Talu

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/04/2024

Gallwch wneud y taliadau canlynol ar-lein. Rydym yn derbyn taliadau cerdyn credyd/debyd gyda Visa, MasterCard, Switch, Solo, a Visa Delta.

Yn achos taliadau rheolaidd fel rhenti tai, gofal preswyl, y dreth gyngor, ac ati, y ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o dalu yw drwy ddebyd uniongyrchol. Os hoffech drefnu debyd uniongyrchol ar gyfer y Dreth Gyngor, ffoniwch 01554 742200. Ar gyfer ymholiadau talu eraill, ffoniwch ein gwasanaethau cwsmeriaid ar 01267 234567.

Rydym yn ymwybodol bod rhai cwsmeriaid yn cael problemau o ran talu ar-lein wrth ddefnyddio porwyr gwe Microsoft Edge neu Google Chrome.  Os ceir problemau wrth wneud taliad ar-lein gan ddefnyddio naill ai Microsoft Edge neu Google Chrome, gofynnwn i chi ddefnyddio porwr gwe arall fel Mozilla Firefox neu Microsoft Internet Explorer.  Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i'r broblem i'w datrys cyn gynted â phosibl.

Cofiwch, ni fyddwn byth yn eich ffonio ac yn gofyn ichi dalu dros y ffôn, na gofyn am eich manylion banc. Os ydych yn credu eich bod yn cael eich targedu gan sgamiau drwy lythyr, galwad ffôn, y cyfrifiadur neu negeseuon testun, rhowch wybod inni ar unwaith, e-bostiwch safonaumasnach@sirgar.gov.uk.

Byddwn yn sicrhau bod mwy o'n gwasanaethau ar gael drwy ein gwefan, e-bostiwch digidol@sirgar.gov.uk a dweud wrthym beth yr hoffech allu ei dalu ar-lein.

  • Pob categori