Tir ar werth
Hen safle Gwaith Glo a Chwar Genwen, Y Bynea, Llanelli SA14 9LH
Gofynnir am fynegiannau o ddiddordeb
- 01267 242371
- SJDawson@sirgar.gov.uk
Manylion Allweddol
Safle tir llwyd mawr a saif ar lethr rhannol uchel sydd â golygfeydd i'r de tuag at Aber Llwchwr. Mae'r safle'n cynnwys cymysgedd o dir agored ac ardaloedd gyda rhai coed sydd wedi aildyfu ers iddynt gael eu defnyddio'n ddiwydiannol. Mae nifer o weithiau sylweddol a thomenni gwastraff yn parhau i fod ar y safle. Ceir wyneb yr hen gwar yng nghornel y gogledd-orllewin gyda chlogwyn sylweddol. Mae hen beiriandy cerrig y gwaith glo wedi'i leoli ar ochr ddeheuol y safle ac mae'n heneb gofrestredig.
Mynegiannau o ddiddordeb
Gwahoddir darpar brynwyr i gyflwyno mynegiannau o ddiddordeb a fydd yn cynnwys:
- Disgrifiad byr o'ch cynnig o ran y defnydd tir.
- Manylion ynghylch cefndir y prynwr ac unrhyw gynlluniau tebyg a gyflawnwyd ganddo.
- Cynnig ariannol.
- Amserlen ar gyfer eich cynnig.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r rhain yw dydd Mawrth 4 Medi 2018 a byddant yn cael eu gwerthuso ar sail y cynnig a'r cynnig ariannol. Nid oes rheidrwydd ar y Cyngor i dderbyn y cynnig uchaf nac unrhyw gynnig arall.
Gellir gweld y safle drwy apwyntiad yn unig.