Cofrestru busnes bwyd
Os ydych yn berchen ar fusnes bwyd neu wedi cymryd busnes bwyd drosodd yn ddiweddar yn Sir Gaerfyrddin, mae'n ofyniad cyfreithiol i chi gofrestru eich busnes gyda ni o leiaf 28 diwrnod cyn ei agor neu gymryd perchenogaeth drosto.
Caiff eich manylion eu rhoi ar ein System Gwybodaeth Reoli a bydd eich safle yn destun rhaglen arolygu ar sail risg. Dylech fod yn ymwybodol y bydd manylion penodol a nodwyd ar eich ffurflen gofrestru, fel enw'r busnes; y math o fusnes; cyfeiriad a rhif ffôn, ar gael i'r cyhoedd eu gweld os gofynnir am yr wybodaeth honno. Ni fydd gwybodaeth arall a roddwyd ar gael i'r cyhoedd.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd newid mewn perchenogaeth neu os bydd natur y busnes yn newid.
Nid oes ffi am gofrestru a chaiff y broses ei chwblhau pan fyddwch yn derbyn ffurflen gais wedi'i llenwi. Mae cydsyniad mud yn gymwys. O dan y ddeddfwriaeth, dim ond prosesu eich ffurflen gais er mwyn i chi gael eich cofrestru y mae'n ofynnol i ni ei wneud. Nid oes modd apelio gan fod dyletswydd gyfreithiol gaeth i gofrestru.
Efallai y bydd angen i chi hefyd wneud cais i gymeradwyo safle bwyd, os ydych yn bwriadu defnyddio cynhyrchion heb eu prosesu sy'n deillio o anifeiliaid (e.e. cig ffres, briwgig amrwd, llaeth amrwd neu wyau).