Cynnig Lleol

Mae Cynnig Lleol Sir Gaerfyrddin yn darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau, ac i'w teuluoedd, a hynny mewn un man. Mae'n dangos i deuluoedd yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan amrywiaeth o asiantaethau lleol, er enghraifft addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Cynnig Lleol yn darparu gwybodaeth mewn un man am iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ar gyfer:

  • Plant a phobl ifanc rhwng oedran geni a 25 oed sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Anabledd 
  • Rhieni a gofalwyr plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes iechyd, gofal ac addysg
  • Darparwyr gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc