Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewidiol Sir Gaerfyrddin
Mae'r broses ymgeisio bellach wedi cau. Ymdrinnir â'r ceisiadau ar sail y cyntaf i'r felin. Os bydd cyllid ychwanegol ar gael, gall y cronfeydd hyn ailagor – cadwch lygad ar y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gofynnwch am gael hysbysiad drwy anfon e-bost at economicdevelopment@sirgar.gov.uk
Gall Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewidiol Sir Gaerfyrddin rhoi cymorth ariannol tuag at datblygu adeiladau diwydiannol a masnachol gyda'r prif nod o greu capasiti ar gyfer cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddir blaenoriaeth i geisiadau fydd yn dod â budd gweladwy i’r economi lleol o ran:
- Nifer ac ansawdd y swyddi y darperir ar eu cyfer/swyddi a gaiff eu creu,
- Arwynebedd y llawr a grëir,
- Maint y tir a ddatblygir,
- Nifer y BACH’au y darperir ar eu cyfer,
- Effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg
- Nifer y mentrau yn mabwysiadu neu’n gwella strategaethau cydraddoldeb a systemau monitro.
Nod y rhaglen yw cynorthwyo ymgeiswyr sydd angen cymorth ariannol i’w prosiectau fynd rhagddynt, h.y. os na fyddai’r cyllid ar gael ni fyddai’r prosiect yn mynd rhagddo.
Y Cynnig
Mae’r cyllid ar gael i lenwi’r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo ar y farchnad ar ôl ei gwblhau. Bwriedir i’r cymhelliad hwn roi hwb i nifer yr eiddo busnes o safon uchel sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig arian i ddarparu unedau diwydiannol neu swyddfeydd.
Bydd yn ofynnol hefyd i brosiectau a arweinir gan berchen-feddiannwr (sy’n meddiannu 50% neu fwy o’r adeilad arfaethedig) ddangos cyfleoedd i greu swyddi
Seilir y grant naill ai ar £20,000 am bob swydd a grëir neu hyd at y cyfraddau ymyrraeth canlynol, pa ffigwr bynnag sydd leiaf:
- Busnesau Bach: 45%;
- Busnesau Canolig: 35%;
- Busnesau Mawr: 25%
Penderfynir ar gymhwysedd fesul cais.
Pwysig: Darllenwch y canllawiau cyn gwneud cais
Cyllid
Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol Trawsnewidiol Sir Gaerfyrddin
Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin
Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Grant cychwyn busnes
- Swm y Cyllid
- Cymhwysedd
- Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Offer ail-law
- Creu swyddi
- Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau
- Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- Effaith ar yr Amgylchedd
- Rheoli Cymorthdaliadau
Grant Tyfu ac Adfer Busnes
- Swm y Cyllid
- Cymhwysedd
- Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Offer ail-law
- Swyddi a gaiff eu creu / eu diogelu
- Rheolau caffael - Cael dyfynbrisiau
- Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- Effaith ar yr Amgylchedd
- Rheoli Cymorthdaliadau
Iaith Gwaith
Parcio am ddim yng nghanol trefi
Trawsnewid Trefi
- Swm y cyllid
- Cymhwysedd
- Yr hyn y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Yr hyn na allwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer
- Rheolau caffael – Cael dyfynbrisiau
- Ad-dalu - Pryd efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r grant
- Effaith ar yr Amgylchedd
- Diogelwch
- Awdurdod Statudol a Rheoli Cymorthdaliadau
- Budd i'r Gymuned
- Sut mae gwneud cais
Mwy ynghylch Cyllid