A-Y o Ailgylchu

Diweddarwyd y dudalen ar: 10/04/2024

Gall y rhan fwyaf o'r pethau yn eich cartref gael eu hailgylchu un ai yn eich bag glas neu drwy fynd â nhw i un o'n banciau/canolfannau ailgylchu. Gall pilion llysiau, esgyrn, masgl wy a bwyd sydd dros ben/â llwydni fynd yn eich cadi brown/bin gwyrdd neu gael eu compostio gartref. Byddech yn synnu cyn lleied o bethau sydd angen mynd i'ch bag du.

Cofiwch ein bod yn casglu eich bin gwastraff bwyd gwyrdd bob wythnos ar yr un pryd â'ch bag du neu las.

Os byddwch yn mynd ag unrhyw fagiau du i'r canolfannau ailgylchu, gofynnir ichi eu hagor nhw a'u didoli gan roi pethau y gellir eu hailgylchu yn y bin cywir. Rydym yn argymell eich bod yn didoli eich sbwriel cyn ichi ddod ag ef.

Os ydym wedi methu unrhyw beth o'r dudalen hon neu os oes gennych unrhyw awgrymiadau, e-bostiwch digidol@sirgar.gov.uk.