais i'r Cyngor. Gallwch:

  • Gael cadarnhad bod data personol amdanoch yn cael ei brosesu
  • Cael copi o'r data personol

Gallwch hefyd gael gwybodaeth atodol am sut mae eich data'n cael ei brosesu, megis y cyfnod yr ydym yn cadw gwybodaeth amdanoch.

Gallwch wneud cais drwy ddanfon ebost i diogeludata@sirgar.gov.uk.

Gallwch hefyd lawrlwytho ein ffurflen gais gan wrthrych data.

Dylech nodi, fel rheol, nad yw'r hawl hon yn caniatáu i chi weld gwybodaeth am bobl eraill.

Yn ogystal, mae'n rhaid i ni sicrhau mai dim ond y bobl sydd â hawl i'w gael sy'n cael unrhyw ddata personol yr ydym yn ei ryddhau. Felly, os ydym yn ansicr pwy ydych, byddwn yn gofyn i chi wirio hyn drwy roi rhagor o wybodaeth.

Mewn amgylchiadau o'r fath, gall fod yn ofynnol i ni weld dogfen sy'n cadarnhau pwy ydych cyn i ni roi unrhyw ddata personol i chi. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o ddogfennau:

  • Tystysgrif geni
  • Pasbort
  • Trwydded yrru
  • Bil cyfleustodau

Mae'n ofynnol i ni ymateb i gais cyn gynted â phosibl; o fewn un mis ar ôl derbyn y cais fan bellaf.  Mae'r Cyngor yn gallu cael dau fis ychwanegol ar ben hynny lle mae'r ceisiadau'n gymhleth neu fod nifer fawr ohonynt.

Mae gennych yr hawl hefyd i weld delweddau ohonoch chi eich hun sydd wedi'u recordio ar systemau Teledu Cylch Cyfyng a reolir gan y Cyngor.

Gallwn ddarparu copi o ffilm teledu cylch cyfyng sy'n cynnwys delweddau ohonoch, os yw'n cael ei gadw gennym. Mae hyn yn amodol ar unrhyw eithriadau a all fod yn berthnasol.

Yn gyffredinol, ymdrinnir â cheisiadau am ffilmiau teledu cylch cyfyng yn yr un modd â cheisiadau am wybodaeth arall, gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod.

Mae angen i chi roi'r wybodaeth ganlynol er mwyn ein galluogi ni i chwilio am unrhyw ddelweddau a gedwir gennym:

  • Lleoliad y system teledu cylch cyfyng
  • Yr amser a'r dyddiad yr ydych yn credu y cafodd y delweddau eu recordio
  • Ffotograff ohonoch chi eich hun, a oedd yn gyfredol ar yr amser y cafodd y delweddau eu recordio

Byddai hefyd o ddefnydd os gallech roi unrhyw wybodaeth arall a fyddai o gymorth i nodi'r delweddau (e.e. unrhyw ddillad penodol yr oeddech yn eu gwisgo ar y pryd). Efallai y bydd angen gwybodaeth arall arnom er mwyn cadarnhau pwy ydych.

Yn ogystal â chael mynediad at y data personol y mae'r Cyngor yn ei brosesu amdanoch chi, mae gennych yr hawl i:

  • Cael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi'i gywiro
  • Gwneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i:

  • Wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Dileu eich data personol
  • Cyfyngu prosesu eich gwybodaeth bersonol
  • Symudedd data

Os mai caniatâd yw'r unig sail ar gyfer prosesu eich data personol, gallwch hefyd dynnu hyn yn ôl ar unrhyw adeg.

I ddarganfod mwy am yr hawliau hyn a sut i wneud cais i'w defnyddio, defnyddiwch y manylion cyswllt a ddarperir ar waelod y dudalen we hon.

Rydym yn cadw gwybodaeth yn unol ag ein hamserlenni cadw.

Mae gennych hawl cyffredinol i weld gwybodaeth a gedwir gennym nad yw'n ymwneud â chi fel unigolyn, ac nad ydym yn ei chyhoeddi fel rheol, drwy gyflwyno cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Rydym hefyd yn dilyn Cynllun Cyhoeddi Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sy'n sicrhau eich bod yn gallu gweld gwybodaeth am y Cyngor yn didrafferth, gan gynnwys data ynghylch gwariant a pherfformiad.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch sut mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu gan y Cyngor, gallwch godi'r mater gyda'n Tîm Cwynion, neu gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ISO).

Cyngor a Democratiaeth