Diogel o ran Covid-19: 5 cam i fusnesau
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu rheoliadau, sy'n gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Mae camau ymarferol i fusnesau eu cymryd wedi'u seilio ar bum prif gam.
Cyn ailddechrau gwaith, dylech sicrhau diogelwch y gweithle drwy:
- cynnal asesiad risg yn unol â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- ymgynghori â'ch gweithwyr neu undebau llafur
- rhannu canlyniadau'r asesiad risg â'ch gweithlu ac ar eich gwefan
Yn dibynnu ar y sector y mae eich busnes yn gweithredu yn eich asesiad risg, gallai dynnu sylw at yr ystyriaethau canlynol:
- Manwerthu - Cadw pellter corfforol, arwyddion / cyfathrebu, cynllun y siop, pwyntiau mynediad a gadael, nifer y cwsmeriaid y tu mewn i'r siop, symudiadau cwsmeriaid y tu mewn i'r siop, rheoli ciw, darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i staff, sgriniau plastig ar gownteri, dulliau talu, oriau agor a thrin stoc.
- Swyddfa - Cadw pellter corfforol, arwyddion / cyfathrebu, rhannu rota staff, amserau cyrraedd gwahanol, cinio ar amserau gwahanol, cynllun y swyddfa, cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael ei ddarparu neu ar gael, glanhau mwy manwl, teithio, cyfarfodydd, pwy sy'n cael caniatâd i fynd i mewn i adeilad a rhannu offer.
- Caffi / Bwyty - Cadw pellter corfforol, arwyddion / cyfathrebu, darparu ardal fwyta yn yr awyr agored, lleihau nifer y byrddau / cwsmeriaid, rheoli ciw, darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) i staff, sgriniau plastig ar gownteri, gwell glanhau, dulliau talu, defnyddio a rheoli toiledau, oriau agor, cludfwyd/dosbarthu bwyd.
Dylech gynyddu amlder golchi dwylo a glanhau arwynebau drwy:
- annog pobl i ddilyn y canllawiau golchi dwylo a hylendid
- darparu diheintydd dwylo o amgylch y gweithle, yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi
- glanhau a diheintio'n rheolaidd wrthrychau ac arwynebau y mae pobl yn cyffwrdd â nhw'n aml
- glanhau mannau prysur yn amlach
- gosod canllawiau clir ar gyfer defnyddio a glanhau toiledau
- darparu cyfleusterau sychu dwylo - naill ai tywelion papur neu sychwyr trydanol
Dylech gymryd pob cam rhesymol i helpu pobl i weithio gartref drwy:
- drafod trefniadau gweithio gartref
- sicrhau bod ganddynt y cyfarpar cywir, er enghraifft mynediad o hirbell at systemau gwaith
- eu cynnwys yn yr holl gyfathrebiadau angenrheidiol
- gofalu am eu llesiant corfforol a meddyliol
Lle bo modd, dylech gynnal y pellter hwn rhwng pobl trwy:
- osod arwyddion i atgoffa gweithwyr ac ymwelwyr am ganllawiau cadw pellter cymdeithasol
- osgoi rhannu gweithfannau
- defnyddio tâp llawr neu baent i farcio er mwyn helpu pobl i gadw pellter cymdeithasol
- trefnu traffig unffordd ym mhob rhan o'r gweithle os yw'n bosibl
- newid i weld ymwelwyr drwy apwyntiad yn unig os yw'n bosibl
Lle nad yw'n bosibl, rheolwch y risg trosglwyddo trwy:
- ystyried a oes angen i weithgaredd barhau er mwyn i'r busnes weithredu
- cadw amser y gweithgaredd mor fyr ag sy'n bosibl
- defnyddio sgriniau neu rwystrau i wahanu pobl oddi wrth ei gilydd
- defnyddio trefn weithio cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr lle bynnag y bo'n bosibl
- amseroedd cyrraedd a gadael gwahanol
- lleihau nifer y bobl y mae gan bob person gysylltiad â nhw drwy ddefnyddio 'partneru neu dimau sefydlog'
Rydym wedi cynhyrchu canllawiau ychwanegol isod ar bynciau penodol i'ch helpu i gymryd y 5 cam hyn at ailagor eich busnes. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r wybodaeth hon, ac os hoffech i ni ychwanegu unrhyw beth at ein gwefan, e-bostiwch biwrocymunedol@sirgar.gov.uk.
Mwy ynghylch Diogel o ran Covid-19: 5 cam i fusnesau