Grant Tyfu ac Adfer Busnes
Yn yr adran hon
2. Swm y Cyllid
Isafswm y cyllid y gallwch wneud cais amdano yw £1,000 yn seiliedig ar fod o leiaf un swydd yn cael ei chreu neu ei diogelu.
Uchafswm y cyllid y gallwch ei dderbyn yw £10,000. Er mwyn gwneud cais am uchafswm y grant, rhaid creu o leiaf dwy swydd neu ddiogelu 10 swydd.
Gall y cais fod yn cynnwys cymysgedd o greu swyddi newydd a diogelu swyddi presennol sydd mewn perygl
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn:
- 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £5,000 fesul swydd amser llawn* a gaiff ei chreu neu £1000 fesul swydd amser llawn a gaiff ei diogelu** pa un bynnag yw'r swm is.
Er enghraifft:
- Os byddwch yn prynu gwerth £15,000 o eitemau cymwys ac yn creu un swydd, byddwch yn derbyn £5,000 o'r grant.
- Os byddwch yn prynu gwerth £15,000 o eitemau cymwys ac yn diogelu un swydd, byddwch yn derbyn £1,000 o'r grant
- Os byddwch yn prynu gwerth £15,000 o eitemau cymwys ac yn creu 2 swydd, byddwch yn derbyn £7,500 o'r grant.
- Os byddwch yn prynu gwerth £15,000 o eitemau cymwys ac yn diogelu 2 swydd, byddwch yn derbyn £2,000 o'r grant.
- Os byddwch yn prynu gwerth £20,000 o eitemau cymwys ac yn creu 2 swydd, byddwch yn derbyn £10,000 o'r grant.
- Os byddwch yn prynu gwerth £20,000 o eitemau cymwys ac yn diogelu 10 swydd, byddwch yn derbyn £10,000 o'r grant.
- Os byddwch yn prynu gwerth £20,000 o eitemau cymwys ac yn creu 1 swydd ac yn diogelu 5 swydd byddwch yn derbyn £10,000.
* Ystyr amser llawn yw o leiaf 30 awr yr wythnos. Ystyrir bod dwy swydd ran-amser yn gyfwerth ag un swydd amser llawn. Os bydd eich busnes yn creu un swydd ran-amser, bydd y grant yn cael ei dalu ar sail pro rata h.y. 50% o'r costau cymwys neu uchafswm o £2500 fesul swydd ran-amser a gaiff ei chreu pa un bynnag yw'r swm is.
**Rhaid i'r swyddi sydd i'w diogelu fod mewn perygl os nad yw'r prosiect sy'n gysylltiedig â'r grant hwn yn mynd rhagddo.