Hygyrchedd

Ein datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin – www.sirgar.llyw.cymru a newyddion.sirgar.llyw.cymru.

Datblygwyd y wefan hon ac fe'i rheolir gan Gyngor Sir Caerfyrddin. Ein dymuniad yw bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo'r testun hyd at 300% heb iddo ollwng oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.