Cronfa Eiddo Gwag Canol Trefi
Caffael
Prynu nwyddau, gwasanaethau neu waith
Mae disgwyl i ymgeiswyr, wrth gaffael gwaith, nwyddau a gwasanaethau, gynnal y broses honno mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn agored, yn rhoi gwerth yr arian ac yn deg. Rhaid iddynt ddilyn y gweithdrefnau caffael fel y maent wedi’u hamlinellu yn yr adran hon.
Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf
Ar gyfer pryniannau o dan £25,000, gofynnir i chi ystyried 'Meddwl Sir Gâr yn Gyntaf' wrth geisio dyfynbrisiau ar gyfer Nwyddau/Gwasanaethau. Felly, rydym yn eich annog i archwilio'r farchnad i ganfod a oes unrhyw fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a all ddarparu'r nwyddau / gwasanaeth rydych chi'n ceisio'i brynu a'u cynnwys yn eich gwahoddedigion i ddyfynbrisio. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin a busnesau sy'n gweithredu o fewn y Sir rôl fawr i'w chwarae yn adferiad economaidd Sir Gaerfyrddin ac mae datblygiad cyflenwi lleol yn sylfaenol.
Trothwyon Caffael
Bydd yr union weithdrefnau sydd i'w dilyn yn dibynnu ar faint y gorchymyn neu'r contract i'w gosod. Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC) gyfres raddedig o weithdrefnau sy’n cydnabod yr angen am ysgafnhau’r gofynion gweinyddol ar gyfer contractau sy’n ymwneud â symiau llai. Dyma'r gweithdrefnau y byddem yn disgwyl i ymgeiswyr gadw atynt:
Hyd at £5,000
Rhaid cael a chadw o leiaf 1 dyfynbris ysgrifenedig.
Mae'n rhaid cael y gwerth gorau am arian ac mae'n rhaid cymryd gofal rhesymol i gael nwyddau, gwaith neu wasanaethau o ansawdd digonol am bris cystadleuol.
Mae'n rhaid cadw cofnod dogfennol i gefnogi'r penderfyniad at ddibenion archwilio.
Rhwng £5,000 a £25,000
Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid i'r dyfynbrisiau fod yn seiliedig ar yr un fanyleb a chael eu gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'.
Mae'n rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig.
Rhwng £25,000 a £75,000
Rhaid ceisio o leiaf 3 dyfynbris ysgrifenedig o ffynonellau cystadleuol*. Mae'n rhaid fod y dyfynbrisiau'n seiliedig ar:
- yr un fanyleb
- yr un meini prawf gwerthuso a'u gwerthuso ar sail 'tebyg am debyg'. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso
- yr un dyddiad cau.
Rhaid cofnodi'r dyfynbrisiau a geisiwyd, y broses werthuso a'r penderfyniad dyfarnu mewn dogfen gofnodedig.
Nwyddau a Gwasanaethau rhwng £75,000 a £173,934
Rhaid ceisio o leiaf 4 tendr o ffynonellau cystadleuol*, gydag isafswm o 2 dendr yn dod i law**.
Mae'n rhaid rhoi'r un wybodaeth i bawb sy’n tendro:
- yr un fanyleb a'r un gofynion,
- amlinelliad o'r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir wrth ddyfarnu'r contract ac,
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau, gydag ymrwymiad i beidio â derbyn ceisiadau ar ôl hynny.
Mae'n rhaid i'r broses werthuso a ddefnyddir gyd-fynd â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd yn wreiddiol a rhaid llunio adroddiad gwerthuso sy'n nodi ar ba sail y dyfarnwyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.
** Os na ddaw mwy nag un tendr i law mae'n rhaid cysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru.
Gwaith rhwng £75,000 a £4,348,350
Rhaid ceisio o leiaf 4 tendr o ffynonellau cystadleuol*, gydag isafswm o 3 thendr yn dod i law**.
Mae'n rhaid rhoi'r un wybodaeth i bawb sy’n tendro:
- yr un fanyleb a'r un gofynion,
- amlinelliad o'r meini prawf gwerthuso a ddefnyddir wrth ddyfarnu'r contract ac,
- yr un dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau, gydag ymrwymiad i beidio â derbyn ceisiadau ar ôl hynny.
Mae'n rhaid i'r broses werthuso a ddefnyddir gyd-fynd â'r meini prawf gwerthuso a bennwyd yn wreiddiol a rhaid llunio adroddiad gwerthuso sy'n nodi ar ba sail y dyfarnwyd y tendr llwyddiannus. Yr arfer gorau yw sefydlu panel gwerthuso i werthuso tendrau.
** Os na ddaw mwy nag un tendr i law mae'n rhaid cysylltu â'r Rheolwr Prosiect o Gyngor Sir Caerfyrddin (CSC), i roi'r manylion a chyfiawnhau'r broses gaffael a ddefnyddiwyd. Bydd yn rhaid i'r penderfyniad i symud ymlaen i brynu gael ei gymeradwyo gan CSC, fesul achos. Mewn amgylchiadau lle mae'n amlwg y gellid ceisio mwy nag un tendr, efallai y bydd yn ofynnol hysbysebu ar wefan GwerthwchiGymru.
Nwyddau a Gwasanaethau mwy na £173,934
Os yw contract am Nwyddau neu Wasanaethau yn debygol o fod yn fwy na £173,934 rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â rheolwr y prosiect i gael gwybod a yw Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE yn berthnasol i'r contract.
Gwaith mwy na £4,348,350
Os yw contract am Waith yn debygol o fod yn fwy na £4,348,350 rhaid i'r ymgeisydd gysylltu â rheolwr y prosiect i gael gwybod a yw Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE yn berthnasol i'r contract.