Cyfleoedd Datblygu Penigamp ger Parciau Adwerthu Trostre a Phemberton
Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru
Gofynnir am fynegiannau o ddiddordeb
- 01267 246254
- pedwards@sirgar.gov.uk
Manylion Allweddol
Llain 1
Mae Llain 1 mewn lle amlwg yn y parc adwerthu presennol ac yn cwmpasu oddeutu 5.47 erw, ym mhen dwyreiniol safle adwerthu De Trostre. Ar hyn o bryd, mae swyddfeydd y Cyngor sef Tŷ'r Nant ar y safle hwn. KFC a B&Q sy'n meddiannu'r safleoedd cyfagos. Mae pwll ym mhen gogledd-ddwyreiniol y safle ac mae arolwg ecolegol ar gael sy'n rhoi sylw i'r posibilrwydd o'i symud i safle arall. Ystyrir cynigion ar gyfer y safle cyfan neu ran ohono.
Llain 2
Mae Llain 2 oddeutu 3.16 erw ac wedi'i lleoli ym mhen gorllewinol Parc Adwerthu De Trostre a'r fynedfa i Ystad Ddiwydiannol Trostre o Rodfa'r Gogledd. Pets at Home a B&Q sy'n meddiannu'r safleoedd cyfagos.
Llain 3
Mae Llain 3 oddeutu 1.38 erw ac wedi'i lleoli ger y fynedfa i Ystad Ddiwydiannol Trostre y tu cefn i Barc Adwerthu Trostre. Mae pibell ddŵr o dan rhan o'r safle a nodir y manylion yn yr adroddiad Ymchwiliad Tir.
Dulliau Gwaredu
Gwahoddir darpar ddatblygwyr i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb yn ysgrifenedig ar gyfer un neu ragor o'r safleoedd i'r cyfeiriad isod erbyn 12 canol dydd ar 25 Medi 2018.
- Disgrifiad byr o'r datblygiad o ran y defnydd tir.
- Brasluniau o'r cynlluniau ar gyfer datblygu'r safle.
- Manylion ynghylch cefndir y datblygwyr a chynlluniau tebyg a gyflawnwyd ganddynt.
- Cynnig ariannol ar sail premiwm sengl sy'n daladwy pan dderbynnir y brydles 250 mlynedd a rhent hedyn pupur sy'n daladwy ar ôl hynny.
- Rhaglen ar gyfer datblygu, gweithredu a chwblhau'r cynllun arfaethedig.
- Manylion y cyllid a thystlythyrau ariannol.
- Amserlen bendant ar gyfer y datblygiad.
Gwerthusir y ceisiadau ar sail y cynlluniau a'r cynnig ariannol ynghyd â'r effaith bosibl ar ganol y dref. Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i ddewis y tendr uchaf, nac unrhyw dendr a gyflwynir.