Mae Tyisha yn newid - Profi'r Farchnad

1. Cyflwyniad

Bydd y newidiadau a osodwyd ar gyfer Tyisha yn cael eu cyflawni fesul cam a bydd yn cynnwys dymchwel tai hen ffasiwn ac adeiladu eiddo newydd sbon. Bydd y tai newydd hyn yn rhoi cyfleoedd i brynwyr am y tro cyntaf, teuluoedd a'r rhai sydd angen tai cymdeithasol. Byddwn hefyd yn gwella'r ardal drwy ddarparu mwy o fannau gwyrdd, creu cyfleusterau cymunedol a gwella'r amgylchedd.

Ochr yn ochr â'r gwelliannau ffisegol hyn byddwn hefyd yn cynyddu ein gwasanaethau cymorth i deuluoedd, ein darpariaeth datblygu sgiliau a'n gwaith allgymorth er mwyn i ni allu gweithio gyda'r gymuned leol yn Nhyisha i ddiwallu eu hanghenion a'u dyheadau.

Mae hyn yn rhan o'n cynlluniau uchelgeisiol i adfywio ward Tyisha ac ardal ehangach canol tref Llanelli sy'n derbyn buddsoddiad enfawr.
Mae preswylwyr wedi dweud wrthym eu bod am gael gwell darpariaeth tai, mwy o gyfleoedd gwaith, amgylchedd glanach a lle mwy diogel i fyw ynddo. Rydym bellach yn barod i gyflawni'r uchelgeisiau hyn.

Nodwch fod y broses Ymgysylltu â'r Farchnad yn Gynnar bellach wedi dod i ben a bydd unrhyw ddiweddariadau yn y dyfodol yn cael eu rhoi drwy wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

Bydd y broses dendro swyddogol yn dechrau'n ddiweddarach yn 2022.