Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes
Yn yr adran hon
- 8. Canllawiau caffael
- 9. Rheoli Cymhorthdal
- 10. Ar ôl Cwblhau - Telerau ac Amodau
- 11. Adfachu cronfeydd grant
- 12. Rhestr Wirio Cyflwyno
- 13. Sut mae gwneud cais
11. Adfachu cronfeydd grant
Bydd cyllid yn cael ei atal a/ neu, i'r graddau y gwnaed taliad, bydd derbynnydd y grant yn ad-dalu cyllid naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, gan gynnwys os:
- bu gordaliad o gyllid
- yn ystod ei fywyd economaidd, mae'r prosiect yn cael ei newid yn sylweddol a ddiffinnir fel un sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion ac eithrio'r rhai a bennir yn y cais neu sydd â newid perchennog heb hysbysu Cyngor Sir Gâr.
Y bywyd economaidd yw'r cyfnod hyd at 5 mlynedd o ddyddiad talu'r grant yn derfynol a bydd angen ad-dalu cyllid fel a ganlyn:
- O fewn blwyddyn - Cyllid i'w ad-dalu'n llawn
- O fewn 2 flynedd - 80% o'r cyllid i'w ad-dalu
- O fewn 3 blynedd - 60% o'r cyllid i'w ad-dalu
- O fewn 4 blynedd - 40% o'r cyllid i'w ad-dalu
- O fewn 5 mlynedd - 20% o'r cyllid i'w ad-dalu
- Ar ôl 5 mlynedd - Dim cyllid i'w ad-dalu
Mae'r uchod yn ofynion ad-dalu gofynnol.
Rhaid ad-dalu'r grant yn llawn ar gais:
- canfyddir bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw gamliwio mewn cysylltiad â'r cais
- os yw'r ceisydd wedi torri'r ddarpariaeth o amod uchod
- nad yw'r asedau a'r eiddo (os yw'n berthnasol) yn cael eu hailddatgan yn llawn o fewn 12 mis i unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain at golli neu ddifrodi'r eiddo