Datblygiad preswyl o 84 o dai
Y Tu Cefn i Ffordd Aneurin, Pontyberem, Sir Gaerfyrddin
Cynigion oddeutu £450,000
- 01267 246256
- JHHumphreys@sirgar.gov.uk
Manylion Allweddol
Mae'r tir ym mhentref Pontyberem ac yn gyfleus i'r cyfleusterau lleol, gan gynnwys Swyddfa'r Post, fferyllydd, siopau, garej, tafarndai ac ysgol gynradd.
- Caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl o 84 o dai. Planning Ref: S/30509
- Arwynebedd y safle: 10.5 erw
- Rhydd-ddeiliadaeth â meddiant gwag.
Mae Caerfyrddin oddeutu 9 milltir i ffwrdd, a thebyg yw'r pellter i dref brysur Llanelli. Mae'n agos i gae rasio Ffos Las, Parc Gwledig Pen-bre a thraeth euraid, hardd Cefn Sidan. Mae Cross Hands, sy'n prysur ddatblygu'n ganolfan, oddeutu 7 milltir i ffwrdd ac yno mae cyswllt â ffordd ddeuol yr A48 a'r M4, a chysylltiadau da ar hyd y ffyrdd â threfi Rhydaman, Llandeilo, Caerfyrddin, Llanelli a dinas Abertawe.