Diweddariadau a Chylchlythyrau Pentre Awel
Diweddarwyd y dudalen ar: 13/05/2024
Bydd Pentre Awel yn cynnal dwy sesiwn galw heibio ddydd Mercher 16 Hydref 2024 rhwng 10am a 1pm (sesiwn bore i brynhawn) a rhwng 5pm a 7pm (sesiwn gyda'r nos) yng Nghlwb Cymdeithasol y Morfa i ymgysylltu â'r gymuned leol yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae’r contractwr adeiladu Bouygues UK, mewn partneriaeth â Buckingham Pools, wedi adeiladu dau bwll amlbwrpas ym Mhentre Awel, Llanelli. Mae'r pyllau'n cynnig cyfleusterau hamdden o safon fyd-eang i'r gymuned leol.
Darllen mwy yn y Newddion.
Cynhaliodd Cyngor Sir Gâr a Bouygues UK ddigwyddiad i ddathlu hysbysfyrddau newydd sbon a ddyluniwyd gan fyfyrwyr Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr yn y datblygiad newydd o fri, Pentre Awel, sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae canolfan gyflogaeth Pentre Awel Bouygues UK ac Acorn by Synergie wedi creu nifer o gyfleoedd gyrfa ym maes adeiladu ar y prosiect nodedig yn Sir Gaerfyrddin.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Daeth timau pêl-droed o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau ynghyd i fynd i'r afael â digartrefedd yng ngŵyl bêl-droed stryd gyntaf Chwaraeon a Hamdden Actif yn Llanelli.
I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion.
Bu Tom Reed, sy’n rheolwr safle cynorthwyol Bouygues UK ac un o gyn-brentisiaid Cyfle, yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau gydag ymweliad â Choleg Sir Gâr yn Rhydaman i gwrdd â’r grŵp presennol o brentisiaid sy’n dysgu am y byd adeiladu.
I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion
Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi nodi 12 mis o adeiladu prosiect nodedig Pentre Awel trwy gwblhau strwythur dur Parth cyntaf y datblygiad.
I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion.
Croesawodd Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr ymwelwyr i seremoni ‘gosod y brig’ swyddogol safle mawreddog Pentre Awel wrth i’r strwythur dur terfynol gael ei gwblhau.
I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion.
Cymerodd pum ysgol leol ran yn y digwyddiad a oedd yn ceisio grymuso dysgwyr i ddarganfod gyrfaoedd mewn adeiladu a dylunio.
I ddarllen mwy ewch i'r Dudalen Newyddion.
Mae tri o drigolion Llanelli wedi ymrwymo i fod yn Genhadon Cymunedol Bouygues UK ar gyfer ei brosiect adeiladu Pentre Awel, a’r gobaith yw y bydd mwy o bobl leol yn ymuno â’r cynllun.
Darllenwch mwy yn y Newyddion.
Mae Bouygues UK a Whitehead Building Services wedi ymrwymo i gefnogi 10 prentis mecanyddol a thrydanol trwy gynllun prentisiaethau ar y cyd Cyfle.
Darllenwch mwy yn y Newyddion.
Mae Bouygues UK a Chyngor Sir Gâr wedi dangos y strwythur dur cyntaf ar gyfer prosiect arloesol Pentre Awel. Dyma’r adeilad cyntaf o bump, a bydd yn gartref i ddatblygiad addysg a busnes.
Darllenwch mwy yn y Newyddion.
Mae Bouygues UK, y prif gontractwr sy’n adeiladu Pentre Awel, sef y datblygiad nodedig yn Llanelli, yn awyddus i siarad â mwy o isgontractwyr lleol sydd â diddordeb mewn gweithio ar y prosiect.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a Bouygues UK wedi lansio Cynllun Profiad Gwaith Sgiliau'r 21ain Ganrif Pentre Awel i rymuso dysgwyr o ysgolion lleol am yrfaoedd ym maes adeiladu a dylunio.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Darllen mwy ar wefan Bouygues UK.
Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy'n dechrau trawsnewid de-orllewin Cymru yn rhanbarth ffyniannus a chynaliadwy i'w drigolion weithio a byw ynddo, wedi cael cydnabyddiaeth drwy ennill nifer o wobrau nodedig y diwydiant yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae dros hanner y prosiectau a rhaglenni bellach wedi ennill gwobrau, sy'n rhoi sicrwydd pellach bod y Fargen Ddinesig mewn sefyllfa dda i fod o fudd i fusnesau a thrigolion Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae arweinwyr y Cyngor yn Sir Gaerfyrddin wedi croesawu David TC Davies AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, i safle datblygiad nodedig Pentre Awel, Llanelli.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae prosiect arloesol Pentre Awel yn Llanelli wedi cymryd cam mawr ymlaen, a bydd y gwaith adeiladu yn dechrau mor gynnar â'r hydref hwn.
Darllen mwy yn Newyddion.
Daeth busnesau adeiladu o bob rhan o dde Cymru ynghyd i ddigwyddiad ‘Cwrdd â’r Prynwr’ cyntaf Bouygues UK i drafod y cyfle i weithio ar barth un o ddatblygiad nodedig Pentre Awel yn Llanelli.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Gwahoddir is-gontractwyr a chyflenwyr lleol i ddigwyddiad 'Cwrdd â'r Prynwr' i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gwaith cyffrous sydd ar gael ar Barth Un prosiect Pentre Awel yn Llanelli, sydd werth miliynau o bunnoedd.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae gwaith wedi cychwyn ar brosiect cyffrous gwerth miliynau o bunnoedd Pentre Awel yn Llynnoedd Delta.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penodi Bouygues UK i ddylunio ac adeiladu Parth Un o ddatblygiad mawreddog Pentre Awel.
Darllen mwy yn y Newyddion.
Datblygu a Buddsoddiad
Mwy ynghylch Busnes